Abbildungen der Seite
PDF
EPUB
[merged small][ocr errors][merged small]

Adroddiad y Dirprwywyr ar Ddeddf Cau ar y Saboth. Gan y Parch.
Daniel Rowlands, M.A.

...

235

[ocr errors]

241

I Ddwy Ferch Ieuainc yn eu Harholiad am y Radd o B.A.
Nodiadau Llenyddol

[merged small][ocr errors][merged small]
[ocr errors]

...

[blocks in formation]
[blocks in formation]

Tawelu y Dymestl. Gan L. D. Jones

Y Gwr o Fecca a'i Grefydd. Gan Samuel Evans
Undebau Gweithfäol. Gan W. J. Parry

[merged small][merged small][ocr errors][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small]

293

...

Cymraeg yn yr Ysgolion Dyddiol. Gan T. Clement Thomas

...

...

Yr Hybarch Archddiacon Howell yn St. Margaret, Westminster, a'r Tra
Pharchedig Esgob Llanelwy yn Eglwys St. Paul. Gan y Parch. W.
Ryle Davies

[ocr errors][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][ocr errors][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][ocr errors][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][ocr errors][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small]

Arbrawf mewn Hyfforddi Athrawesau. Gan Miss E. P. Hughes
Y Parch. John Hughes, Pontrobert. Gan y Parch. Edward Griffiths
Cyffes Ffydd Uchel-Eglwyswyr. Gan y Parch. Ellis James Jones, M.A.
Ystori y Ddaear. Gan R. D. Roberts, M.A., D.Sc., F.G.S., Cymrawd o
Goleg Clare, Caergrawnt

[ocr errors]

Y diweddar Esgob Lightfoot. Gan y Parch. J. Myfenydd Morgan
Awduriaeth yr Epistol at yr Hebreaid Gan y Parch. W. Morris Lewis...
Y Samaritaniaid. Gan y Parch. John Jones, F.R.G.S.
Nodiadau Llenyddol

[ocr errors][merged small][merged small]
[merged small][merged small][merged small][ocr errors]
[ocr errors][merged small][merged small][merged small]

Mr. David Davies. Gan y Parch. Daniel Rowlands, M.A.
Awdl-Farwnad y Diweddar Barch. John Phillips.

[merged small][merged small][ocr errors][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][ocr errors][ocr errors]

Cofiant y diweddar Barch. Henry Rees. Gan y Parch. Griffith Ellis, M.A. 455
Y Gorffennol.
Adroddiad Dirprwyaeth y Cau ar y Sul yn Gymraeg

[ocr errors]
[ocr errors]
[ocr errors]
[ocr errors]

Gohebiaeth: Heb. x. 26-31. Gan y Parch. W. Morris Lewis
Nodiadau Llenyddol

[ocr errors][ocr errors][merged small][ocr errors]
[ocr errors]

469

[merged small][merged small][ocr errors][merged small]
[blocks in formation]

5

22

28

32

...

[merged small][ocr errors]

Y Ddeddf Addysg Ganolraddol Gymreig, 1889. Gan y Parch. DAVID
EVANS, M.A...

[ocr errors]

Cymeriad. Gan y Parch. J. J. ROBERTS...

[ocr errors]
[ocr errors]

Roger Williams: Myfyrdraeth. Gan ARBRO
Sammel Johnson. Gan y Parch. T. MORRIS JONES...
Gwleidyddiaeth yn y Talaethau Unedig.

B.A.

[merged small][merged small][merged small][ocr errors]
[ocr errors]

Gan WILLIAM LEWIS JONES,

[merged small][ocr errors][ocr errors][merged small]

"Y Gwrthwynebwyr" yn Heb. x. 27. Gan y Parch. W. MORRIS LEWIS

...

...

[merged small][ocr errors][merged small][ocr errors][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small]
[merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small]
[ocr errors]

Y TRAETHODYDD.

Y DDEDDF ADDYSG GANOLRADDOL GYMREIG,

1889.

