Abbildungen der Seite
PDF
EPUB

Salisbury drachefn i awdurdod, ac y mae wedi llwyddo i gadw llestr y Weinyddiaeth oddiwrth longddrylliad hyd yn awr.

Yr oedd amryw o adranau mesur cyntaf Mr. Mundella yn anghymeradwy gan y blaid Ryddfrydig, ac er mai colled fawr yn ddiau i Gymru oedd yr aflwyddiant yn 1885, eto manteisiwyd ar y cyfwng cyn ei gynnyg drachefn, i'w ddiwygio a'i berffeithio. Yn y ffurf gyntaf arno rhoddid gormod o le i'r elfen appwyntiedig yn hytrach na'r gynnrychiadol, yn newisiad aelodau y pwyllgorau Sirol, ac ni ddarperid ynddo un Bwrdd Addysg Cyffredinol Etholedig i Gymru. Erbyn Chwefror, 1887, y mae gan Mr. Mundella fesur newydd, yr hwn yn ei ffurf orphenol a ddygwyd hefyd o flaen y Senedd yn 1888, yn cael ei gefnogi gan Henry Richard, Osborne Morgan, a phedwar eraill o'r aelodau Cymreig. Dygwyd yr un mesur ymlaen hefyd yn nechreu 1889, yn enw Mr. Stuart Rendel yn gyntaf, yn cael ei ddilyn gan Mr. Mundella a Mr. T. E. Ellis, yr hwn hefyd yw cynsail yr Act bresennol. Gwahaniaetha y Ddeddf bresennol oddiwrth fesur Mundella yn benaf yn ffurfiad y Pwyllgor Sirol, a'i anwybyddiaeth hollol o'r syniad am Fwrdd Addysg Etholedig i Gymru, fel y gwelir eto wrth i ni sylwi ar ei adranau. Darparai Mesur Mundella i'r Pwyllgor Sirol fod yn llawer lliosocach nag ydyw yn awr, ac yn etholedig gan fwy o gyrff cynnrychiadol, ac heb aelodau appwyntiedig o gwbl ynddo. Aelodau y Pwyllgor Addysg Sirol ganddo ef fuasai (1) aelodau seneddol y sir a'r bwrdeisdrefi; (2) un cynnrychiolydd i bob awdurdod iechydol trefol a gwledig; (3) un cynnrychiolydd (a dau os byddai y boblogaeth dros 50,000) i bob cynghor trefol; (4) deuddeg cynnrychiolydd i holl fyrddau ysgol y Sir. Syml iawn yw trefniant y Ddeddf bresennol; dim ond pump aelod o gwbl, tri yn cael eu hethol gan y Bwrdd Sirol, a dau yn appwyntiedig gan y Llywodraeth, am ba achos, dybygid, y gelwir ef yn Bwyllgor Addysg Unedig. Y mae un peth o leiaf yn ei ffafr, sef mai pwyllgor bychan ydyw, canys fel rheol gwneir mwy o waith gan bwyllgor bychan na chan un mawr. Darparai Mundella hefyd Fwrdd Addysg yn ei fesur i fod yn gynnwysedig o naw o aelodau tri yn etholedig gan holl aelodau Seneddol Cymru a Sir Fynwy; tri tros y byrddau ysgol; a thri dros y colegau cenedlaethol-Aberystwyth, Caerdydd, a Bangor, un dros bob un. Yn y Ddeddf, y Dirprwywyr Elusenol sydd yn llanw lle y Bwrdd Addysg, a chyda hwynt yr ofnir cael fwyaf o drafferth, gan mai estroniaid ydynt i Gymru, yn byw ymhell oddiwrth awyr y wlad, ac yn cydymdeimlo mwy gyda'r blaid yn y Dywysogaeth sydd am gadw y gwaddoliadau yn eu meddiant, os gallant, yn hytrach na'u rhoddi i fyny yn rhydd ac ewyllysgar at ddybenion y Ddeddf. Ond ar yr un pryd, gobeithir pethau gwell.

