Abbildungen der Seite
PDF
EPUB

Malurio wnaeth cof-feini gorwych meibion ffawd
Fel eiddo "twmpath gwyrdd" y dyn tylawd.
Aneirif saint a hunant mwy mewn hedd,
Heb garreg lwyd i nodi man eu bedd!
Ac os yw anghof wedi tynnu'r llèn,
Dros feddrod ambell wron dewr, fu'n ben'
Cadfridog; mae ei enw gyda ni,

Yn aros yn ei anniflannol fri.

Wrth dremio i'r gorffennol o'r prydnawn,
Mae'n greadigaeth o gymysgedd llawn;
Rhyw hacrwch hyll, sy'n dilyn swyn. Ceir sail
I dristwch dwfn a chanu bob yn ail.

O! dacw lynoedd dagrau
Gynhyrfwyd gan ffolineb;
Mae'n disgyn ar eu tonnau,
Oleuni tragwyddoldeb;
A dacw fryniau mwyniant,
Yn esgyn i'r uchelion,
Ac engyl y gogoniant

Yn rhodio eu copäon!

Yn ol y maent, byth ni ddychwelant hwy;
Yn ol, yn ol, byth! byth! y ciliant mwy;
A minnau'n mynd ymlaen, ymlaen yn syth,
Ac anfarwoldeb yn cryfhau fy chwyth;
I wneud fy sedd mewn byth-bresennol difrif,
Pan fyddo amser wedi blino cyfrif

Blynyddau einioes, ac yn syrthio'n farwol,
I'w fedd ei hun ym mynwent y Gorffennol!

Pan golla dyn ei hyder,

Mewn ymchwil a dyfaliad,

I'w gwrdd daw ffeithiau lawer,

Ar edyn chwim "traddodiad”;

Os teimlir ambell frawddeg yn eithafol
Symuda seiliau cyfrin y Gorffennol.

Nid cyfrol ddisylwedd o'r gwylltaf ddychmygion,
Ond ffeithiau diymwad yw memrwn adgofion :

Os methodd hanesiaeth ac adgof erioed,

Drwy ysgafn gerddediad roi gwadn eu troed

Ar lawer tiriogaeth fu'n goch a sathredig

Gan draed ein cyn-dadau trwy'r oesau cyntefig; Trosglwyddodd “traddodiad" holl gynnwys ei goffrau,

O'r cynfyd i wared o enau i enau.

Bu llengoedd o engyl mewn mentyll o gnawd,
Ar faes y Gorffennol mewn stormydd o wawd;
Disgleirdeb eu buchedd enhuddai bob bai,
A'u moliant fu unwaith fel llanw di-drai;
Teilyngant hyd eto glodforedd y byd,
A thrylwyr edmygedd y nef ar ei hyd;
Ond ni bu hanesiaeth yn uchder ei bri,
Mor fwyn a throsglwyddo eu henwau i ni.

Bu gan y Gorffennol glaer ddoniau'n ddi-rif,
A thanllyd hyawdledd mor nerthol a'r llif;
Telynau'r cynoesoedd a seinient mor ddiwall
A nodau mawlgerddi cantorion byd arall !
Ond O mae'r Awenydd fu'n synnu y byd,
A'r cerddor melusber yn huno ynghyd,
Heb gofeb o fynor, na chareg fwsoglyd,
Mewn mynwent hynafol i nodi eu gweryd!

Caed llu o ddyngarwyr fu'n addurn i'w hoes,
Ond "Adgof uwch Anghof" o'u rhiniau nid oes;
O binacl anrhydedd, syrthiasant i'w beddau,
Cyn gallodd ysgrifell gofrestru eu henwau.