Y MAE y profion o ddyfnder y deffroad cenedlaethol yn Nghymru yn cynnyddu yn barhaus. Nid yn unig gellir edrych ar gaffaeliad y Ddeddf hon fel effaith y deffroad hwnw, ond y mae y dyddordeb a gymerir ynddi, wedi ei chael, yn brawf ychwanegol nad ydyw yr adfywiad wedi treulio ei nerth allan, ond ei fod yn myned ymlaen ac yn ychwanegu cryfder. Ar ol ychydig seibiant wedi y cynhyrfiadau parhaus i'w chael, ac heb allu ar y pryd sylweddoli natur ac eangder ei chynnwys, gyda rhyw raddau o ammheuaeth y gallasai nemawr ddaioni gwirioneddol ddeilliaw o fesur ag oedd, er wedi gwreiddio gyda'r blaid Ryddfrydig, ar ol hyny wedi ei fabwysiadu a'i glytio gan Weinyddiaeth Doryaidd, y mae y wlad erbyn hyn yn ymddeffro drachefn i'r ymgais i wneuthur y goreu o'r manteision a gynnygir o dan ei ddarpariaethau. Ar yr adeg yr ydym yn ysgrifenu nid oes odid Sir nad ydyw yn cymeryd dyddordeb teilwng yn y Ddeddf. Ceir lleoedd newyddion yn parotoi i apelio am gael ysgol ganolraddol, ac yn casglu addewidion o danysgrifiadau at brynu tir a chodi adeilad heb bwyso ar y cyllid cyffredinol, os llwyddir i'w chael; a gwelir hen leoedd yn cymeryd mesurau er diogelu yr ysgolion grammadegol sydd ganddynt eisoes i barhau gyda hwynt o dan y trefniant newydd, gyda'r gwelliantau dysgwyliedig yn eu llywodraethiad a'u haddysg; gwneir dyfaliadau pwy a osodir gan y Byrddau Sirol ar y naill law, a chan y Llywodraeth ar y llaw arall, i ffurfio y Pwyllgor Addysg Unedig ymhob Sir; gwneir awgrymiadau lliosog pa fodd i wneuthur y defnydd goreu o'r gwaddoliadau addysgol ac elusenol er mwyn cyfaddasu y Ddeddf hyd yr eithaf at anghenion y wlad, a pha fodd i ddiogelu nifer rhesymol o ysgoloriaethau er mwyn galluogi bechgyn tlodion, ond talentog, i gael rhan o'r addysg a ddarperir, i'w cymhwyso i ennill safleoedd o ddefnyddioldeb a llwyddiant, yr hyn yw hawlfraint pob Prydeiniwr.

Wedi cael y Ddeddf hon ar lyfr y wladwriaeth, ni ddylem anghofio llafur ac ymroddiad y dynion hyny a fuont yn brif offerynau i'w sicrhau i'r genedl. Cyn manylu ar ei darpariaethau, bydd yn addysgiadol i ni adolygu y camrau a arweiniasant iddi, a chyferbynu yr hyn a fwriadwyd iddi fod â'r hyn ydyw, er mwyn cael golwg deg ar ei

