Abbildungen der Seite
PDF
EPUB

Y GWR O FECCA A'I GREFYDD.

We doubt not through the ages one increasing purpose runs,

And the thoughts of men are widened with the process of the suns.

ER dydd Iesu o Nazareth ni chododd neb mwy ymhlith plant dynion na Mahommed, sylfaenydd Islam. Fe gymerodd Cristionogaeth dros dri chan' mlynedd i wneud ei hun yn allu yn y byd; fe ddarostyngodd Mahommed a’i ddisgyblion mewn rhyw gan' mlynedd ran helaethach o'r ddaear nag Ymerodraeth Rhufain yn ei dyddiau goreu. Yn y flwyddyn 632 ar ol Crist y bu farw Mahommed,—bron yr un adeg ag y trengodd Lladin fel iaith lafaredig, Lladin, iaith Eglwys Rhufain hyd heddyw. Yn 732, gan' mlynedd yn ddiweddarach, yr oedd dilynwyr Mahommed wedi gweithio eu ffordd o ganol Arabia i ganol Ffrainc; yr oeddynt wedi croesi y Garonne ac ar gyrraedd y Loire pan yr ymladdwyd brwydr fawr Tours, ac yr achubodd Siarl y Morthwyl y byd Cristionogol rhag syrthio i law Abd-el-Rahman, cynrychiolydd y Gwr o Fecca; yr oedd yr oll o'r Yspaen a rhannau eraill o Ewrop, yr oll o ogleddbarth Affrica, a rhan fawr o Asia wedi eu gorchfygu! Dynion o ddifrif, yn llawn o ffydd yn eu hapostol ac yn ei grefydd yn unig allasai wneud hyn; ni abertha pobl eu bywydau dros achos ynglyn â pha un y mae hyd yn nod amheuaeth o dwyll a rhagrith. Ac nid dynion fel Alecsander Fawr a Napoleon, milwyr proffesedig, oedd cadfridogion y prophwyd; ond yn hytrach, pobl syml a chyffredin wedi codi trwy nerth eu brwdfrydedd crefyddol yn unig. Heddyw, ar ol yn agos i dri chant ar ddeg o flynyddau o brawf, y mae mwy o grefyddwyr yn nghorlan Mahommed nag mewn unrhyw gorlan arall heb eithriad. Y mae mwy o eneidiau wedi cofleidio Islam yn Affrica yn ystod y pum' mlynedd diweddaf nag a droed at Gristionogaeth er dechreu cenhadaeth Robert Moffat hyd y dydd hwn. "Yn ol pob golwg," medd Tolboys Wheeler yn ei History of India, "y mae trigolion India yn symud yn raddol ond yn sicr tuag at grefydd y prophwyd o Arabia, yn hytrach nag at Gristionogaeth sydd yn cael ei chynnyg yn rhydd iddynt."

Onid ydyw yn bryd bellach i'r byd Cristionogol amgyffred y ffaith mai nid rhyw Joseph Smith ydoedd Mahommed, ac mai nid rhywbeth ar lefel “Llyfr Mormon" ydyw y Coran ?

Y mae anwybodaeth a chamddealltwriaeth wedi magu llawer o gamsyniadau ynghylch Islam, ac wedi meithrin a phesgi mwy nag un celwydd am Mahommed. Yn wir y mae popeth brwnt ac annymunol a allasai ysgrifenwyr Cristionogol ddyfeisio wedi cael ei ddyweyd am dano:-"lleidr camelod," "gloddestwr aflan," "twyllwr dichellgar a diegwyddor," "adyn annuwiol a dyhirllyd,' "celwyddwr dyfeis-ddrwg," ac felly ymlaen. "Ellyll" y galwyd ef gan Shakespeare; "cyntaf-anedig fab Satan" ydoedd yn ol Luther; "dyna Gog neu Magog, neu feallai y ddau" meddai Philip Melanchthon, y mwyaf tyner a'r mwyaf cymodol o dadau y diwygiad Protestanaidd, y symudiad tebycaf i Islam a welodd Ewrop erioed. "Hen gardinal oedd Mahommed," medd un, "wedi ffaelu cyrraedd uchelgais pob cardinal, ac o ganlyniad wedi dyfeisio crefydd i ddial ar ei frodyr;" ac am a wn i nad yw y chwedl yna yn llawn mor deilwng o grediniaeth a channoedd o chwedlau sydd yn cael eu hysgrifennu, ïe, a'u coelio am sylfaenydd Islam, hyd yn nod yn ein dyddiau ni. Fe ysgrifennodd Charles Wesley, awdwr rhai o'r emynau goreu fedd yr iaith Saesneg, emyn i "gredinwyr i eiriol ar ran Mahommetaniaid." Y mae cyfieithiad Cymraeg mewn bodolaeth, ond nid yw o fewn fy nghyrraedd i ar hyn o bryd. Dyma y geiriau Saesneg :