Trwm huna'r cadfridog fu'n ymladd mor wrol,
Ym medd ebargofiant dan lwch y Gorffennol;
Y milwr clwyfedig a welwyd yn gorwedd,
Yn rhuddwaed ei galon ar faes y gelanedd;
Y march ar ei farchog a syrthiodd yn garn,
Tra'i gledd yn ei ymyl yn goch hyd y carn!
A'r truan anadlodd ei olaf brudd lef,
O geulan y beddrod at orsedd y nef;
Trwy lwybrau y cyfnos doi angel i lawr,
I wylio'r clwyfedig hyd doriad y wawr.
Darganfod y meusydd gan waed wedi eu lliwio,
Fu'r gryfaf demtasiwn i'r angel i wylo;
A themtiwyd ei galon am unwaith i riddfan,
Mewn galar dolefus uwchben y gyflafan!
Os ydyw y milwr dewrfrydig yn gorwedd,
Mewn beddrod anhysbys dan aden dinodedd;
Os na bu i'w glodydd adseiniad byth-hyglyw,
Mae deuparth o'i ysbryd yn aros hyd heddyw.
Tueddfryd hanesiaeth yw dangos o hyd,
Yr anfad erchyllder warthruddodd y byd;
Ond llenni'r Gorffennol anhysbys a gaed,
Yn blygion taenedig dros gefnfor o waed.

Ni byddai y ddaear ond mangre trueni,
Pe na ba'i'r Gorffennol i'w guddio a'i lenni ;
Aeth llawer cenhedlaeth rinweddol i'w bedd,
Yn wlybion ei gruddiau, a gwgus ei gwedd.

Mae'n rhaid fod calon Angau'n berffaith galed,
Cyn gallai glwyfo oesau mor ddiarbed.

Pe cedwid dagrau'r byd o'i gryd trwy'r oesau,
Ymchwyddai'n for a nofiai'r hwyaf longau.
Ac os mai hallt a fyddai dyfroedd hwnnw,
Cerubiaid hoffent rodio brig ei lanw!
Mae halltrwydd dŵr calonau ar ymdorri,

Yn halltach fyrdd na halltrwydd tonnau'r weilgi.

Fy nyddiau ddarfuant-ant heibio ar garlam,
Ond llwybrau fy mywyd ynt droiog a gwyrgam;
Unioni pob llinell o'm gyrfa a wnawn,
A bythol ddifodi'm ffaeleddau pe cawn;
Mi wylwn nes sychu ffynhonnau fy mhen,
Pe cawswn eu cuddio'n dragywydd dan len;
Ond hawddach fai symud y creigiau bob un,
Na datod gweithredoedd fy nwylaw fy hun !

Anwylaf yn gynhes y tymor a fu,

Er fod ei ffurfafen yn dywyll a du:

Mor hapus fydd teimlo yng nglyn cysgod angau,
Fod beiau'r Gorffennol i gyd wedi eu maddau !

Ystrad-Rhondda.

NATHAN WYN.

ADRODDIAD DIRPRWYAETH Y CAU AR Y

SUL YN GYMRAEG.

Cau Ddydd Sul yng Nghymru. Adroddiad y Ddirprwyaeth Frenhinol a benodwyd i Chwilio i mewn i Weithrediad Deddf 1881 er Cau'r Tafarnau Ddydd Sul yng Nghymru. Wedi ei droi i'r Gymraeg gan Ysgrifennydd y Ddirprwyaeth. Cyflwynedig i Ddau Dy'r Senedd drwy orchymyn ei Mawrhydi. Sale of Intoxicating Liquors on Sunday (Wales) Act (1881) Amendment. Bill to amend the Sale of Intoxicating Liquors on Sunday (Wales) Act, 1881. Prepared and brought in by Mr. John Roberts, Mr. Osborne Morgan, Sir Hussey Vivian, Mr. Bryn Roberts, and Mr. Arthur Williams. Ordered, by the House of Commons, to be printed, 30th April, 1890.