diffygion yn gystal â'i rhagoriaethau. Fe allai mai gyda Commissiwn Addysg 1880 y cymerodd yr ymdrech am Addysg Ganolraddol ac Uwchraddol i Gymru ffurf drefniadol ac ymarferol. Fe gofir mai wedi i Weinyddiaeth Ryddfrydig dan arweiniad Mr. Gladstone ddyfod i awdurdod yn Ebrill 1880, y penodwyd yn Awst yr un flwyddyn, yn ol addewid y Prifweinidog yn Nhŷ y Cyffredin, Ddirprwyaeth i wneuthur ymchwiliad i sefyllfa Addysg Ganolraddol ac Uwchraddol yn Nghymru, ac i argymhell y mesurau a dybient hwy yn ddymunol er mwyn gwella neu ychwanegu at y ddarpariaeth oedd eisoes yn bod, at y cyfryw Addysg yn y Dywysogaeth. Gwneid y Ddirprwyaeth i fyny o chwech o ddynion teilwng, tri o ba rai yn arbenig oeddent yn meddu ymddiried llwyraf y genedl am eu bod yn Gymry o waed ac iaith, sef Henry Richard, Lewis Morris, a John Rhys; ac yr oedd y cadeirydd, Arglwydd Aberdar, beth bynag am gymhwysderau eraill, yn dra hyddysg ymhob materion addysgol, am ei fod, ychydig flynyddoedd cyn hyny, wedi llanw y swydd o Islywydd y Cynghor Addysg. Ymwelodd y Ddirprwyaeth â phrif drefydd y Gogledd a'r De, er mwyn derbyn tystiolaethau ar fater eu hymchwiliad, ac erbyn Awst 1881, yr oedd eu Hadroddiad wedi ei gwblhau, a'i gyflwyno i'r Senedd ac i'r wlad. Canlyniad cyntaf yr Adroddiad oedd sefydlu Coleg yn Nghaerdydd, yr hwn a agorwyd yn niwedd 1883, gyda gwaddol blynyddol oddiwrth y Llywodraeth o £4000; wedi hyny agorwyd Coleg Bangor yn niwedd 1884, gyda chyffelyb waddol; ond gadawyd Aberystwyth, er ei fod wedi ei sefydlu yn 1872, allan am dymmor yn yr oerfel, o herwydd ammheuaeth y Ddirprwyaeth ynghylch y dymunoldeb o gadw i fyny dri choleg; ond o herwydd y safle uchel yr ydoedd wedi ei gyrhaedd, a bod pob sicrwydd am ei gynnydd dyfodol, rhoddwyd iddo yntau, i ddechreu, waddol o £2500, yr hyn ar ol hyny a godwyd i £4000, i fod yn gyfartal hollol â'r ddau eraill. Felly gwaddolir y Colegau Cenedlaethol hyn yn flynyddol i'r swm o £12,000.

Ni adawyd awgrymiadau gwerthfawr y Ddirprwyaeth gyda golwg ar Addysg Ganolraddol ychwaith yn ddisylw; ond corfforwyd y penaf o honynt mewn mesur gan Mr. Mundella, yr hwn, yn ol pob tebyg, fuasai wedi cyrhaedd y cydsyniad brenhinol cyn diwedd Senedddymmor 1885, oni buasai am longddrylliad y Weinyddiaeth Ryddfrydig yn Mehefin y flwyddyn hono, pryd y cymerwyd yr awenau i fyny gan Arglwydd Salisbury. Yn nghanol helyntion cynhyrfus 1885 ac 1886, ni chafwyd hamdden i dalu nemawr sylw i hawliau addysgol Cymru, oblegid daeth yr Etholiad Cyffredinol yn ol yr etholfraint ddiwygiedig oddiamgylch yn niwedd 1885; ond cadwodd y Weinyddiaeth Doryaidd ei lle hyd Chwefror 1886, pryd y dymchwelwyd hi drwy y muniad y blaid Genedlaethol Wyddelig â'r Rhyddfrydwyr, ar fesur Jesse Collings, gyda golwg ar neillduad darnau bychain o dir i'r dosbarth gweithiol. Cymerodd Mr. Gladstone achos y Gwyddelod o dan ei nawdd, pan ffurfiodd ei weinyddiaeth, ac yn Ngwanwyn yr un flwyddyn dygodd ei fesurau o Ymreolaeth Wyddelig ger bron y Senedd; ond trwy enciliad yr Undebwyr Rhyddfrydig, gorchfygwyd y Llywodraeth drwy fwyafrif o 30, pan yr oedd mwy o aelodau yn pleidleisio nag a welsid erioed o'r blaen yn y Tŷ. Ar y 26 Mehefin dadgorfforwyd y Senedd, apeliwyd at y wlad, a thrwy uniad yr Undebwyr a'r Ceidwadwyr, daeth Arglwydd

« ZurückWeiter »