Abbildungen der Seite
PDF
EPUB

gynwysedig o greigiau wedi eu crybychu a'u nydd-droi yn fawr iawn. Mor belled, mor dda.

Gadewch i ni yn awr ystyried beth sydd wybyddus am ddyfnder a chylchlinelliad y mor-welyau. Mewn erthyglau blaenorol yn y TRAETHODYDD* fe roed hanes am rai o ganlyniadau archwiliadau diweddar i'r eigion, y rhai a ddanghosent fod y moroedd mawrion-y Werydd, y Tawelog, a'r Indiaidd-yn ostyngiadau yn y grawen o ddyfnder tra mawr. Y dyfnder mwyaf a gyrhaeddwyd yn archwiliadau y "Challenger" oedd 26,850 o droedfeddi, tua phum milldir, yn y Tawelog, gerllaw arfordir Japan. Yn awr y mae yn ffaith hynod fod copa uchaf yr Himalayas yn codi i ychydig uwchlaw yr uchder yma, fel y mae arwyneb y mor yn gwneud gwastad sydd tua chanol y ffordd rhwng pwynt uchaf y tir a dyfnder isaf y môr. Nid oes gennym hawl fodd bynnag i gasglu oddiwrth y ffaith yna fod gwaelod yr eigion yn ail-adroddiad, gwrthdröedig megis, o arwyneb tir, ac fod cyfartaledd uchder (average height) y tir a chyfartaledd dyfnder (average depth) yr eigion yr un. Mae y plymiadau i'r eigion wedi dangos mai cyfartaledd dyfnder y mor ydyw tua 15,000 o droedfeddi, tua thair milldir; tra nad yw cyfartaledd uchder y tir ond tua 1,000 o droedfeddi, pumed ran o filldir. Ymhellach, y mae gwaelod y mor yn lled wastad, ac yn llai amrywiol yn ei amlinelliad nag arwyneb y tir, tra y mae y llethrau a geir, yn gyfochrog â llinellau arfordir y cyfandiroedd, yn fynnych yn sydyn a serth, fel y mae dyfnder tra mawr yn fynnych yn cael ei gyrhaeddyd ddim ond ychydig bellder oddiwrth y lan.

Fe ellid meddwl fod y ffeithiau hyn yn dangos yn eglur barhad a hynafiaeth y moroedd a'r cyfandiroedd mawrion. Fel hyn fe ymddengys fod arweddion mwyaf tarawiadol crawen y ddaear y fath ag a allai yn hawdd gael eu hachosi gan symudiadau mawrion o eiddo y ddaear ar hyd llinellau sydd wedi eu nodi yn dra amlwg.

Os ydyw hyn felly, ac os taflwyd y grawen dewychedig mewn amseroedd pell i ddyblygion mawrion, rhannau dyrchafedig pa un a ffurfient y tir cyntaf, a'r rhannau a ostyngid welyau yr eigion, pa fodd y mae nad ydyw cyfartaledd uchder y tir ond y bumed ran o filldir, tra y mae cyfartaledd dyfnder yr eigion yn dair milldir? Ai nid allasem yn rhesymol ddisgwyl y buasai cyfartaledd uchder y tir a chyfartaledd dyfnder yr eigion rywbeth yn debyg i'w gilydd ?