:

Yn gyfochrog a chyfamserol â Mesur Mr. Mundella, dygodd yr Anrhydeddus George T. Kenyon, yr aelod dros fwrdeisdrefi Dinbych, ei fesur yntau ger bron y Tŷ, prif ddarpariaethau yr hwn oedd cael dau Fwrdd-un dros y Gogledd a'r llall dros y De, i ofalu am bob trefniant ynglŷn ag Addysg Ganolraddol. Yn mwrdd y Gogledd yr oedd 30 o aelodau i fod-21 yn etholedig gan olygwyr ysgolion elfenol; 3 gan y colegau enwadol; 2 gan ymddiriedolwyr yagolion gwaddoledig; 2 gan Rydychain a Chaergrawnt; 2 gan goleg

Bangor. Y mae y darpariaethau hyn yn werth eu cofnodi fel esiampl o ymdrechion trengol Ceidwadaeth i gadw yr awdurdod yn llaw aelodau yr Eglwys Sefydledig, trwy olygwyr yr ysgolion enwadol. Ni chlywyd am fesur Mr. Kenyon o gwbl y flwyddyn hon, a diau ei fod bellach wedi ei drosglwyddo i'r limbo of vanities, at lawer o bethau tebyg iddo a gyrhaeddodd yno o dro i dro. Darllenwyd mesur Mr. Stuart Rendel, hyny yw, Mundella, yr ail waith yn Mai heb raniad, ar y dealltwriaeth fod diwygiadau i'w cynnyg ynddo gan y Llywodraeth mewn pwyllgor. Wedi llawer o drafodaeth rhwng yr aelodau Cymreig ac Islywydd y Cynghor Addysg, yn y Tŷ ac mewn cynnadleddau, boddlonwyd i rai o welliantau y Llywodraeth, a rhoisant hwythau i fyny ar fanylion eraill. Darllenwyd ef y drydedd waith, a derbyniodd y sêl Frenhinol ar y 12fed o Awst, a daeth i weithrediad ar y laf o Dachwedd. Bellach, dyma'r peiriant addysgol bron yn gyflawn yn ein gwlad. Y mae genym ysgolion elfenol effeithiol, bron ymhob cymydogaeth; dyma'r colegau cenedlaethol wedi eu gwaddoli, a staff o athrawon yn gyflawn yn dysgwyl am fwy o waith; a bellach, dyma y ddolen gydiol i uno yr ysgolion elfenol â'r colegau wedi ei chwblhau mewn damcaniaeth. Wedi i'r gyfundrefn gael amser digonol i wneyd ei gwaith, pwy a ŵyr na fydd pob peth yn ffafriol i ddwyn allan y maen penaf drwy gael University-gyda gallu i gyflwyno graddau yn y celfau a'r gwyddorau, y rhai yr edrychir arnynt yn gyfartal mewn gwerth i eiddo unrhyw wlad neu unrhyw oes?

Yn awr nyni a osodwn o flaen y darllenydd ddarpariaethau y Ddeddf, gan wneuthur ychydig sylwadau eglurhaol fel y gwelir yn angenrheidiol.

RHAGARWEINIOL.

1. Gellir galw y Ddeddf hon i bob dybenion yn Ddeddf Addysg Ganolraddol Gymreig, 1889, ac i'w deall mor bell ag y bydd hyny yn gyson â'i hysbryd, fel yn un â Deddfau yr Ysgolion Gwaddoledig, o 1869 hyd 1889.

2. Amcan y Ddeddf yw gwneuthur darpariaeth bellach tuag at addysgiaeth ganolraddol a chelfyddydol trigolion Cymru a Sir Fynwy.

