Abbildungen der Seite
PDF
EPUB

pan yn cyfeirio at syniadau Cristionogion gwrth-eglwysig ag a allesid yn naturiol ddisgwyl. Hyd yn oed yma, y'mae y dôn wedi newid ragor yr hyn ydym gynhefin ag ef mewn ysgrifeniadau o'r fath. Mae yr ysgrifenwyr i'w llon-gyfarch ar gyfrif mesur o ryddfrydigrwydd, ac am y cyfiawnder yr amcanant, ar y cyfan, ei ddangos tuag at Ymneillduwyr. Rhaid dywedyd, er hynny, mai prin y mae goddefgarwch o syniadau gwahanol i'r eiddynt hwy ar y materion hyn, mor amlwg â'r duedd i roddi i fyny i wyddoniaeth a beirniadaeth. "Eglwyswyr,” ac Uchel Eglwyswyr i'r craidd y dánghosant eu hunain yn y traethodau hyn. Ychydig iawn o arwyddion ad-drefnu sydd ar yr athrawiaethau yma.

ас о

"Mae yr Eglwys" meddir, "yn ganolbwynt bywyd ysbrydol, angenrheidrwydd yn gorff gweledig, am ei bod, mewn rhyw ystyr, i gynrychioli yr Arglwydd mewn cnawd. . . Nid yw hyn yn golygu gwadu sylweddolrwydd anweledig yr undod ysbrydol sydd yn gorwedd dan yr undod allanol gweledig... Mae y drychfeddwl o Eglwys anweledig i fynegi y corff o gredinwyr, y rhai yn unig yw yr Eglwys, i ba gymundeb bynnag y perthynant, fel ag i wneuthur yr Eglwys weledig yn ddibwys, yn syniad hollol ddieithr i'r Ysgrythyrau, ac i holl ddysgeidiaeth yr Eglwys cyn dyddiau y Diwygiad Protestanaidd. Mewn ysgrifeniadau o tuag amser Luther a Zuingli y mae yr ymadrodd 'Eglwys anweledig' i'w gael gyntaf." Ac y mae ymadroddion yn dilyn y dywediadau hyn sydd cystal a dyweud fod y syniad, yn ystyr yr Eglwys Ddiwygiedig iddo, yn un hollol anghysson a dysgeidiaeth Gristionogol; fod y syniad yn gystal a'r ymadrodd yn newydd-beth y Diwygiad. "Prin y mae yn ormod dywedyd fod pob pwys a roddir ar y drychfeddwl o Eglwys anweledig yn tueddu i leihau y gofynion am sancteiddrwydd a brawdoliaeth. . . Am ei bod yn ganolbwynt bywyd ysbrydol, mae yr Eglwys hefyd yn un, nid o ran meddiant o fywyd ysbrydol yn unig, ond hefyd o ran trefn (organization) allanol yn gystal a hynny. Mae y Testament Newydd yn tybio, ac y mae yr Eglwys yn yr ail ganrif yn mynegi ac yn egluro fod yr undod hwn yn cael ei ganolbwynt yn yr Esgobaeth. Felly y mae yr Olyniaeth Apostolaidd yn insel y parhâd hanesyddol o hono; ac y mae hyn wedi bod bob amser yn 'nôd' sydd yn meddiant Eglwys Loegr. . . Mae yr Eglwys hefyd yn dysgu gwirionedd, h.y., yn meddu awdurdod i ddwyn tystiolaeth i, ac i fynegi y gwirioneddau datguddiedig iddi, ac hefyd i ddehongli perthynas y gwirioneddau hynny a'u gilydd." Trydydd elfen yn y drychfeddwl o Eglwys yw ei bod yn "Gartref addoliad-addoliad ag sydd yn cyrraedd ei fynegiad uchaf yn y Cymun, a'i waith offeiriadol yn cael ei ddwyn ymlaen o'r dechreuad gan urdd neillduol o weinidogion."