Y MAE Adroddiad y Ddirprwyaeth ar ein Deddf i Gau ar y Saboth erbyn hyn yn ffaith hanesyddol o'r fath ystyr a phwysigrwydd fel na ddylai fod eisieu athrawiaethu nemor yn ychwaneg yn ei chylch yng Nghymru. Fe fyddai yn ddieithr meddwl fod neb o fewn ein terfynau heb wybod am y grochlef a godwyd yng Nghaerdydd oedd yn galw am ymchwiliad o'r fath; neu am y parodrwydd a ddanghosodd ein Llywodraeth-ac yn amlwg yn y gobaith o allu boddhau y tafarnwyr trwy ddiddymu yr Act-i benodi y ddirprwyaeth; neu am y dyhewyd canmoladwy a ddanghosodd gwladgarwyr Cymru ymhob man i roddi eu tystiolaeth o flaen y boneddigion a ddanfonwyd i wneud yr ymchwiliad-tystiolaeth ag oedd bron i gyd yn mynd i'r un cyfeiriad, a chydwybod Cymru oll yn nerth iddi; neu am y casgliad cryf a gonest a dynnodd y Dirprwywyr-a hynny er gwaethaf eu rhagfarnau eu hunain ac amcan y Llywodraeth a'u penododdoddiwrth y tystiolaethau a osodwyd o’u blaen. Yr oedd yr holl bethau hyn ychydig amser yn ol yn llyncu bryd ein cenedl; ac yn awr ni ddylem eu hanghofio. Ni ddarfu i Gymru erioed weithredu yn fwy teilwng o honi ei hun. Y mae eto i fynnu gweled fod yr argymhellion y teimlai y Dirprwywyr yn ddyledswydd arnynt eu gwneud, yn cael eu cario allan. Er mwyn hynny, dylai astudio yr Adroddiad; ac er mwyn hynny drachefn, da gennym ei fod wedi ei gyhoeddi yn Gymraeg. Ac y mae hyn yn dangos "fod y ddaear yn troi." Ychydig flynyddau yn ol ni fuasai waeth meddwl am ei gael yn iaith Persia nag yn iaith Cymru, er mai â Chymru, ac â miloedd lawer nad ydynt yn darllen ond Cymraeg y mae a fynno. Mawr ddiolch i'n cynrychiolwyr Seneddol dewrion sydd yn hyn hefyd wedi ymladd ein brwydr. Ond byddai yn annheilwng o honynt hwy fod y llyfr hwn, nad yw ei bris ond grôt a dimai, heb ei brynu a'i ddarllen gan lawer o'n cydwladwyr. Byddai yn ddigalon iawn iddynt, pe yn gofyn am beth o'r fath eto, orfod gwrando ar un o swyddogion y Llywodraeth yn dweud yn y Ty eu bod wedi argraffu cynifer o gopïau o'r Adroddiad hwn yn Gymraeg, ac nad oedd -dyweder-mo'r ddegfed ran o'r argraffiad wedi cael galw am dano. A dylai darllen yr Adroddiad fod yn nerth i ni fynnu cael y diwygiadau yn y Ddeddf y gorfodid y Dirprwywyr i gydnabod fod yn rhaid eu cael.

Er mwyn sicrhau hynny yr oedd yn dda iawn gennym weled fod Mr. John Roberts yn dyfod a'i Fesur er corffori y Diwygiadau a argymhellai y Dirprwywyr. Wrth reswm, nid oedd gan y Llywodraeth hamdden i feddwl am ddim o'r fath. Pe buasai y Dirprwywyr yn galw am ddiddymu yr Act, fe fuasai hynny—yn enwedig wrth feddwl am y prysurdeb digyffelyb a ddanghosid ym mhenodiad y Ddirprwyaeth yn fater tra gwahanol; ond gan na fynnent ond ei chadarnhau, ac mewn ffordd o gyfyngu ar eu cyfeillion y tafarnwyr, er fod hynny yn cael galw am dano gan Gymru oll, nid oedd yn werth meddwl am drafferthu yn ei