Y mae gan Gymru bellach achos mawr i lawenhau o herwydd y sylw arbenig a dalwyd i ddeddfwriaeth ar ei chyfer, a'r breintiau neillduol a ganiateir iddi, ar wahan i bob rhan arall o'r deyrnas gyfunol. O'r blaen yr oedd genym Ddeddf Cau y Tafarnau ar y Sabboth, cyfyngedig i Gymru, yr hon, y mae lle cryf i obeithio, ar ol yr ymchwiliad sydd newydd derfynu ar y cyfan mor ffafriol iddi, a wellheir. Dyna waddoliadau i Gymru hefyd ynglŷn â'r Colegau cenedlaethol, ag y mae rhanau mwy poblog o Loegr yn cenfigenu wrthym o'u herwydd. A thrwy y Ddeddf hon, bydd genym gyfundrefn o addysg ganolraddol nad oes yn Lloegr ddim cyffelyb iddi, er ei bod yn llawer cyfoethocach mewn gwaddoliadau addysgol a phob elusenau eraill, yn ol rhif y boblogaeth Gwelir fod Sir Fynwy hefyd wedi ei chymeryd i mewn yn y Ddeddf hon. Safodd yr aelodau Cymreig yn bybyr dros ei chysylltu y waith hon â Chymru. Gellir edrych ar hyn yn gyfystyr â chonewest wladwriaethol; oblegid heb gleddyf na swn udgorn, fe chwanegwyd sir gyfan, i bob dybenion, at ddeuddeg Sir Cymru; neu yn hytrach, adferwyd Mynwy i Gymru wedi bod ar wahan oddiwrthi am rai cenedlaethau, er ei bod o ran iaith ac arferion mor Gymreig ag

odid Sir yn y Dywysogaeth. O hyn allan gellir dysgwyl gweled Mynwy yn gysylltiol á Chymru ymhob deddfwriaeth wahaniaethol; a diau pe buasai yn un a Chymru yn Neddf Can y Tafarnau, na buasai galw am yr ymchwiliad o gwbl, canys agosrwydd Mynwy i Gaerdydd a fu yn un achlysur mawr o gamddefnyddiad y Ddeddf yn y dref bwysig hono.

CYNLLUNIAU TUAG AT ADDYSGIAETH GANOLRADDOL.

3. (1) Bydd yn ddyledswydd ar y Pwyllgor Addysg Unedig, fel y crybwyllir yn ol llaw, ymhob Sir yn Nghymru a Sir Fynwy, i gyflwyno i'r Dirprwywyr Elusenol, gynllun neu gynlluniau tuag at Addysgiaeth Ganolraddol a Chelfyddydol trigolion eu Sir, naill ai ar eu penau eu hunain, neu yn gysylltiedig â thrigolion unrhyw Sir neu Siroedd cyfagos, gan nodi ymhob cynllun y gwaddoliadau addysgol o fewn eu Sir, pa rai, yn ol eu golygiad hwy, y dylid eu defnyddio i amcanion y cyfryw gynllun.

