Abbildungen der Seite
PDF
EPUB
[graphic]

AND SONS, SHEFFIELD.

"NID OES GWELL BWYD YN BOD."-London Medical Record. Wedi ei Goginio yn barod-nid oes eisieu ei ferwi a'i ystraenio.-Gellir wneyd mewn mynyd.

Allen & Hanburys Infants Food

Bwyd Llesol wedi ei gyfaddasu i organau treuliol 3abanod a Phlant leuaine, yn cynwys pobpe angenrheidiol i ffurfio cnawd caled ac esgyrn.

BIRD'S CUSTARD POWDER

Cyflenwa foethusfwyd dyddiol-Blasusfwyd mewn amrywiaeth diderfynY dysgleidiau goreu a'r Custard goreu heb Wyau.

Y TRAETHODYDD.

MR. DAVID DAVIES.

Y MAE Cymru lawer yn wacach o golli ein cydwladwr galluog a charedig o Landinam. Yr oedd ei enw ef ers llawer o flynyddoedd bellach yn dra adnabyddus yn ein gwlad, a llanwai le tra mawr ym mywyd ei genedl. Yr oedd iddo ddynoliaeth gyflawn a chadarn, ac nid oedd terfyn ar ei ynni. Yr oedd ei anturiaethau yn fawrion, a phrofasant yn hynod o lwyddiannus. Ac heblaw y darfu i'w lwyddiant ddwyn iddo ef ei hun ddirfawr gyfoeth, fe agorodd efe adnoddau ei wlad hefyd yn y fath fodd fel ag i brofi yn llwyddiant i filoedd lawer. Yn goron hefyd ar y cwbl, yr oedd ei gymeriad trwy ei oes yn bur, yn hardd, ac yn hawddgar iawn, ac fe gafodd y fraint o farchnata gyda'r talentau a ymddiriedwyd i'w ofal fel daionus oruchwyliwr ar bethau a roisid yn ei law gan Ddwyfol Diriondeb, ac y disgwylid iddo ryw ddiwrnod roddi cyfrif am danynt i Arglwydd nef a daear. Yr oedd ei Angladd yn un o'r rhai hynotaf a welwyd un amser yn ein gwlad. Er fod Llandinam ymhell o fod yn hawdd ei chyrraedd, eto yr oedd yno dyrfa fawr iawn wedi dyfod ynghyd o bob cwr ar y Dywysogaeth, ac amryw o bellder mawr mewn rhannau ereill o'r deyrnas; yr oeddynt hefyd yn gynrychioliad na ellid ddisgwyl mewn nemawr i angladd o wahanol gylchoedd cymdeithas; ac oll, er y gwahaniaethau mawrion a'u hysgarent mewn llawer o ystyriaethau ereill, yn un yn eu dwfn barch i'r tywysog a'r gwr mawr oedd wedi syrthio yn Israel, a llawer o honynt yn barod i eneinio â dagrau y llwch y gosodid ynddo weddillion un ydoedd mor anwyl yn eu golwg. Yr oedd y nifer dra lliosog o goronblethi-y rhai oeddent wedi eu gwneud i fyny o'r blodeu mwyaf cain, ac yn y dull mwyaf chwaethus-yn dangos ymdrech brydferth i roddi datganiad i deimladau nad yw iaith ond cyfrwng pur annigonol i roddi mynegiad iddynt; ac yn neillduol yr oedd yr agwedd ddifrifddwys a theimladol oedd ar y dorf fawr o 66 wyr bucheddol" oedd wedi dyfod ynghyd, yn dystiolaeth o'r fath werthfawrocaf i gymeriad Mr. Davies, ac yn dangos y chwithdod a'r dwfu alar a deimlid o'i golli. Dylai ei enw a'i hanes ef fod yn werthfawr gan y Cymry am amser maith, ac ni allai ei anrhydeddu lai na phrofi yn nerth ac yn ddyrchafiad i genedlaethau ydynt eto heb eu geni. O barch a chariad ato, ac er mwyn diogelu gwersi mawrion ei fywyd a'i gymeriad i'n cydwladwyr, ac yn enwedig ein pobl ieuainc ymhob man, fe ddymuna y TRAETHODYDD gael gosod ei faen ar ei garnedd.