Mewn trefn i allu ystyried yr achos hwn yn well, gadewch i ni yn gyntaf ddelio â phwynt arall. Beth oedd cyfansoddiad y tir cyntaf; ac a ydoedd y cadwyni o fynyddoedd megis y Mynyddoedd Creigiog, yr Andes, a'r Himalayas, sydd yn gwneud esgyrn cefn y cyfandiroedd mawrion, yn rhannau o'r tir cyntaf hwnnw? I'r cwestiwn olaf hwn gallwn yn ddibetrus roddi atebiad nacäol. Mae yn amlwg y rhaid fod y tir cyntaf yn rhan o'r grawen oedd wedi ymgaledu o fod mewn ystad doddedig, a rhaid ei fod o ganlyniad yn cael ei wneud i fyny o greigiau yn dwyn tebygolrwydd cryf i'r lafa wedi caledu sydd yn nhoriadau allan mynyddoedd tanllyd diweddar. Nid dyma, fodd bynnag, fel rheol, nodwedd y creigiau sydd yn gwneud i fyny fynyddoedd. Y maent gan amlaf wedi eu gwneud o greigiau sydd yn dangos yn eu cyfansoddiad eu bod wedi eu ffurfio yn wreiddiol o'r fath ddefnyddiau â thywod, llaid, &c., wedi eu gwaddodi mewn dwfr; neu os ydynt yn greigiau tanawl, danghosant arwyddion anghamsyniol o fod wedi oeri a chaledu mewn dyfnder mawr islaw yr arwyneb. Ond i wneud y pwynt yma yn glir, byddai yn angenrheidiol myned i mewn gyda manylrwydd mawr i nodwedd a chyfansoddiad y gwahanol fathau o greigiau. Y mae, fodd bynnag, ystyriaeth arall y gellir delio â hi yma yn fwy cyflawn a chyda llai o gyfeiriad at fanylion celfyddol, yr hon sydd yn dangos yn amlwg nad ydyw y • Yr Eigion, TRAETHODYDD 1883, tudal. 171, &c., a 1884, tudal. 166, &c.

fod

creigiau sydd yn gwneud arwyneb presennol y ddaear yn rhan o'r grawen gyntefig. Y mae ychydig astudiaeth o arwyneb y tir yn dangos dinystr parhaus ar y creigiau sydd yn ei gyfansoddi. Mae y profion mai felly y mae yn helaeth, ac ymdrechwn egluro un o'r dulliau a ddefnyddir i ffurfio amcandyb am y graddau y mae yn cymeryd lle. Gadewch i ni gymeryd yr ymresymiad o gam i gam. Y mae elfeniad o ddwfr gwlaw yn dangos ei fod, yn fferyllol (chemically), y dwfr puraf mewn natur. Os rhoddir swm mewn llestr gwydr, a'i adael yn agored i wres, y mae tarthiad yn cymeryd lle, ac a yr holl ddwfr ymaith yn y ffurf o ager, heb adael dim gwaddod ar ol. Ond os ar y llaw arall, y gwneir yr un modd â dwfr afon neu ffynnon, fe geir gwaddod gwyn neu grawen ar waelod y llestr wedi i'r tarthiad gymeryd lle. Fe geir fod y gwaddod gwyn yma, pan osodir ef dan elfeniad fferyllol (chemical analysis) priodol, yn gynwysedig o wahanol ddefnyddiau, o ba rai y mae y garreg galch (carbonate of lime), rhai halenau calchaidd ereill, a carbonate of soda yn gyffredin yn gwneud y rhan fwyaf. Mae swm y defnydd yma yn amrywio cryn lawer mewn gwahanol ffynhonnau ac afonydd. Mae y lleiafswm o ddefnydd allanol mewn ffynonellau Prydeinig i'w gael yn nyfroedd Ffynnon St. Ann ym Malvern, dwfr yr hon sydd un o'r rhai puraf yn y deyrnas. Cynhwysa 4.06 grains o sylweddau fferyllol mewn galwyn. Mewn gwrthgyferbyniad i hon, gellir cymeryd hen Ffynnon y sulphur yn Harrowgate, dwfr yr hon sydd yn un o'r rhai llawnaf felly, ac yn cynnwys 1,152 grains, tua dwy owns, o fater sylweddol wedi ei doddi ym mhob galwyn. Mae yr un amrywiaeth i'w gael mewn dwfr afonydd, tra y mae y cyfartaledd yn nwfr afonydd y deyrnas tuag 8·59 grains ym mhob galwyn. Yn awr y mae dwfr afonydd yn gynwysedig o ddwfr gwlaw, yr hwn mewn rhan sydd wedi llifo dros wyneb y tir, ac mewn rhan wedi swgio trwy y creigiau a tharddu allan mewn ffynhonnau. Gwlaw, mewn gair, yw tarddiad holl ddyfroedd y ddaear. Mae yn amlwg gan hynny os yw dwfr gwlaw yn fferyllol bur, a dwfr afonydd yn cynnwys y sylweddau ereill wedi eu toddi, fod y sylweddau hynny wedi eu toddi o'r creigiau gan y dwfr wrth fyned trwyddynt. Os gallwn gan hynny ffurfio amcan-gyfrif o nifer y galwyni o ddwfr a gymerir i'r mor bob blwyddyn gan unrhyw afon, a'r nifer o grains o ddefnydd sylweddol a ddelir wedi ei doddi ym mhob galwyn o'r dwfr hwnnw, y mae gennym gyfleustra i ffurfio amcandyb am swm y defnydd sydd yn cael ei symud a'i gymeryd i'r mor oddiar y tir y llifa yr afon drwyddo bob blwyddyn, ac mewn canlyniad beth yw maint y dinystr a ddygir ymlaen trwy weithrediad fferyllol ar dir trwy weithrediad dwfr.