Nid rhesymol iawn, fel y gwelir, yw lleoliad yr adran hon. Y mae yn dwyn i mewn y Pwyllgor Addysg Unedig cyn dyweyd beth a feddylir wrth y pwyllgor hwnw, yr hyn a roddir yn ol llaw yn adran 5. Yn dra doeth, darperir yma i gynllun y pwyllgor ymwneyd âg ysgolion unigol yn ddiymaros, hyd yn nod pan na bo eu cynllun am yr holl Sir wedi ei gwblhau. Pan na bydd ammheuaeth am barhad yr ysgolion grammadegol yn y manau lle maent yn bresennol, bydd hyn yn fanteisiol er mwyn eu diwygio ar unwaith, pan y mae hyny yn angenrheidiol, a'u cyfaddasu yn fwy trwyadl i amgylchiadau yr oes a'r lle. Cynnwysa yr adran hon hefyd y gellir cysylltu un ran o Sir â rhan o Sir arall er mwyn sicrhau manteision y Ddeddf. Bydd hyn yn gyfleusdra mawr i leoedd poblog sydd yn terfynu ar eu gilydd mewn gwahanol Siroedd. Gallai na byddai un o'r cyfryw ar wahan yn ddigon poblog i sicrhau ysgol, ond mewn undeb â'u gilydd byddent, ac felly mewn pellder rhesymol i blant y ddau le gyrhaedd iddi. A'r gwaddoliadau addysgol yn unig y mae a fyno yr adran hon, ac ymddengys fod yr holl Ddeddf yn anwybyddu pob math arall o waddoliadau; canys ni chynnwysir adran 30 o Ddeddf Ysgolion Gwaddoledig 1869 yn y Ddeddf hon, yr hon sydd yn darparu i'r mân elusenau at roddion, rhanau priodasol, arian prentisiaeth, &c., os yn cael ei argymhell gan y Dirprwywyr, gyda chydsyniad yr Ymddiriedolwyr, gael eu defnyddio at ddybenion addysgawl. Mae yn amlwg fod genethod yn gystal a bechgyn i gael gofalu am danynt gan y Pwyllgor Addysg Unedig, canys y geiriad ydyw "at addysgiaeth trigolion eu Sir." Nid oes gan neb hawl i wreiddio unrhyw gynllun gyda golwg ar roddion, &c., ond y Dirprwy wyr eu hunain; ond ymddengys y gallant, os ewyllysiant, yn ol Deddf 1869, eu cyflwyno i'r Pwyllgor Unedig gyda chydsyniad yr Ymddiriedolwyr.

3. (2) Gall Cynghor Sirol argymhell eu pwyllgor i gynnwys yn y cyfryw gynllun ddarpariaeth i dalu o'r dreth Sirol i fyny i swm heb fod yn fwy na'r hyn a grybwyllir yn y Ddeddf, dreuliadau dygiad y cynllun i weithrediad, neu unrhyw ran o'r cynllun, a gellir rhoddi i mewn, os tybir yn gymhwys, y cyfryw ddarpariaeth yn y cynllun.

Ymddengys mai amcan penaf yr adran hon yw darparu i gynllun y Pwyllgor fod yn gymeradwy gan y Dirprwy wyr Elusenol ar y cyntaf.

Nid ydyw y Pwyllgor Unedig yn rhwym o gyflwyno eu gweithrediadau i gymeradwyaeth y Cynghor Sirol yn ol adran 6 (1), eto diau y bydd y cyfryw gymeradwyaeth yn sicr o ddylanwadu ar y Dirprwywyr. Y mae y swm uchaf y gall y Cynghor Sirol ei ddefnyddio at ddybenion y Ddeddf wedi ei nodi yn eglur yn un o'r adranau dilynol.

3. (3) Bydd i'r cyfryw gynllun, os wedi ei gymeradwyo gan y Dirprwywyr (ar ol y cyfryw ymholiad neu ymchwiliad ag a grybwyllir yn adran 32 o Ddeddf Ysgolion Gwaddoledig 1869), naill ai heb newidiad neu gyda'r cyfryw newidiadau ag y cytunir arnynt gan y Pwyllgor Addysg Unedig, gael ei fabwysiadu a gweithredu arno gan y Dirprwywyr yn yr un dull â phe buasai yn fras-gynllun wedi ei barotoi yn wreiddiol ganddynt hwy.

(4) Os na bydd i'r cynllun gael ei fabwysiadu felly gan y Dirprwywyr, edrychir arno fel cynllun wedi ei barotoi a'i gyflwyno gan gorff llywodraethol o fewn ystyr adran 32 Deddf Ysgolion Gwaddoledig 1869, ac ymddygir tuag ato yn gyfatebol.