Fel y rhan fwyaf o gymeriadau mawrion y byd, nid ydoedd yn ddyledus ond i fesur bychan am yr hyn ydoedd oddieithr i Dduw, ac iddo ei hunan. Yr oedd ei rieni mewn amgylchiadau tra chyffredin, ond yn bobl onest a diwyd, ac yn barchus iawn yngolwg eu cymdogion. Fe'i bendithiwyd drwyddynt a chyfansoddiad o ddirfawr nerth a gwydnwch. Er na wybu erioed am brinder, eto fe'i dygwyd i fyny mewn amgylchiadau na oddefent foethusrwydd, ac a'i dysgent o'i ddydd

iau boreuaf i arfer diwydrwydd, ac i wneud beth bynnag a allai tuag at gadw pethau i fyned yn y ty ac ar y tipyn tir yn y Draintewion, lle, ar lethr brydferth mynydd Llandinam, yr agorodd ei lygad ar y byd Rhagfyr 18, 1818—y “tri deunaw" fel yr arferai ddweud. Yn arbennig fe'i dysgwyd o'i febyd i wneud yn fawr o ordinhadau yr Efengyl, i ofni Duw ac i gilio oddiwrth ddrygioni. Adwaenwn ei fam ym mhrydnawn ei heinioes fel gwraig ddoeth a chrefyddol, yr hon a anrhydeddid yn ei hardal fel "mam yn Israel," ac yr edrychid arni fel yn amlwg addfedu i wlad well. Efe ydoedd yr hynaf o naw o blant. Nes bod yn un mlwydd ar ddeg oed, elai i'r unig ysgol ddyddiol yn y gymdogaeth, yr hon a gynhelid yn Eglwys y plwyf yn Llandinam. Prin y gallai fod wedi dysgu nemawr yn yr ysgol honno; ond dyna, ysywaeth, yr holl ysgol a gafodd o gwbl. Bu raid iddo wneud i fyny am y gweddill o'i addysgiaeth trwy droi yn athraw iddo ei hun. Byddai ei hen gyfoedion yn hoff o adrodd mai efe, yn y chwareuon ymhlith y plant, fel wedi hynny ymysg dynion, fyddai yr arweinydd a'r tywysog. My heart leaps up when I behold

A rainbow in the sky;

So was it when my life began,

So is it now I am a man;

So be it when I shall grow old,

Or let my die!

The child is father of the man,

And I could wish my days to be

Bound each to each by natural piety.

Mae'n ymddangos y byddai ei dad, yn ychwanegol at drin y tyddyn, yn gwneud cryn lawer mewn ffordd o brynu coed, a'u llifio a'u gwerthu yn blanciau i'r cymdogion, ac hefyd, fel y delai ymlaen, at wasanaeth yr ardaloedd o amgylch. Dysgwyd yntau yn bur fuan i ymarfer a llifio, a chyrhaeddodd fedr a rhwyddineb mawr yn y gwaith. Wedi cyrraedd ei lwyddiant, a phan yn ymgais am fyned i Dy y Cyffredin yn 1865, edliwiai gweithiwr iddo un diwrnod ei fod yn anghofio rhai oedd wedi bod yn gweithio gydag ef mewn dyddiau llai llewyrchus. "Sut?" gofynai yntau. Atebodd y dyn iddo ef fod yn cydweithio ag ef fel llifiwr. "Ie," ebe yntau, "ond y fi bob amser oedd yn benllifiwr, onidê ? " Yr oedd hynny, mae'n amlwg, yn gryn wahaniaeth; a top sawyer y parhaodd efe i fod hyd y diwedd. Yn yr un ymgyrch etholiadol fe dybiai gwrthwynebydd yr oedd yn ysgorn ganddo feddwl fod y fath un yn ymgais am y fath anrhydedd, ei fod yn ei andwyo am byth wrth edliw mai “hen lifiwr" ydoedd. "Ie," meddai, gan deimlo ei fod yn ormod iddo ddal y demtasiwn o "ateb yr ynfyd yn ol ei ynfydrwydd," "a llifiwr fuaswn i eto pe buasai eich pen chwi gennyf." Fe ddanghosodd yn bur gynnar ei fod yn dra gwahanol i lifwyr yn gyffredin. Pan nad ydoedd ond ugain oed, bu farw ei dad, ac yna yr oedd gofal cynhaliaeth ei fam a'r holl deulu yn disgyn arno ef. Yr oedd ei ffyddlondeb i'w fam, a'i ymdeimlad o'r cyfrifoldeb ychwanegol oedd wedi disgyn arno, yn peri deffroad newydd i'w ynni a'i feddylgarwch. Gweithiai yn rhyfeddol o galed, ac nid ymddanghosai fod hynny yn mennu ond ychydig arno; wedi gweithio ereill i lawr, byddai efe bron mor heinif i fynd ymlaen gyda'i orchwylion a phe na buasai ond yn dechreu ei ddiwrnod. A chadwai ei feddwl ar waith yn y fath fodd fel ag i droi pob ymdrech o'i eiddo i'r fantais oreu. Coffeir fel un o'i droion ffodus cyntaf, fod y Capten Crewe Reid yn cyfeirio ei sylw at dderwen mewn cae o'i eiddo yr oedd arno eisieu cael ymadael a hi, ac yn gofyn a roddai efe bum punt am dani? "Gwnaf," meddai yntau; ac wedi ei thorri i lawr a'i llifio yn blanciau, fe'i gwerthodd am bedwar ugain punt. Y contract cyntaf a gymerodd oedd i wneud ffordd a phont dros yr Hafren, lle yn awr y saif Stesion Llandinam; a gwnaeth y gwaith hwnnw mor