The smoke of the infernal cave

Which half the Christian world o'erspread,

Disperse, thou Heavenly Light, and save
The souls by that impostor led-
That Arab thief, as Satan bold,
Who quite destroyed thy Asian fold.

Oh'may thy blood once sprinkled cry

For those who spurn thy sprinkled blood!

Assert thy glorious Deity,

Stretch out thine arm, thou Triune God!

The Unitarian fiend expel,

And chase his doctrine back to hell.

Y mae hyd yn nod Dr. Farrar yn ei Life of Christ mor annheg ac mor anghywir yn ei gasgliadau am Mahommed a neb o'r hen ysgrifenwyr Cristionogol. I'r gwrthwyneb y mae Deon Stanley yn ei Eastern Churches yn dyweud : "It is now known that at least for a large part of his life he [Mahommed] was a sincere reformer and enthusiast."

66

Y mae awduron Cymreig, er yn llawn mor gyfeiliornus, yn garedicach wrth Mahommed na'r mwyafrif o ysgrifenwyr Cristionogol Ewrop. Welais i yr un eto sydd yn ei alw yn “fiend" neu yn "Arab thief." Oddiwrth y cwn mudion," medd Elis Wynn yn Ngweledigaethau Bardd Cwsg, "digwyddodd i mi droi i eglwys fawr benagored, a myrdd o esgidiau yn y porth; wrth y rhai hyn deallais mai teml y Tyrciaid ydoedd. Nid oedd gan y rhai hyn ond spectol dywyll a chymysglyd iawn a elwid Alcoran; eto trwy hon yr oeddynt fyth yn yspio ym mhen yr eglwys am eu prophwyd a addawsai ar ei air celwydd ddychwel i ymweled â hwy er's talm, ac eto heb gywiro." Tipyn yn gymysglyd yw y Coran, rhaid addef, ond ni chlywais i erioed gan y Moslemiaid eu bod yn disgwyl am ailddyfodiad Mahommed. Chware teg iddo, ni addawodd efe erioed y fath beth. Ar ddydd ei farwolaeth cyfarchodd Abw Becr y gynulleidfa yn y deml yn Medina, gan ddywedyd: "Gwybydded yr hwn sydd yn gwasanaethu Mahommed fod Mahommed wedi marw mewn gwirionedd; ond yr hwn sydd yn addoli Duw Mahommed, gwybydded fod yr Arglwydd yn fyw ac nad adwaen farwolaeth yn dragywydd." Y mae y Parch. Thomas Charles o'r Bala yn ei Eiriadur Ysgrythyrol, yn cyfeirio at Mahommed yn y geiriau hyn:-" Yn y flwyddyn A.D. 626, pan gyfododd y gau brophwyd creulon a dinystriol hwn, dywedir fod tywyllwch anarferol ar yr haul, o fis Mehefin hyd Hydref. Trwy arfau rhyfel y taenodd ei gyfeiliornadau; a rhyfedd y llwyddodd dros lawer iawn o'r gwledydd dwyreiniol, ac y mae yn para yno hyd heddyw. Llygriad, drwg-foesau, a chyfeiliornadau y Cristionogion yn y parthau hynny a'u haddfedodd i'r farn drom hon. O herwydd yr un achos, ac ynghylch yr un amser, y cyfododd Anghrist a'i gyfeiliornadau dychrynllyd yn y gwledydd gorllewinol o'r byd. Y ddau a ânt i ddistryw gyda'u gilydd-a phrysured Duw y dydd! Gwel Dat. xx." Dyna grynhodeb campus, os yr un dipyn yn rhy lariaidd, o farn dysgedigion Ewrop am Mahommed yn nechreu y ganrif bresennol. Yn adeg Thomas Charles nid oedd ond un awdwr o bwys wedi dod yn agos at y gwir am Mahommed a'i grefydd; a'r awdwr hwnnw oedd Gibbon yn ei Decline and Fall of the Roman Empire. Heblaw Charles, y mae amryw awduron Cymreig ereill wedi chwipio ychydig ar Mahommed, ond nid yw ryw lawer gwaeth er hynny. Rhyw ddeugain mlynedd yn ol fe ysgrifenodd Brutus, golygydd yr Haul, "Hanes Mahommed"-mor lipa ac mor lawn o chwedlau â "Rhamant Twm Shon Cati." Barnai Brutus "Mahommed yn dwyllwr ac yn ddyn tra drygionus;" ac fod "Mahommetaniaeth wedi ei chyfaddasu at natur lygredig dyn." Gresyn na buasai Brutus wedi darllen y Coran.