Bydd yn ddyddorol rhoddi y cyfrif a gafwyd yn achos un afon, y Thames, fel eglurhad.

Fe ymddengys fod mewn un galwyn o ddwfr y Thames yn Kingston 19 grains o fater sylweddol, yn agos i ddwy ran o dair o ba un sydd yn garreg galch doddedig (dissolved limestone). Ni raid i ni gan hynny ond cael gwybod pa sawl galwyn o ddwfr sydd yn myned i'r mor heibio Kingston bob dydd,— yr hyn a geir yn hawdd os gwyddom led yr afon, ei dyfnder, a chyflymdra ei rhediad,―i'n galluogi i fesur y swm a drosglwyddir trwyddi i'r mor. Fe gyfrifwyd fod yr arllwysiad dyddiol yn 1,250 o filiynau o alwyni. Y mae 19 grains y galwyn yn rhoddi 1,502 o dunelli fel swm y defnydd a gymerir felly bob pedair awr ar hugain i'r mor. Mae hynny yn dyfod yn 548,230 o dunelli mewn blwyddyn. Fe gofir wrth reswm fod y defnydd yma yn cael ei gario mewn toddiad fferyllol (chemical solution) anweledig, a'i fod yn gwbl ar wahân oddiwrth y tywod a'r llaid a'r graian a gludir gan yr afon yn annhoddedig mewn symiau sydd yn hawdd i'w canfod ar lifogydd. Mae y tir y llifa y Thames drwyddo ac o hono, y drainage area, uwchlaw Kingston yn 3,678 o filldiroedd ysgwâr, o'r hwn y mae

548,230 tunnell o ddefnydd fel yma yn cael ei gario bob blwyddyn. Mae hyn yn rhoddi 149 o dunelli am bob milldir ysgwâr fel y swm o fater sylweddol a symudir mewn toddiad fferyllol gan ddwfr y gwlaw a'r afon.

Fe fyddai i ymchwiliad cyffelyb i allu cludol pob afon ym Mhrydain Fawr ein galluogi i ffurfio amcandyb tra chywir am y gweithrediadau dinystriol sydd yn cymeryd lle yn y ffordd dawel anweledig yma ar arwyneb y tir. Nid oes dim ymchwiliad cyflawn o'r fath eto wedi ei wneud, er fod ffigyrau gwerthfawr am rai afonydd wedi eu rhoddi yn chweched Adroddiad y Rivers Pollution Commission, 1874, ac nid ydym yn abl gan hynny ond i ffurfio amcan-gyfrif mor agos ag y gellir.

Mae yn amlwg y dibynna y swm o fater sylweddol yn nyfroedd afon i fesur helaeth ar nodwedd y creigiau sydd yn gwneud yr arwyneb yn y tir neillduol y mae yn rhedeg trwyddo. Mae cerrig calch oolitic y Cotswolds, a cherrig calch sialcaidd y Downs gogledd a deheuol, yn ymollwng yn rhwydd i weithrediad toddiadol dwfr gwlaw sydd yn dal carbonic acid mewn ymdoddiad; tra nad yw creigiau celyd tywodog a llechfaenol Cymru yn ildio ond ychydig i'r gweithrediad hwnnw, a cheir fod dwfr afonydd y fath ranbarthau yn llawer llai llawn o ddefnydd sylweddol na dyfroedd y Thames,