Yn yr eglurhad ar y gosodiadau hyn, ac ar y Bedydd a Swper yr Arglwydd, ychydig a wneir namyn adrodd drachefn yr hen ymresymiad. Hynny o ogwydd sydd yma oddiwrth eu llinell briodol eu hunain, i gyfeiriad Protestaniaeth y mae, yn hytrach na thua Rhufain. Gogwydd yn unig yw, mor bell ag y mae yr athrawiaethau am Nodau yr Eglwys, y Sacramentau, a'r Weinidogaeth yn myned. Amlwg yw fod eu hyder yn yr Eglwys fel corff gweledig yn meddu undod trefn weledig, eu ffydd yn yr Egwyddor Sacramentaidd, ac Effeithiolrwydd yr Olyniaeth, yn elfenau pwysig a hanfodol yn eu cred am barhâd Cristionogaeth i fod yn Oleuni y Byd.

Mae y golygiad a gymer awdwr y traethawd ar Gristionogaeth a Gwleidyddiaeth am le y Wladwriaeth a lle yr Eglwys fel dau ddylanwad ym mywyd Cymdeithas, yn ei arwain i fyntumio mai annigonol yw y Wladwriaeth i fod yn arweinydd i fywyd cymdeithasol dynolryw mewn moesoldeb, ac yn neillduol mewn crefydd. Ac oddiar hynny y mae yn gwynebu y cwestiwn am y berthynas a ddylai fod rhwng yr Eglwys fel arweinydd mewn moesoldeb a chrefydd, a'r Wladwriaeth. Ymddengys iddo fod dau atebiad yn bossibl yng ngoleuni profiad oesoedd sydd wedi myned heibio,

Y naill atebiad yw, mai buddiol i'r Eglwys ac i'r Wladwriaeth fyddai eu bod ar wahân-pob un i gael ei gadael i ddadblygu, ar ei phriod linellau ei hun, ei chenhadaeth neillduol yng ngwasanaeth y genedl, fel yn yr Amerig; "Eglwys rydd mewn Gwladwriaeth rydd." Mae y llais cyhoeddus ymhlaid dadsefydliad yn Lloegr-yr hwn sydd gryf, er nad yn cynhyddu—yn cael ei gyfnerthu gan amryw ddylanwadau gwahanol: (1.) gan Agnostics, y rhai a gyfrifant fod crefydd, a Christionogaeth yn neillduol, yn erbyn cynnydd, ac yn llyffetheirio pob ymgais am ddiwygiad cymdeithasol; (2.) gan Wleidyddwyr am wahanol resymau; (3.) gan Ymneillduwyr, naill ai am eu bod yn edrych ar y sefydliad fel cydymgeisydd naturiol, ac yn meddwl ei wanychu trwy dorri ei gysylltiad presennol a'r Wladwriaeth, neu, fel y gwna lliaws o honynt, am eu bod yn credu mai buddiol fyddai hynny i'r Eglwys ei hun, a manteisiol i fywyd crefyddol y genedl; (4.) gan rai Eglwyswyr, am mai llai drwg yr ystyriant ddadsefydliad na'r niwed a wneir i grefydd trwy fod Ty y Cyffredin yn llesteirio ynganiad rhydd llais yr Eglwys. Mae ereill o awdurdod uchel, yn y wlad hon a thu allan iddi, yn cyfrif mai trychineb ofnadwy yn hanes Cristionogaeth fyddai dadsefydliad yn Lloegr.

Yr atebiad arall sydd bossibl, a'r un y mae Mr. Campion-a'i gydysgrifenwyr, mae'n debyg, gydag ef—yn teimlo ei hunan yn cael ei orfodi i'w roddi, ydyw y dylai fod rhyw fath o gysylltiad rhwng yr Eglwys a'r Wladwriaeth a ddiogela yn well ryddid ac awdurdod ac ysbrydolrwydd yr Eglwys nag y gwneir drwy y cysylltiad sydd yn bod rhyngddynt yn Lloegr. Dylai fod ar yr un llinellau a'r cysylltiad yn yr Alban, neu y cysylltiad sydd rhwng yr Eglwys Babaidd a'r Wladwriaeth yn Ffrainc. Cysylltiad a'r Wladwriaeth y dadleua drosto a ddiogela ac a gynorthwya weithrediad rhydd ac awdurdodol yr Eglwys fel gallu ysbrydol ag sydd gyfaddas i ddyrchafu a phuro cymdeithas.

Cofier mai un o'r blaid Uchel-Eglwysyddol yn Eglwys Loegr a ysgrifenna fel hyn. Nid oes nemawr ddim yn yr ysgrif nas gallai Ymneillduwr ei ysgrifennu fel argyhoeddiad ei galon, oddiar ystyriaeth o natur Cristionogaeth ac amgylchiadau cymdeithasol a gwladwriaethol yr oes.