gylch. Ac nid oedd yn werth diolch i'r Dirprwywyr hyn, fel yr adgofiai Syr Wilfrid Lawson y Llywodraeth eu bod wedi gwneud gyda'r Ddirprwyaeth yn achos Parnell a'i gyfeillion, am eu llafur a'u gwaith rhagorol. Y mae hyn oll yn dangos y dylem ni, ac yn fwy penderfynol fyth, ofalu am y mater hwn ein hunain, a nerthu breichiau Mr. Roberts a'n cynrychiolwyr ereill i fynnu y diwygiadau yn y Ddeddf ag teimlwn oll eu bod mor anhepgorol. Yr oedd gweddeidd-dra neillduol yn y ffaith fod Tad y Ddeddf Gymreig yn cynnyg y diwygiadau y mae naw mlynedd o brofiad, a hynny yn ol y Dirprwywyr eu hunain, wedi dangos na ellir gwneud hebddynt. Ac yn sicr fe fyddai cael y pethau y gofynnir ar danynt yn y Mesur hwn yn ddaioni mawr. Yn un peth, fe osodid cloffrwym ar y creadur barus "y gwr ar ei daith" ar y diwrnod da a fyddai yn fawr ymwared. Hefyd fe orfodid clybiau i osod eu hunain dan reolaeth a lesteiriai yn fawr eu gallu i fod o gymaint melldith. Diogelid ni hefyd rhag tai annhrwyddedol (shebeens), a chymdeithasau ymyfed, a chyfanwerthiant sydd yn hudoliaethus i ddiota, ac ymyfed ar y Sul yng ngorsafoedd y rheilffordd. Ac heblaw hyn oll, fe sicrheid arolygiaeth llawer mwy effeithiol ar yr holl fasnach. Buasai yn dda gennym ni weled y tafarnau yn cael eu cau yn gwbl ar y dydd cyntaf o'r wythnos, oblegid fel y dywedodd Prif Gwnstabl Mon, y Milwriad Thomas, o flaen y Dirprwywyr ym Mangor,-Nid oes bona fide travellers yn y wlad hon y mae angen tafarnau agored iddynt ar y diwrnod hwnnw. Ond anhawdd feallai fuasai cario hynny yn awr, hyd yn oed yng Nghymru; ac y mae yn sicr fod y pethau a argymhella y Dirprwywyr, ac a gorfforir yn y Mesur rhagorol hwn o eiddo Mr. John Roberts, yn dyfod yn nesaf at eu cau yn llwyr : ac ni ddylem oddef ond mor ychydig o oediad ag a fo yn bosibl cyn cael gwneud y Mesur yn Ddeddf.

Ond ar wahan oddi wrth gynnwys y llyfr hwn, y mae ei weled fel yma "wedi ei droi i'r Gymraeg," a hynny gan y fath wr â'r Proffeswr Rhys, yn bwnc o ddyddordeb neillduol. Chwedl yntau, "Nid mynych y troir peth fel yr Adroddiad hwn i'r Gymraeg, ac nid yw'r gorchwyl yn un o'r hawddaf." Yr oedd anhawster mawr yn fynych i gael geiriau cyfaddas, ac mewn rhai amgylchiadau nid oedd dim i'w wneud ond gosod delw Gymreig ar yr estroniaid, a son am siebîn, betio, casgenni, dociau, pin (“gwnai dri balir 24 pin "), siawns, fforffedio, cyrnal, potelu, chwart, peint, &c. Nid drwg ychwaith fuasai fod “osai” yn ein cyrraedd mewn gwedd haws ei adnabod, oblegid nid oes ond ychydig yn gwybod mai cider ydyw. Yr oedd Beale, awdurdod uchel yn yr ail ganrif ar bymtheg ar gynhyrchion y berllan, yn ei alw yn seider, gan ei gymeryd yn air Prydeinig, er y tybir yn gyffredin ei fod yn dyfod o sikera y Groeg, a gyfieithir "diod gadarn." Gair Wycliffe oedd sydyr. "For he schal be gret before the Lord; and he shall not drinke wyn ne sydyr." Siarada ein cydwladwyr yng nghyffiniau Sir Henffordd am “syched seidyr.” Gwnai "seider" Beale enw Cymraeg rhagorol arno. A pham nad cider? Ni fyddai perygl felly, ysywaeth, i haiach Gymro o ddeng mil betruso am ei ystyr, neu ei swnio mewn ffordd fai yn anghymeradwy gan ei gyfeillion ffyddlonaf. Pan y mae gair, o ba gyfeiriad bynnag, wedi dyfod i'n plith a chartrefu ar dafod y werin, neu na ellir ei well i ddangos a arwyddocâ, cymhendod ydyw i ni betruso ei ysgrifennu hefyd, fel y gwna cenhedloedd ereill. Ond deilliai y prif anhawsterau yn y cyfieithiad hwn o'r "gwahaniaeth cyrhaeddbell sydd rhwng dull y Cymro a dull y Sais o gyfleu ei feddwl." Mae sylwadau Mr. Rhys ar hyn mor dda fel y teimlwn awydd i'w gosod yn gyflawn o flaen y darllennydd: :