ddiymdroi ac mewn dull mor foddhaol fel y dywedir i Mr. Penson, y County Surveyor, gymell ar ei fod yn cael £15 yn ychwaneg na phris y cymeriad am ei boen; ac felly y bu. Arweiniodd hynny at gymeriadau ereill dan Mr. Penson, ac er fod y gwr hwnnw mor fanwl gyda golwg ar weithiad ei gynlluniau fel ag i beri i amryw gymerwyr a weithient dano fethu yn eu hamgylchiadau, yr oedd Mr. David Davies yn gallu rhoddi y fath foddlonrwydd iddo fel ag i arwain i gymeriadau ychwanegol, ac felly i ddwyn iddo ei hunan lwyddiant mwy. Byddai yn siarad yn barchus iawn am Mr. Penson, ac yn cydnabod iddo fod yn fawr ar ei ennill o ddyfod i gyffyrddiad a gwr o'r fath allu a manylder, yn gystal ag o'r fath gymeriad anrhydeddus. Mewn amser, ymadawodd y teulu o'r Draintewion i'r Neuaddfach, lle yr arhosodd ei fam hyd y diwedd. Yna cymerodd efe Dynymaen, ffarm sydd yn awr mewn cysylltiad â Phlas Dinam, preswylfa hardd ei fab, Mr. Edward Davies. Yn 1850 ychwanegodd ati Wernerin, ffarm fwy, yr ochr arall i ddyffryn prydferth yr Hafren. Pan yn cael ynghyd ei stoc ar gyfer Gwernerin, adroddir ystori ddyddorol am dano mewn arwerthiad yn prynu gwartheg. Wedi sicrhau amryw o'r rhai yr oedd ganddo ffansi iddynt, ac yr oedd ganddo ef farn ragorol am werth anifeiliaid hefyd,— ymddengys fod yr arwerthwr wedi mynd i deimlo yn bryderus am y prïodoldeb o daro i lawr ychwaneg o eiddo i un oedd mor gyffredin ei ymddanghosiad, ac mewn ffordd gynnil fe anturiodd ofyn iddo am ei feichia. Tynnodd yntau o'i boced bwrs cryf oedd wedi mynd dipyn yn waeth ar ei wisgo, ond yr oedd yn amlwg fod cryn bwysau o'i fewn, a dywedodd, “Dyma fy meichia, ddyn, ewch ymlaen." Yr oedd croesaw iddo wedyn i brynu faint a fynnai.