Mae yn amlwg hefyd fod y gwir swm o fater sylweddol a drosglwyddir i'r mor yn dibynnu ar ddau beth: sef, toddiadusrwydd y creigiau trwy y rhai y mae y dwfr gwlaw yn hydreiddio, at yr hyn yr ydym newydd gyfeirio; a chyfanswm y dwfr a arllwysir bob dydd gan yr afon. Mae yr olaf yn dibynnu ar y gwlaw sydd yn disgyn; ac yr ydym, wrth archwilio y gwahanol ranbarthau, yn cael allan fras-gyfartaliad tra hynod o'r ddau beth hyn, sydd yn hunanrcoleiddiol ac adgyflenwadol. Mae swm y gwlaw sydd yn disgyn yn cael ei benderfynu i fesur helaeth gan uchder y tir, gan fod rhanbarthau mynyddig yn cydgrynhoi lleithder yr awyr trwy beri i'r llifiadau o awyr laith wrth daro yn erbyn eu llethrau esgyn i ranbarthau uwch. Mae y llifiad esgynol yn codi i ranbarthau oerach, ac fe'i hoerir yn fwy gan yr helaethiad, yr expansion, sydd yn cymeryd lle, yn ol egwyddor dra adnabyddus mewn anianyddiaeth. Fe fyddai yr awyr felly gryn lawer yn oerach, ac fe ddilynai cyd-ddwysiad mawr yn y ffurf o wlaw.

Oddiwrth y defnyddiau sydd wrth law gennym fe ymddengys fod afonydd Prydain Fawr, ar gyfartaledd, yn cario ymaith mewn ymdoddiad fferyllol 143 o dunelli o fater sylweddol oddiwrth bob milldir ysgwâr o arwyneb. Mae holl arwyneb Prydain Fawr yn 90,000 o filldiroedd ysgwâr; y mae yn dilyn gan hynny os oes 143 o dunelli yn cael ei symud o bob un o'r milldiroedd ysgwâr hyn, nad yw y cyfanswm a gludir i'r môr gan holl afonydd Lloegr, Scotland, a Chymru, yn ddim llai na 12,879,000-yn agos i dair miliwn ar ddeg—o dunelli. A hyn oll, meddaf eto, yn y ffurf o ymdoddiad anweledig, ac heb gynnwys y llaid, y tywod, a'r graian sydd yn cael eu cario yn annhoddedig.

A'r hyn sydd yn cael ei wneud gan afonydd Prydain, a wneir hefyd yr un modd gan holl afonydd y byd. Ar gyfandir Ewrop fe gyfrifir fod y Rhein ei hun yn cludo mewn ymdoddiad dros 5,816,805 o dunelli yn y flwyddyn; y Rhôn gymaint â holl afonydd Lloegr a Chymru, 8,290,464; y Danube yn agos i dair gwaith cymaint a hynny, sef 22,521,434. Ychwanegwch at hyn holl afonydd mawrion ereill Ewrop. Yna ewch drosodd i Asia: mae y Bramahpootra yn rhedeg trwy gymaint dair gwaith o dir â'r oll o Brydain Fawr, a gellid meddwl ei bod yn cludo cymaint dair gwaith o fater a'i hafonydd hi; mae y Ganges yn myned trwy gymaint bedair gwaith o dir; yr Yellow River trwy gymaint chwe gwaith. Ac at hyn eto, rhaid ychwanegu holl afonydd Asia. Ar gyfandir America mae y St. Lawrens yn rhedeg trwy gymaint dair gwaith ac un ran o