Digon hawdd egluro hyn gyda golwg ar ddansoddeiriau; nid oes gan y Cymro gynifer o honynt o lawer, ac ni ddefnyddia'r rhai sydd ganddo yn yr un dull a'r Sais. Er profi gwirionedd yr haeriad olaf, troer i'r Gymraeg y gorchymyn Seisnig, Mind your own business. Nid neges yw business na galwedigaeth, nid gorchwyl na gwaith, am ei fod yn bob un o honynt a chwaneg hefyd. Ond amheus yw, ai'r Sais a bieu'r fantais bob amser: er

engraifft, pan fyddo'r Cymro'n "rhoddi cyfraith ar droseddwr," yr hyn a wna'r Sais yw "take proceedings against him at law;" a'r ddau ddarlun a ymrithiant o flaen y meddwl yw, gwr difrifol o Sais a'i ysbryd dan faich penagored y “proceedings," a Chymro difater wedi gollwng ci ar ysgyfarnog. Un o'r manteision a ddeilliant i'r Saesneg o gael ei hysgrifennu gymaint, ydyw, y dichon bellach ddarpar yn hwylus dros ben at lefaru llawer heb ddywedyd nemawr i ddim; ac nid llwyr y cenfydd y Cymro waced ar y cyfan yw geiriau fel respectively ac actually ac in the case of, nes gafael yn y gorchwyl o'u troi i w iaith ei hun. Ond y mae prinder dansoddeiriau yn y Gymraeg, o gymharu eu nifer a'r eiddo'r Saesneg, yn achos o anhawster gwirioneddol i'r cyfieithydd. Llefara'r Sais a chyfansodda mewn dansoddeiriau; caiff y synwyr a'r ystyr a fynno'i chyfleu wedi ei gwneud i fyny'n sypynnau parod i'w defnyddio, a thuedda hynny i arbed llawer o'r drafferth o feddwl, y rhaid i'r Cymro fyned drwyddi wrth wneud y sypynnau i fyny at ei wasanaeth ei hun. Tebyg yn hyn o beth yw'r Sais i ddyn yn myned i dŷ yn y dref i brynu pwys o ryw nwydd cyffredin neu gilydd, ac yn ei gael gyda'i fod yn gofyn am dano, am ei fod wedi ei bwyso a'i bacio eisoes. Tâl am dano a gedy ei fendith ar y gwerthwr am ei fod mor barod; ond dichon iddo ar ol cyrraedd adref gael nad yw'r nwydd gystal ag y disgwyliasai, ac nad yw i'r pwysau y dylasai fod. Tebyg ar y llaw arall yw'r Cymro i ddyna bryn mewn pentref gwledig, ac a erys i'r nwydd gael ei bwyso a'i bacio; ac a gymer, am nad yw ar frys, gyfleustra i edrych ai da ai drwg a fo, ac a ydyw i'r pwysau priodol am yr arian. Y mae i'r naill ffordd a'r llall ei mantais a'i hanfantais: yn iaith ddansoddol y Sais, ffydd yw sicrwydd y pethau nid ydys yn eu gweled, ond dichon i'r sicrwydd hwnnw fyned weithiau dan gwmwl. Yn y Gymraeg rhaid i'r Cymro gadw ei olwg yn barhaus ar y pethau yr ydys yn eu gweled, a thynnu ei ddansoddiadau o honynt fel yr a rhagddo gyda'i bwne-rhaid iddo wynebu'r drafferth lesol o feddwl yn ddi-baid, a pheidio dibynnu, gymaint a Sais, ar feddwl wedi ei baratoi gan eraill.