Tua'r amser yma, pan yn gwneud pont dan Mr. Penson, gerllaw Llanfair.caereinion, yn agos i gapel Soar,―y capel y dygodd y diweddar Syr Watcyn y fath warth ar ei enw trwy ei gymeryd oddiar y Methodistiaid am fotio yn ol eu cydwybod yn 1868,-y daeth i gydnabyddiaeth â Miss Margaret Jones o'r Wern, yr hon yn 1851 a ddaeth yn wraig iddo. Mae Mrs. Davies yn chwaer i'r Parch. Evan Jones, Brynhafren, gynt o Lawrycwm, ac fel yntau yn un o rai rhagorol y ddaear. Fel y dywedir am Lydia, y mae hi o'i hieuenctid wedi bod yn “ffyddlawn i'r Arglwydd," ac y mae ei air a'i achos Ef wedi bod bob amser yn agos iawn at ei chalon. Ni ddigwyddodd i mi erioed gyfarfod a gwraig mor hyddysg yn yr Ysgrythyrau; anhawdd iawn fyddai i neb grybwyll unrhyw ymadrodd yn y Llyfr Sanctaidd nad allai hi adrodd yn drefnus yr adnod y bydd yn rhan o honi. Ac yn ychwanegol at ei hyfforddiad da, ei synwyr, a'i charedigrwydd, y mae gras wedi gosod y fath werth a'r fath hawddgarwch ar ei chymeriad fel nad oes neb yn ei hadwaen nad ydyw hefyd yn ei mawrhau ac yn hoff o honi. Dyma rodd fawr Duw i Mr. David Davies; ac nid oedd yn bosibl i unrhyw wr ddangos gwerthfawrogiad mwy caruaidd o'r trysor a ymddiriedwyd iddo. Byddai yn hyfryd ganddo gydnabod y rhwymau yr ydoedd danynt iddi, a chymaint a wnaeth i'w gryfhau ymhob daioni.

Wedi hyny y dechreuodd ar ei anturiaethau mawrion. Wrth wneud y Smithfield yng Nghroesos wallt, daeth i gydnabyddiaeth â Mr. Thomas Savin, a chydag ef fel ei bartner fe ymgymerodd â gwneud rheilffordd o Lanidloes i'r Drenewydd. Yr oedd honno yn 12 milldir o hyd, ac heb reilffordd yn nes ati na Chroesoswallt, na dim mantais well i gludo pethau ati na'r canal oedd yn rhedeg i'r Drenewydd. Yn wir wedi ei gwneud, bu raid cario y pedair engine oedd yn angenrheidiol i'w gweithio, ynghyda'r cerbydau, ar wageni wedi eu gwneud i'r perwyl, o Groesoswallt, pellder o dros 36 milldir. O ddiffyg arian i orffen y ffordd honno, bu raid i'r partneriaid gymeryd y rheilffordd o Ddinbych i Rhyl i'w gwneud, yr hon a orffenwyd yn 1858. Yna dychwelasant at ffordd