Cyfeirio y mae adran 32 yn Neddf 1869 at y gwahanol ddulliau o wreiddio cynlluniau, a'r gwahanol drefniadau i fyned drwyddynt cyn y bydd i'r cynllun dderbyn y gymeradwyaeth derfynol a dyfod i rym. Wrth "gorff llywodraethol" y golygir y personau yn ngofal pa rai y dygir ymlaen drefniadau ysgolion gwaddoledig, neu weinyddwyr unrhyw waddol addysgol. Gellir crynhoi yn fyr ddarpariaethau adran 32, Deddf 1869, fel y canlyn. Pan y mae yn ddymunol ad-drefnu unrhyw waddol addysgol, dyledswydd y Dirprwywyr Elusenol ydyw ffurfio bras-gynllun i'r amcan hwnw, ar ol cynnal y cyfryw arholiad neu ymchwiliad ag a farnont yn angenrheidiol. Wedi ei barotoi, y mae y bras-gynllun yn cael ei argraffu a'i ledaenu ymysg pawb sydd yn dwyn unrhyw berthynas â'r mater. Nid cyn pen tri mis ar ol cyhoeddiad y bras-gynllun, y mae ymchwiliad yn cael ei gynnal i unrhyw wrthwynebiadau a fyddont wedi eu derbyn gan y Dirprwy wyr, ac i unrhyw gynllun arall a gynnygir gan lywodraethwyr y gwaddol. Wedi hyny y mae y Dirprwywyr yn myned ymlaen i ffurfio eu cynllun terfynol, ac yn ei gyflwyno, gydag unrhyw gynllun arall, i sylw y Cynghor Addysg, y rhai sydd yn ei gyhoeddi gyda gwahoddiad i wneyd gwrthwynebiadau neu awgrymiadau. Ar ol cyfwng dyladwy, y mae y Cynghor Addysg, un ai yn cyfeirio y cynllun yn ol i'r Dirprwywyr, neu ynte yn ei gymeradwyo. Os yn cymeradwyo, rhoddir cyfleusdra pellach i'r gwrthwynebwyr, naill ai (1) i ofyn i'r Cynghor Addysg osod y cynllun o flaen y Senedd, neu (2) i apelio yn ei erbyn ar sail gyfreithiol at y Pwyllgor Barnol. Os dychwelir y cynllun i'r Dirprwy wyr, gallant hwy naill ai ei wella neu gyflwyno un newydd i'r Cynghor Addysg, a rhaid myned eto trwy yr un cwrs ag o'r blaen. Amcan hyn oll, yn ddiau, ydyw rhoddi pob chwareu teg i bob buddiannau yr ymyrir â hwynt; ond y mae yma ddigon o brawf mai anffawd fawr fyddai i neb o'r galluoedd hyn anghydweled yn ddifrifol, canys ceid yma gadarnhad effeithiol o arafwch y gyfraith-the law's delay; ac wedi unwaith ddechreu ymgyndynu, byddai llawer bachgen bochgoch yn henafgwr gwyrgam, a'i gyfleusderau addysgol wedi eu colli am byth, cyn dwyn y ddadl i derfyniad. Gan mai y Pwyllgor Unedig sydd yn gwreiddio y cynlluniau yn y Ddeddf Gymreig, nid oes ond gobeithio y gwel y Dirprwywyr yn ddoeth, ar y cyfan, gymeradwyo eu trefniadau.

3. (5) Pan y mae y Cynghor Sirol yn argymhell taliad allan o'r dreth sirol, gellir gwneyd cynllun yn ol y ddeddf hon, er na bo yr un gwaddoliad arall.

Y mae amcan hyn yn syml. Edrychir ar daliad o'r dreth sirol ynglŷn âg unrhyw ysgol, yr un peth a phe bydai yn meddu gwaddold arall yn gystal â'r dreth.

3. (6) Gall y Dirprwywyr Elusenol, os tybiant yn addas, dderbyn cynllun unedig oddiwrth ddau neu ychwaneg o bwyllgorau unedig.

(7) Gall y pwyllgor unedig, yn lle darparu cynllun, osod cynnygion am gynllun ger bron y Dirprwywyr, a gall y cynnygion hyny gynnwys, os yn cael eu hargymhell gan y Cynghor Sirol, daliad allan o'r dreth sirol, &c. [Nid yw rhan arall yr adran hon ond ail adroddiad o 3 (3).]