Nid rhyfedd fod y Proffeswr dysgedig yn gallu traethu mor ragorol am yr anhawsterau pan newydd fod yn y fath drafferth gyda hwynt yn y cyfieithiad hwn. A gallai aml i Gymro ieuanc gael llawer o wersi tra gwerthfawr wrth gymharu yr Adroddiad yn fanwl yn ei ffurf Seisnig ac yn ei wisg Gymreig. Y mae yn rhagoriaeth neillduol arno ei fod mor ddealladwy, ac yn darllen mor llithrig yn yr hen iaith. Heblaw hynny, fe geir ynddo nid yn anfynych y fath eiriau da a dulliau hapus ar frawddegu ag sydd yn dra hyfryd eu cyfarfod. Y gair am enactments yw "deddfiannau," a'r ferf ydyw "deddfiannu." Precedent ydyw "engraifft i'w dilyn"; nuisance ydyw "casbeth"; going into details ydyw "ymfanylu." Mae y bona fide traveller-fel yn sicr y dylai fod, ond na fu mewn odid engraifft o ddeng mil-yn "deithiwr gwirioneddol," Nid ydyw to direct proceedings to be instituted against such purchaser, ond “erchi rhoddi cyfraith ar y cyfryw brynwr." Nid ydyw rhoddi adran neillduol o ddeddf in extenso, ond ei rhoddi “ar ei hyd.” Nid hawdd Cymreigio actually, megis pan ddywedir that money actually passed or that the liquor was actually consumed; ond yma y mae yn "ddarfod i arian gael eu talu neu i'r ddiod gael ei hyfed." Y consumer or intended consumer ydyw "y dyn a yfai neu a geid ar fedr yfed." Excise license yw "trwydded o'r Dollfa Ddiod; sydd yn absolute, "heb eithriad iddynt"; mae groups of men yn ddynion," gangs of men yn “heidiau o ddynion,” a two groups yn Suburbs yw “is-drefydd," a back-streets, "heolydd o'r neilldu." testimony yw" croes-dystiolaeth"; factor yw "gweithredydd"; dissolute yw "penrydd"; myned on wheeled vehicle yw "myned ar olwynion"; census yw "cyfrifeb"; refreshment room yw "adlonfa," a drinking place, "diodfa"; anomaly yw "anghyfrediad "; ac nid yw yr ymadrodd dysgedig prima facie, ar yr olwg gyntaf." Gair da a chryno am magistrate ydyw "hedd-ynad. Ceir Cymreigiad rhagorol ar enwau swyddogion yr heddlu a'r fyddin. Policeman yw "heddgeidwad"; police sergeant yw "hedd-swyddog"; police-superintendent, "uch-heddgeidwad"; inspector of police, "hedd-arolygwr"; chief constable, "prif heddgeidwad," a deputy chief constable, "is-brif heddgeidwad”; major, “uch-gadben "; colonel, "cyrnal"; lieutenant-colonel, “is-gyrnal.” Yr un pryd, fe geir rhai geiriau nad ydynt yn llawn mor gymeradwy. Pan ddywed

ond "

66

mae pethau fageidiau o “ddau dwr.”

Conflict of

« ZurückWeiter »