Cyn myned ymhellach, credaf mai doeth fyddai ysgubo ymaith ychydig o'r camsyniadau a'r cyfeiliornadau sydd yn ffynnu ymhlith Cristionogion ynghylch y Gwr o Fecca a'i grefydd. Y mae hyd yn nod llyfrau parchus mor

lawn o ystraeon a ffug-chwedlau ynghylch Islam a'i hawdwr, fel mai prin y gellir disgwyl i bobl gyffredin yn y byd Cristionogol feddu ond syniadau pur niwlog ac amheus ar y mater. Y mae llawer ddysgedigion y Gorllewin wedi ysgrifennu ar Islam, ond cerrig ateb yw y rhan fwyaf o honynt, yn ail-ddyweud heb unrhyw ymchwiliad yr hyn a ddywedodd ereill o'u blaen. Credaf y byddai yn amhosibl enwi hanner dwsin o awduron Cristionogol sydd wedi cymeryd eu ffeithiau yn hollol o lygad y ffynnon. Yr wyf wedi clywed o bulpud y Methodistiaid un o bregethwyr mwyaf Cymru yn cyfeirio at "gyfeiliornadau dybryd y Mahometaniaid;" dywedai eu bod "yn credu fod arch eu prophwyd yn hongian rhwng nefoedd a daear, ac mai colommen fu yn sisial y ‘Coran' yn ei glust." Yr wyf wedi holi cryn lawer, ond nid wyf eto wedi cyfarfod â'r un o blant Islam sydd yn gwybod dim am hanes yr arch a'r golommen. Am yr arch nid oes gan y Mwslemiaid ond un syniad; fe fu Mahommed farw, ac fe'i claddwyd fel dyn arall. Y mae gan Sprenger yn ei gofiant Ellmynaeg o Mahommed, sylw tarawiadol a chywir iawn am sefyllfa gwybodaeth y byd Cristionogol am fyd Islam:-" Nid yw pobl ddysgedig Ewrop," meddai, "yn gwybod i sicrwydd fawr fwy am Mahommed na'r ffaith mai Mahommetaniaid yw y Tyrciaid, a'u bod yn caniatau aml-wreiciaeth." Yn awr, gadewch i ni edrych yn wyneb rhai o gamsyniadau y byd Cristionogol am fyd Islam, ac wedi hynny fe fydd yn haws deall Mahommed a'i ddysgeidiaeth.

1. Nid yw y Moslemiaid yn addoli Mahommed, nac ychwaith yn galw eu hunain yn Fahommetaniaid, na'u crefydd yn Fahommetaniaeth. Ni ddefnyddiwyd erioed mo'r ddau air hyn gan Mahommed na chan ei ganlynwyr. Fel y dywedodd Abw Becr, addolwyr Duw ydynt, ac nid addolwyr Mahommed. Iawn enw y grefydd a bregethodd Mahommed yw Islam, ystyr yr hyn yw “ Ffydd yn Nuw," "Ymostyngiad i Dduw;" a gelwir y credinwyr Mwslimin, yn yr unigol Mwslim.