dair o dir â'r oll o Brydain Fawr; y Mississipi trwy gymaint ddeng waith; a'r Amazon trwy gymaint bymtheng waith. A phan adgofiwn fod afonydd Prydain Fawr yn unig yn cludo i'r mor dros ddeuddeng miliwn o dunelli bob blwyddyn, nid yw yn bossibl i'r meddwl allu synied yr anferth swm o ddefnydd halltaidd y mae afonydd y byd yn gario i'r mor bob blwyddyn mewn ymdoddiad anweledig. Ond nid ydyw hyn ond rhan o gynnyrch y dinystr sydd yn cymeryd lle; oblegid ni ddarfu i ni eto gyffwrdd a'r defnydd a gymerir mewn ystad annhoddedig (in mechanical suspension). Yr ymchwiliadau cyntaf a ddygwyd ymlaen gydag unrhyw fesur o gyflawnder a chywirdeb a wnaed gan y Meistri Humphreys ac Abbot ar ddyfroedd y Mississipi. Hwy gawsant mai cyfartaledd y gwaddod a ddelid yn nyfroedd yr afon honno oedd un o bob pymtheg cant o'r pwysau o ddwfr, sef tua phwys a hanner ymhob tunnell o ddwfr. Ychwanegwn hyn at y swm a gludir mewn ymdoddiad fferyllol. Mae elfeniad wedi dangos fod dyfroedd y Mississipi yn dal 15:487 grains o ddefnydd sylweddol ymhob galwyn; hynny yw, un ran o bob 3,615 o bwysau o ddwfr, sef tri chwarter pwys am bob tunnell o ddwfr. Fe wyddis pa faint yw arllwysiad blynyddol y Mississipi. Oddiwrth hyn mae yn hawdd cyfrif fod 150 o filiynau o dunelli o ddefnydd sylweddol yn cael eu cario mewn ymdoddiad fferyllol, tra y mae 362 miliwn o dunelli o waddod yn cael eu cario mewn ystad annhoddedig. A rhoddi y rhain ynghyd, yr ydym yn cael fod cyfanswm y defnydd a gludir bob blwyddyn gan y Mississipi i'r môr yn 512 o filiynau o dunelli. Pe gellid cymeryd yr holl ddefnydd yma a'i daenu yn unffurf dros y tir o ba un y cymerwyd ef-drainage area y Mississipi, 1,244,000 o filldiroedd ysgwâr-yn debyg fel y taenir ymenyn dros fara, fe wnelai drwch o ychydig islaw y pedwar canfed o fodfedd mewn blwyddyn; felly y mae yr afon yn dinystrio ei rhanbarth yn ol y cyfartaledd o bedwar canfed o fodfedd bob blwyddyn. Mae hyn yn dyfod i droedfedd mewn 4,500 o flynyddoedd. Fe ystyrir fod cyfartaledd uchder (average height) cyfandir America yn 748 o droedfeddi; gan hynny, yn ol y cyfartaledd yna o ddinystrio, fe ddarostyngid holl gyfandir America i lefel y mor mewn llai na thri chwarter miliwn o flynyddoedd. Mae amcan. gyfrifon o'r modd y mae afonydd ereill yn cario defnydd i'r mor yn fwy hynod fyth. Ymddengys fod y Ganges yn cario ei rhanbarth i'r mor yn ol troedfedd mewn 2350 o flynyddoedd. Mae cyfartaledd uchder y cyfandir Asiaidd yn 1132 o droedfeddi; yn ol fel y mae y Ganges gan hynny yn ei dynnu i lawr, fe elai Asia o'r golwg mewn ychydig fwy na dwy filiwn a hanner o flynyddoedd. Mae y Po yn gweithio yn fwy hynod eto; yn ol troedfedd mewn 729 o flynyddoedd. Cyfartaledd uchder Ewrop ydyw 671 o droedfeddi uwchlaw lefel y mor; fel y mae y Po ynte yn ei dynnu i lawr, fe elai Ewrop o'r golwg mewn hanner miliwn o flynyddoedd. Nid yw yr amcan-gyfrifon hyn, wrth reswm, i'w cymeryd ond fel y nesaf y gellir; ond mae yr ymresymiad yn dal, a'r casgliad fod dinystr cyflym a helaeth ar dir yn cymeryd lle, yn gorffwys ar brofion ansigledig.