Mae y traethawd ar Foeseg Gristionogol, fel amlinelliad o gyfundraeth o foesoldeb seiliedig ar Grefydd y Cnawdoliad, yn werthfawr iawn. Ond y mae ei fyrdra yn anghyfatebol i gwmpas ei fater. Cyffyrddir ynddo â holl ganghennau pwysig y pwnc. Mewn llai na thrigain tudalen y mae prif faterion y fath lyfrau a Martensen's Ethics-tair cyfrol, a phob un o honynt yn cynnwys cymaint o fater a'r holl gyfrol hon-yn cael eu cymeryd i fyny. Ac nid yw yn amgen nag a fuasai amlinelliad lled helaeth o lyfr felly. Os, fel y dywed rhyw adolygydd, mai amlinelliad o lyfr yn cynnwys ymdriniaeth gyflawn ar Foeseg ag y bwriada yr awdwr ei ysgrifennu ydyw, fe ellir disgwyl llyfr campus ganddo ar fater nad oes hyd yn hyn ddim o awdurdod a chyflawnder wedi ei ysgrifennu arno yn y wlad

hon.

Y traethodau sydd yn fwyaf neillduol yn dwyn y nodwedd a addewir yn y Rhagymadrodd yw y rhai nad oes sylw eto wedi ei wneuthur gennym o honynt. Yn yr wyth traethawd hynny sydd yn weddill, ceir ymgais i ddehongli gwirioneddau sylfaenol Cristionogaeth yn wyneb syniadau yr oes am Anian, Hanesiaeth, a Beirniadaeth Ysgrythyrol. Ni a hyderwn mewn ysgrif arall allu rhoddi i ddarllenwyr y TRAETHODYDD ryw syniad am eu cynnwys. A gobeithiwn fod y gair hwn o hanes, a'r disgrifiad yma o amcan a safle y gyfrol, yn barotoad ar gyfer eu hystyried.

Llundain.

ELLIS JAMES JONES.

YSTORI Y DDAEAR.

I.

Y MAE hanes y ddaear mewn llawer o bethau yn lled debyg i hanes cenedl. Dylai y fath hanes, i fod yn gyflawn, ddyfod i fyny â thelerau neillduol. Dylai nid yn unig roddi darlun byw a chywir o agweddion cenedl yn ei gwahanol gyfnodau, ond hefyd wneud yn glir y cysylltiad rhwng ei sefyllfa yn y naill gyfnod a'r llall; dylai, mewn gair, osod allan ac arddangos yr achosion oedd yn gweithredu ac yn arwain i'r cyfnewidiadau a nodweddent y naill gyfnod ar ol y llall.

Mae y manteision sydd o fewn ein cyrraedd i weithio allan y fath hanes i genedl yn syrthio dan ddau ben: yn gyntaf, cofnodion ysgrifenedig wedi eu trosglwyddo o'r amser gynt; ac yn ail, cofnodion an-ysgrifenedig sydd yn gynnyrch bywyd a gweithgarwch cenedl, oddiwrth ba rai y gellid casglu rhywbeth gyda golwg ar ei nhodweddion neillduol. Ym Mhrydain Fawr, er engraifft, y mae gweddillion ffyrdd rhagorol ac adfeilion hen adeiladau, ymysg pa rai y mae arian a llestri hynafol wedi eu cael, yn dweud wrthym am gyfaneddiad y wlad gan y Rhufeiniaid mor sicr ag y gwna cofnodion ysgrifenedig. Gallasem wybod fod Lloegr mewn amseroedd aethant heibio wedi dioddef oddiwrth oresgyniadau Daniaid a Norsmyn, Angliaid a Normaniaid oddiwrth yr enwau a'r geiriau ydynt wedi eu gwau i gyfansoddiad yr iaith Saesneg. Yr ydym bob blwyddyn yn dysgu mwy am wareiddiad rhyfeddol yr hen Aifft oddiwrth olion ei chelfyddyd a'i hadeiladaeth a'i galwedigaethau, fel y maent yn cael eu dwyn i'r golwg trwy gloddiadau archwilwyr. Mae yn amlwg mai po bellaf yn ol yr awn yn hanes cenedl, mwyaf dibynnol ydym ar y ffynonellau anuniongyrchol hyn o wybodaeth, a lleiaf ar dystiolaeth ysgrifenedig, nes o'r diwedd y cyrhaeddir pwynt tu hwnt i ba un nad ydyw ysgrifen yn myned, ac y mae hanes yn dyfod yn gyn-hanesiol. Hanes gyn-hanesiol y ddaear fel yma ydyw tiriogaeth y gwyddorau o Hynafiaethau (Archæology) a Daeareg (Geology). Mae y presennol yn gwywo yn anghanfyddadwy i'r gorffennol, a thra mae yr hanesydd yn ein harwain yn ol i'r pwynt lle y mae ysgrifennu yn dechreu, a'r hynafiaethydd rhyw un cam ymhellach, y mae yn disgyn i ran y daearegydd i agor i fyny i ni hanes yr oesoedd meithion hynny a ragflaenent ymddanghosiad dyn ar y ddaear.