2. Nid oedd Mahommed yn meddu nac yn honni y gallu i ragfynegi digwyddiadau dyfodol. Y gair y mae yn ei ddefnyddio am dano ei hun yw “Raswl ”— cenhadwr, apostol, un anfonedig. Camgyfieithiad yw y gair "prophwyd,"

oblegid y mae yn cyfleu y syniad o ragfynegwr, daroganwr.

3. Ni hawliodd Mahommed erioed y gallu i gyflawni gwyrthiau, a dywed yn y Coran mai Duw yn unig all gyflawni gwyrthiau, ac mai Duw yn unig sydd yn gwybod yr hyn sydd guddiedig.

4. Nid yw Mahommed yn hawlio anffaeledigrwydd, na'r gallu i faddeu pechodau. Pechadur darostyngedig i demtasiwn fel pobl eraill ydoedd, ac y mae yn cydnabod hynny.

66

'Dywed, negesydd Duw, a all neb fyned i Baradwys heb ras Duw?" gofynai ei wraig Aishah un dydd.

Atebodd Mahommed, "Na all neb."

"Ond onid elli di fyned i mewn ar bwys dy deilyngdod personol ?” "Na allaf byth, os na fydd i Dduw fy ngorchuddio â'i anfeidrol drugaredd." 5. Nid eilun-addolwyr yw y Moslemiaid. Y maent yn cashau eilunod â chas perffaith. Ar y pen yma y maent yn fwy Puritanaidd na'r Puritaniaid. Nid oes darluniau yn eu heglwysi nac ychwaith yn eu tai. Eilun-addolwyr oedd yr Arabiaid cyn i Islam flodeuo; arferent gladdu eu genethod bach yn fyw, a chlymment gammel i lwgu wrth y bedd, er mwyn i'r marw gael anifail i'w gario i'r farn ar ddydd yr adgyfodiad. Fe ddiflannodd yr oll o'r ofergoelion creulawn hyn o flaen Islam, fel niwl o flaen haul y boreu.

6. Nid oes gan y Moslemiaid na seremonïau, nac aberthau, nac offeiriadaeth sefydlog. Lleygwyr fydd yn pregethu, ac y mae eu ffurf-wasanaeth yn symlach nag eiddo y Methodistiaid Calfinaidd. "Yr wyf wedi gweled gwasanaeth crefyddol llawer gwlad, ond ni welais i erioed yn unlle ddim mor ddwys a

difrifol â'r olygfa hon," medd Syr Richard Burton am y gwasanaeth yn y Deml yn Mecca.

Y mae y rhan fwyaf o drigolion y Dwyrain, Cristionogion yn ogystal a Mwslemiaid, yn enwaedu ar eu plant, ond nid yw y weithred hon yn rhan o'u crefydd.

7. Y mae Ewrop yn beio Mahommed yn ddidrugaredd am fod y Coran yn caniatau amlwreiciaeth. Teg fyddai ystyried y ffeithiau. Cyn dydd Mahommed gallai yr Arabiaid, fel yr Iuddewon, briodi cynifer o wragedd ac a fynnent. Fe gyfyngodd Mahommed y nifer i bedair, ac fe ordeiniodd na ddylai neb briodi mwy o wragedd nag oedd ganddo fodd i'w cadw. Ychydig iawn o bobl barchus yn y byd Mwslemaidd heddyw sydd yn priodi mwy nag un wraig. Y mae llawer llai o anniweirdeb yn ngwledydd Islam nag yn ninasoedd Lloegr a'r Cyfandir. Yn y Dwyrain y mae y Moslemiaid yn llawer mwy moesol na'r Cristionogion,-neu yn hytrach y rhai sydd yn galw eu hunain yn Gristionogion. Nid yw y Mwslemiaid byth yn meddwi nac yn hap-chwareu; prin y gellir dyweud hyn am rai sydd yn galw eu hunain yn Gristionogion hyd yn nod yn Llundain, neu am a wn i yn Nghaernarfon.