Y mae yn awr yn eglur gan hynny paham y mae cyfartaledd uchder y tir gymaint yn llai na chyfartaledd dyfnder yr eigion. Os ydyw y dinystr parhaus yma yn cael ei ddwyn ymlaen trwy yr oesoedd, gallwn yn rhesymol ofyn pa fodd y mae yn digwydd fod dim tir eto yn aros ? A oes unrhyw allu ymadnewyddol yn y ddaear, unrhyw weithrediad adgynyrchiol yn cadw i fyny â'r gweithrediad dinystriol? Ni a obeithiwn allu delio â'r cwestiynau hyn mewn erthygl arall.

R. D. ROBERTS.

Y DIWEDDAR ESGOB LIGHTFOOT.

O ANGEU erch! nid oes a fedr lesteirio'th rym,
Na phylu grâdd, un pryd, ar fin dy gleddyf llym!
Rhyw arch-orchfygwr ydwyt ti ar deulu dyn,
Sy'n trechu medr a dyfais feidrol, bob yr un;
Yn herio ymgynghreiriad holl alluoedd llawr
I achub neb rhag teimlo pwysau'th ddyrnod fawr.
Mae pawb yn gydradd ddeiliaid o'th lywodraeth brudd,
Pob oed, a gradd, a rhyw, o dan yr heulwen sydd.
Ni ddichon dysg y Doethawr mŷg dy droi yn ol,
Pan ar dy rawd, mwy nag ynfydrwydd gwag y ffol.
Ein LIGHTFOOT fawr! Teyrn Duwinyddion mad ei ddydd,
Ac amddiffynwr pybyr gwirioneddau'r Ffydd;
Un a ddiwylliodd dysg i weld yn bell a chlir
Drwy nifwl amser, draw i lannau'r dwyfol dir;
Un feddai, gyda dysg, ar galon dyner, lân,
Oleuid ac a breswylid gan Dduw Yspryd Glân:
Gwnaed yntau'n nôd i saethau gelyn olaf dyn,
A syrthiodd, o'i brysurdeb mawr, i'w olaf hûn!
Fe deimlir heddyw wagder drwy holl wledydd Cred,
A phrudd-der dwys a dwfn ymdaen ar hyd a lled
Y ddaear: prudd-der nas cenhedlir byth ei ryw
Ond yng ngwaelodion lleddf, hiraethlawn, calon friw.
Ein LIGHTFOOT fawr! rhyw Alp ysbrydol ydoedd ef,
A'i goryn fu'n gladdedig yng nghymmylau'r nef.
Mewn arucheledd syniad, ysgolheigdod coeth,
Dyngarwch, purdeb calon, a chynlluniau doeth,
Ymddyrchai megis eryr ar ei aden gref

I ryw bureiddiach bau ac ysbrydolach nef
Na'i gyd-feidrolion. Gwedd-newidiwyd ei holl ddyn
Pan yn yr uchelderau hyn, fel Mab y dyn !

Yr engyl glân ganfyddent
Eu brawd-angel-ddyn pur
Yn chwareu'i esgyll hoew
Ar ffiniau'r dwyfol dir!
Chwenychent, er ys dyddiau,
Ei atal ar ei rawd

Ddisgynawl, drwy'r wybrennau,
I fynwes daear dlawd.

Uwch niwloedd y ddaearen,
Ymhell o'i thwrf a'i chur,

Y crwydrai yn ei elfen

At byrth y Ddinas bur!

Gosodai ar yr "uchod "

Sylweddau, 'n fwy-fwy 'i fryd,
Tra swyn y "pethau isod"

Oedd iddo'n llai o hyd.

O'r diwedd, daeth yr awr i'w ysbryd fynd yn rhydd

O'r tŷ o glai" i wlad na fachlud haul ei dydd.

Hualau cnawd mwy ni lesteiriant egni byw

Yr ysbryd mawr a ymhyfrydai'n ffyrdd ei Dduw.
Mor tonnog bywyd, er ei fâr a'i derfysg erch,

Drawsffurfiwyd iddo'n "fôr o wydr" mewn byd mwy derch,
Gerllaw Gorseddfainc Duw a'r Oen, ymhlith y rhai

A olchwyd ac a burwyd fyth oddiwrth eu bai.

Llanfaelog, Mon.

J. MYFENYDD MORGAN.

« ZurückWeiter »