Mae y cwestiwn yn naturiol yn codi, pa ddefnyddiau sydd gennym tuag at gyfansoddi Daeareg gyflawn; hynny yw, y fath hanes llawn a chyson o'r ddaear o'r dechreuad ag a arddengys olyniad y cyfnewidiadau yn ei helynt, ac a ddatguddia achosion y cyfnewidiadau hynny; ac ymhellach pa fodd yr ydym i ymwneud â'r defnyddiau sydd gennym,—mewn gair, beth ydyw trefn, method, ymchwiliad daearegol. Mewn egwyddor y mae dull gwyddoniaeth (scientific method) yr un ymhob adran o wybodaeth, a chynhwysa, yn gyntaf, sylwadaeth ofalus a chofnodiad o ffeithiau; a hynny yn cael ei ddilyn gan y fath gymhariaeth arnynt ag a arweinia i ryw gasgliad cyffredinol yn dangos eu cyd-ddibyniad y naill ar y llall: : mewn geiriau ereill, darganfyddiad o'r hyn a elwir yn gyffredin y ddeddf naturiol o ba un y maent yn engreifftiau. Nid mater o ddyddordeb dansoddol yn unig ydyw y cwestiwn yma o drefn wyddonol; oblegid mewn gwirionedd dyma y drefn trwy ba un yr ydym o ddydd i ddydd, heb feddwl am hynny, yn chwanegu ein gwybodaeth o bethau cyffredin, sef y wybodaeth a enillwn trwy brofiad. Trefn gwyddoniaeth ydyw synwyr cyffredin, wedi ei hyfforddi, yn cael ei gymhwyso at efrydiaeth gwrthrychau y greadigaeth. Mae y gallu i dynnu casgliadau oddiwrth ffeithiau yn cael ei eni gyda phawb o honom, a'n

temtasiwn ydyw myned trwy y gwaith yma yn llawer rhy rwydd, ac heb reswm digonol. Fe genfydd unrhyw ddyn a gymer y drafferth o'i wylio ei hunan yn fanwl, er mawr ddarostyngiad i'w falchder, lawn gadarnhad i'r gosodiad yma. Fe'i caiff ei hun yn tynnu casgliadau ysgubol oddiar y seiliau eiddilaf, yn fynnych oddiwrth ddim ond un ffaith a allo fod wedi dyfod dan ei sylw. Hyffordd. iad gwyddonol cryf a thrwyadl ydyw y peth goreu yn bossibl tuag at gywiro y tuedd meddwl yma. Fe ddeallir wrth reswm nad ydym, wrth siarad am hyfforddiad gwyddonol, yn golygu yn unig gasglu oddiwrth lyfrau swm o wybodaeth wyddonol, ond astudiaeth ymarferol o'r ffeithiau eu hunain,— sylwadaeth amyneddgar a manwl yn cael ei dilyn gan ymresymiad gofalus a theg. Yn y gwaith hwn dylid cymeryd pob gofal i brofi y casgliadau, ac y mae yr ymchwilydd yn rhwym o gadw ei feddwl yn berffaith agored fel na bo ei gasgliadau yn cael eu gwyro gan ragfarn neu eu hystumio gan ei syniadau blaenorol.