Llanidloes a'r Drenewydd, yr hon a orffenwyd yn 1859. Yna ymgymerasant a gwneud y rheilffordd o'r Drenewydd i Groesoswallt, yr hon a orffenwyd yn 1862. Mewn cysylltiad â Mr. Ward, gwnaethant reilffordd arall o Aberhonddu i Ferthyr Tydfil, ac ymgymerasant â gwneud y llinell ymlaen o'r Drenewydd i Fachynlleth. Y pryd hynny yr oedd Mr. Savin yn cael ei feddiannu gan ysbryd anturio, a hynny, nid yn unig gyda rheilffyrdd, ond hefyd gyda chael hotels mawrion a chostus yn Aberystwyth, y Borth, Aberdyfi, &c., gan gredu nad oedd eisieu ond felly agor y wlad, na fyddai dylifiad pobloedd o bob cwr ar y deyrnas iddi. Yr oedd Mr. Davies, fe ŵyr pawb, yn barod i fentro, ond nid heb reswm. Mewn un o gyfarfodydd Cymdeithasfa a gynhaliwyd yn yr hen amser yn y Bala, pan yr ymdrinid â'r pwnc o Ffydd, dywedai Mr. Charles yn uchel wrth John Evans, yr hwn bellach oedd drwm ei glyw, "Y maent yn dweud mai mentro ydyw ffydd." "Ie," meddai yntau, "ond mentro a'i llygaid yn ei phen y mae." Ac ni fynnai Mr. Davies fentro ond a'ilygad yn ei ben. Ac y mae yn brawf rhyfedd o gyflymdra ei feddwl a chywirdeb ei farn, na ddarfu iddo o gwbl wneud unrhyw gamgymeriad mewn contract. Wedi dangos iddo y cynlluniau am y Smithfield yng Nghrocsoswallt, gofynai yr awdurdodau faint o amser oedd yn angenrheidiol iddo i wneud ei feddwl i fyny am ba swm y cynhygiai ei gwneud; atebodd yntau yn y fan, "Pum munud." Yr oedd y fath ateb o'i eiddo, pan oedd pawb ereill oedd wedi eu gweled yn gofyn am rai dyddiau, yn ddigon i gymeryd ymaith eu hanadl. Yr oedd efe yn barod o fewn ei bum munud, ac fel arferol, ni wnaeth gamgymeriad. Ond gwelai fod Mr. Savin gyda'r anturiaethau mawrion y mynnai ymgymeryd â hwynt yn mynd ar ei ben i ddinystr, a mynnodd ddirwyn i fyny ei bartneriaeth, gan adael y Rheilffordd Gambriaidd o Fachynlleth i Aberystwyth i Mr. Savin, a chymeryd ei hunan y llinell o'r Drenewydd i Fachynlleth, yr hon y golygid ei bod yn fargen llawer salach. Fe ddigwyddodd yn gwbl fel y disgwyliai i Mr. Savin, a mawr fu y trychineb. Fe ymroddodd yntau yn ei ffordd ei hun, a chydag ynni difesur i gwblhau y ffordd o'r Dre newydd i Fachynlleth. Yr oedd y pris yn isel, a chraig galed Talerddig yn peri iddo lawer o bryder. Yr oedd tynnel i'w wneud trwy y graig honno, ac ofnsi am beth amser yr âi i brofedigaeth gyda hi. "Dyna lle y safai," meddai wrth gyfaill ar ol hynny, "y graig oedd i fy ninystrio." Ond ymosododd arni gyda phenderfyniad di-droi yn ol; a chafodd ei bod yn ymagor mor ragorol fel y gallodd lawenhau calon y Cyfarwyddwyr trwy ddweud y gwnai agoriad ynddi yn lle ei thynelu; a chafodd am ei boen gyflawnder o'r cerrig goreu i wneud yr holl bontydd oedd yn eisieu, ac er gwaethaf caledrwydd y cymeriad fe enillodd arno lawer o filoedd o bunnau. Yn lle bod yn graig ei ddinystr, dywedai iddi brofi yn "" graig ei iachawdwriaeth." Wedi hynny, mewn undeb a Mr. Ezra Roberts, o Lanelwy, gwnaeth Reilffordd Penfro a Dinbych y Pysgod, yr hon a agorwyd yn 1863. Yna mewn undeb â Mr. Beeston, gwnaeth y Rheilffordd o Aberystwyth i Bencader, ac wedi hynny gwnaeth ei hunan yr un o Gaersws i Fwngloddiau y Fan, yr hon oedd y Rheilffordd olaf a wnaeth.

Yn 1865 yr ydym yn ei gael gyda boneddigion ereill, yn agor Pyllau Glo yng Nghwm Rhondda, ac efe oedd enaid yr anturiaeth fawr honno, yn gystal â'r cyfran-ddalydd mwyaf o lawer ynddi. Yr oedd anhawsterau ynglyn a'r rhai hyn na allesid eu gorchfygu ond trwy ynni, synwyr da, ac ymadferth dihysbydd Mr. Davies, Trafferth fawr oedd cael y tir i agor y pyllau. Yr ydoedd ym meddiant Mr. Crawshay Bailey, ac nid oedd y bonheddwr hwnnw yn foddlawn i'w osod i'r fath amcan. Mwyaf ymdrechgar oedd Mr. Davies i'w gael, mwyaf ystyfnig oedd yntau yn ei benderfyniad i'w omedd. O'r diwedd dywedodd wrth Mr. Davies nad oedd arno ef eisieu gosod ei dir i rai ag oedd a'u bryd ar ennill a mentro. Dywedodd Mr. Davies nad oedd efe felly, ond mai

« ZurückWeiter »