4. (1) Nis gall Pwyllgor Addysg Unedig, heb gydsyniad y Cynghor Sirol, gyfarwyddo drwy eu cynllun i unrhyw daliad gael ei wneyd allan o'r dreth sirol uwchlaw y swm a argymhellir gan y Cynghor Sirol.

(2) Pan y mae unrhyw ran o dreuliau sefydliad neu gynnaliad ysgol, neu ysgoloriaethau cysylltiol â hi, i'w cyfarfod allan o'r dreth sirol, bydd i gynllun yn dwyn perthynas a'r ysgol hono ddarparu ar fod i'r Cynghor Sirol gael ei gynnrychioli yn ddigonol ar fwrdd llywodraethol y cyfryw ysgol.

Y mae hyn yn dangos mai yn gwbl yn ol trefniant Deddf 1869 y dygir pob Ysgol Ganolraddol yn Nghymru ymlaen, sef y bydd corff llywodraethol yn perthyn i bob ysgol-rhai yn cael eu dewis gan y byrddau ysgol, eraill gan fwrdd y gwarcheid waid, hyd i 9 neu 12 o aelodau; a chyda hwynt y bydd rheoli pob symudiadau lleol ynglŷn a'r ysgol. Dyma'r waith gyntaf i ni gyfarfod â'r gair "Ysgoloriaethau" yn y Ddeddf. Yr ydym yn syniaw y bydd y rhai hyn yn ffurfio rhan bwysig iawn o'r gyfundrefn addysgawl, canys dibyna ei llwyddiant i gyfarfod amgylchiadau Cymru, fel y cawn sylwi eto, ar fod nifer mawr o honynt o fewn cyrhaedd bechgyn a genethod galluog, ond tlodion, i'w cynnorthwyo i ddringo o'r ysgolion elfenol i'r colegau. 4. (3) Darpariaeth sydd yn yr adran hon ar gyfer perthynas y plant âg unrhyw addysg grefyddol a drefnir mewn unrhyw gynllun.

Yn ol adran 19 o Ddeddf 1869, y mae ysgolion ynglŷn â Phrif Eglwysi, a rhai cyffelyb, i gael trefnu eu haddysg grefyddol fel y mynont; ond am bob ysgol arall o dan y Ddeddf Gymreig, darperir, yn y lle cyntaf, fod adran 15 o Ddeddf 1869 i gael ei chadw yn ei chyfanrwydd. Drwy hon gall unrhyw riant neu warcheidwad plentyn, ond anfon mewn ysgrifen at y prifathraw, hawlio i'r plentyn beidio dilyn y gweddiau, addoliad crefyddol, neu wersi mewn pynciau crefyddol; ac na byddo i'r cyfryw blentyn oddef unrhyw golled neu anghyfleusdra gyda golwg ar freintiau eraill yr ysgol o herwydd hyny. Ymhellach na hyn yn y Ddeddf Gymreig, yr hyn ni chynnwysir yn Neddf 1869, darperir "Nad oes i un catecism crefyddol neu ddefodlyfr crefyddol yn perthyn i unrhyw enwad neillduol gael ei ddysgu i ysgolor yn dilyn fel dydd-ysgolor unrhyw ysgol wedi ei sefydlu neu ei rheoli gan gyn. llun y Pwyllgor Addysg Unedig, a bod i'r amseroedd ar gyfer y weddi neu addoliad crefyddol, neu unrhyw wers neu gyfres o wersi ar bwne crefyddol, gael eu trefnu yn gyfleus i'r dyben o ganiatâu ymneillduad dydd-ysgolor oddiwrthynt yn unol âg adran 15 Deddf 1869."

Gwelir nad ydyw darparu addysg grefyddol yn orfodol i unrhyw gynllun. Hyderwn, er hyny, y gofelir am y rhan bwysig hon, canys

« ZurückWeiter »