Dyma gan hynny y drefn trwy ba un yr ydym yn ennill ein gwybodaeth o'r hanes an-ysgrifenedig honno o'r ddaear sydd yn gwneud tiriogaeth y wyddor o Ddaeareg. Ni a amcanwn gan hynny, trwy gyfeirio at bethau sydd yn bresennol o'n blaen, at ddangos natur y cwrs o ymresymu trwy ba un y mae daeareg―ystori y ddaear-wedi ac eto yn cael ei graddol weithio allan.

Y mae ystyried dosraniad tir a dwfr ar wyneb y ddaear, a chymharu amlinellau ac arweddion cyfandiroedd, yn dwyn allan bethau dyddorol yn eu cyddebygrwydd a'u gwrthgyferbyniad. Fe ddengys trem ar fap y byd nad ydyw dosraniad tir a dwfr mewn un modd yn rheolaidd ac unffurf. O'r 197 miliwn o filldiroedd ysgwâr sydd yn gwneud i fyny arwyneb y belen, y mae 52 miliwn yn dir, a 145 miliwn yn ddwfr,—yr hyn sydd yn dangos bron gymaint deirgwaith o ddwfr ag o dir. Ymhellach, fe welir fod mwy o dir yn yr haner-gylch gogledddol nag yn yr un deheuol; ac yn fwy hynod fyth, os, yn lle rhannu y belen yn ddau haner-gylch o ba rai y mae pegynau y gogledd a'r de yn ganolbwyntiau, y rhannwn hi yn y fath fodd fel y bo y gyfran fwyaf sydd yn bossibl o dir mewn un haner-gylch, ni a gawn fod Prydain Fawr yn ganolbwynt yr haner-gylch hwnnw o dir. Y mae yn sicr yn amgylchiad hynod fod y wlad fechan hon o'r eiddom ni,-cartref yr hiliogaeth anorchfygol ag y mae ei hynni di-ymorffwys, ei phenderfyniad di-ildio, a'i hathrylith at anturiaeth fasnachol wedi cario ei dylanwad i derfynau eithaf y ddaear,-wedi ei lleoli yng nghanolbwynt yr haner-gylch tirol, megis calon y byd.

Y mae astudiaeth o fap y byd yn dangos ymhellach fod y cyfandiroedd mawrion yn dri o bârau, wedi eu trefnu yn gyfongl i'r cyhydedd,―y ddwy America, Ewrop ac Affrica, Asia ac Awstralia. Ni all y llygad lai na chael ei daro gan y duedd at ffurf dri-onglog, gyda'r top at y de, sydd i'w weled yn hynod o glir yn America Ogleddol a Deheuol, ac yn Affrica. Y mae ymhellach wastadrwydd yn mor-lanau cyfandiroedd yr haner-gylch deheuol,—Deheu America, Affrica, ac Awstralia; tra yn y cyfandiroedd gogleddol, y mae llawer o orynysoedd yn pwyntio i'r de, a moroedd amgauedig, megis morgaine Mexico, a mor y Canoldir, oll yn arweddion tra tharawiadol mewn ffordd o wrthgyferbyniad.

Fe welir hefyd fod gorweddiad pob crynswth cyfandirol yn cael ei benderfynu gan res uchel o fynyddoedd yn rhedeg trwy ei holl hyd, gan ffurfio megis ei asgwrn cefn. Felly y mae y Mynyddoedd Creigiog a'r Andes yn penderfynu rhediad gogleddol adeheuol y ddwy America; tra y mae yr Himalayas, gyda'r Caucasus, a'r Alpau, yn gwneud prif arwedd y cyfandir Ewrop-Asiaidd mawr sydd yn ymestyn dros filoedd o filldiroedd Mae yr arweddion anianyddol

mawrion hyn, mae yn ddiameu, wedi dwfn ddylanwadu ar hanes a dosbarthiad dynolryw.

Mae y cwestiwn gan hynny yn ei wasgu ei hun arnom, pa fodd y mae y dosraniad yma o dir a dwfr wedi ei ddwyn oddiamgylch, a pha fodd y mae y cyddebygrwydd a'r gwrthgyferbyniad hynod yn arweddion ac amlinellau y cyfandiroedd i'w hesbonio? A ydyw y tir bob amser wedi arddangos yr un cyfluniad o garth ag agorfa, o benryn a bâu, yr un am-linell yn erbyn y wybren glir o fryn a dôl, mynydd a dyffryn, ag a arddengys i ni heddyw? A ydyw y "mynyddoedd tragwyddol" am ba rai y mae y beirdd wedi canu, yn llythyrennol ddigyfnewid? A ydyw y tir mewn gwirionedd, fel yr ymddengys ei fod, y cynllun o'r hyn sydd gadarn, sefydlog, a pharhaus? Pa fodd y mae cwestiynau o'r fath yma i'w hateb? Mae oes y ddaear yn hir, ac y mae bywyd dyn yn fyr, ac ni allwn sylwi ond ychydig yn yr hanner cant neu y trigain mlynedd a roddir i ni. Oddieithr i ni allu gwylio y ddaear am gyfnodau yn cael eu mesur gan filoedd o flynyddoedd, pa fodd y gallwn ddweud pa gyfnewidiadau sydd yn cymeryd lle ar ei gwyneb ag sydd yn effeithio ar ei har. weddion?

Yma y mae y drefn wyddonol yn dyfod i'n cynorthwyo. Mae yr hyn sydd anweledig i'r llygad allanol yn cael ei ddatguddio i'r llygad mewnol. Trwy gwrs o ymresymiad a gwaith dychymyg wedi ei hyfforddi, ni a allwn, trwy gamrau olynol ymresymiad nad ellir ei wrthwynebu, fyned rhagom at gasgliadau sydd yn cyrraedd ymhell. Mae y prawf yn ddiamheuol fod amlinellau ac arweddion y tir yn barhaus yn araf-newid; fod darfyddiad cyson ar y creigiau yn cymeryd lle; fod arweddion anianyddol y ddaear fel yr ymddanghosant i ni heddyw, yn ffrwyth graddol ddadblygiad, yr hwn y gellir olrhain ei gamrau a nodi rhai o'i achosion. Y mae llawer o anhawsderau, ac ni ellir eto roddi esboniad cyflawn am yr holl bethau a welir; a phrin fe allai y gellir eu hesbonio yn briodol byth: ond y mae y cynnydd a wnaed yng ngwyddor Daeareg wedi clirio y ffordd a gwneud yn bossibl myned ryw bellder tuag at egluro y dyrysbynciau dyddorol hyn.

Yr ydym yn dysgu oddiwrth yr astronomydd fod y ddaear yn glamp gogrwn yn cylchdroi ar ei echel, yn un o nifer o gyrff nefol sydd yn troi o amgylch yr haul. Y mae prawf digonol fod y ddaear, fel yr haul ei hun, ar un adeg mewn ystâd doddedig. Y mae ffurf y ddaear, yr hwn ydyw yr un a gymerai corff toddedig yn troi, ynghyd a'r cynnydd mewn gwres wrth ddisgyn i fwngloddiau dyfnion, bodolaeth llosg-fynyddoedd, a thafliad allan lafa toddedig yn ystod y rhuthriadau, oll yn pwyntio i'r casgliad hwn.

Gadewch i ni ystyried beth a ddigwyddai pe buasai clamp toddedig, cylchdröadol, yn araf oeri ac ymgrynhoi. Mewn amser fe ddechreuai galedu, a ffurfid crawen deneu ar ei arwyneb. Yna fe dueddai y rhan dufewnol, trwy gydgrynhöad, i gilio oddiwrth y grawen galed o'r tuallan; a byddai y grawen honno gan hynny, wrth ymgyfaddasu i faintioli lleihaol y creiddyn crynhöedig, yn agored i grybychu a phlygu ar hyd llinellau penodol, fel y crebycha croen afal wedi sychu o herwydd y crynhöad a achosir gan ddiffyg lleithder.

Trown yn awr i edrych pa un a ydyw y ddaear yn dangos i ni unrhyw arweddion cyfatebol i'r rhai ag y mae gennym fel hyn reswm i gredu y byddai i glamp cylchdroadol fo yn oeri, eu cymeryd. Yr ydym yn cael rhannau dyrchafedig o grawen y ddaear, sydd yn ffurfio y cyfandiroedd, bob yn ail a gostyngiadau ymha rai y gorwedda y moroedd. Y mae pob cyfandir mawr, fel y dangosasom eisoes, yn cael ei ddynodi gan gadwen drom o fynyddoedd, sydd yn ffurfio megis ei asgwrn cefn, ac fe geir fod y mynyddoedd gadwyni hyn yn

« ZurückWeiter »