8. Y mae y syniad cyffredin am greulonder ac annioddefgarwch Islam yn hollol anghywir. Y mae cyfreithiau Rwssia Gristionogol yn chwerwach ac yn llymmach tuag at Iuddewiaeth a Phrotestaniaeth na chyfreithiau yr un deyrnas Foslemaidd yn y byd. Ni fu y Moslemiaid erioed, yn ei dyddiau gwaethaf, mor erwin ac annystyriol yn eu hymwneyd â chrefyddau eraill ag y bu Eglwys Rhufain yn ddiweddar iawn, ac y mae Eglwys Groeg heddyw. Nid oes, ac ni fu yn holl hanes Islam ddim yn hanner mor waedlyd a dychrynllyd a'r Chwilys. Sut y darfu i Eglwys Rhufain ddiddymmu yr Albigensiaid? "Lleddwch hwynt oll, fe adwaena Duw ei eiddo," oedd gorchymyn Arnold, cynrychiolydd y Pab Innocent III., ar ol cymeryd Beziers a'i deugain mil o drigolion; a'u lladd a wnaed. Sawl gwaith y ceisiodd Eglwys Rhufain lwyr ddifetha y Waldensiaid? Un tro fe'u cigyddiwyd yn ddidrugaredd, y gwragedd a'r plant yn ogystal â'r dynion. Cymharer hyn ag ymddygiadau yr Arabiaid yn eu buddugoliaethau. "Pan gyfarfyddoch â'ch gelynion," medd Abw Becr, olynydd Mahommed, wrth y Cadfridog Iesid Ibn Abw Soffian, oedd ar gychwyn i ymosod ar Syria, 66 ymleddwch fel gwyr, a pheidiwch a throi eich cefnau. Os yn fuddugoliaethus, gofalwch beidio niweidio y plant, yr hen bobl, a'r gwragedd. Wiw i chwi ddifetha y palmwydd, y cnydau ŷd, a'r prennau ffrwythau. Peidiwch a lladd yr anifeiliaid, os na bydd arnoch eisieu y cig i'w fwyta. Byddwch bob amser cystal â'ch gair ar ol gwneud cytundeb. Fe gyfarfyddwch â phobl grefyddol mewn mynachdai yn addoli Duw yn eu ffyrdd eu hunain; peidiwch a'u haflonyddu na niweidio eu mynachdai.” Yn ddiweddarach y mae Abw Becr yn cynghori y Cadfridog Amrw i "ymddwyn bob amser mor gyfiawn â gwr ar ei wely marw ar fin myned i bresenoldeb ei Dduw." Yr oedd gelynion Islam bob amser yn cael eu dewis o ddau beth,- cofleidio Islam, neu dalu teyrnged. "Os gwrthodwch bob un o'r ddwy ffordd," medd Chalid wrth ymerawdwr balch Persia, "mi a ddeuaf ar eich cefn gyda llu sydd cyn hoffed o angeu a'r bedd ag ydych chwi o'ch bywyd." Milwr heb ddim lol o'i gwmpas o oedd y Chalid yma, yn arfer dyweud ei feddwl yn bur glir mewn ychydig eiriau. O flaen brwydr

Jermwr fe anerchodd ei fyddin: "O'ch blaen Paradwys; o'ch ol y diawl a thân uffern." Yn ystod y blynyddau diweddaf y mae y Tyrciaid wedi bod yn nodedig am eu llymder a'u gorthrwm; ond nid oes a wnelo hynny fawr ddim â'u crefydd. Y mae y Tyrciaid wedi llygru mwy ar Islam na'r un genedl arall, a chredaf fod y Groegiaid Cristionogol yn gyfrifol i raddau helaeth iawn am lygriad y Tyrciaid. Byddai cyn deced gosod Pabyddion yr Yspaen yn esiampl o Gristionogaeth ag yw cyfrif y Tyrciaid yn esiampl o Foslemiaid,

9. Nid oes gan Islam fwy i wneud a chaethwasiaeth nag sydd gan Gristion. ogaeth i wneud a meddwdod. "Y gwaethaf o blant dynion," medd Mahom.

66

med, yw gwerthwr caethweision."

Digon bellach am gamsyniadau. Nid wyf wedi crybwyll ond y rhai mwyaf nodedig; prin y gellid disgwyl mewn cylch papur o'r natur yma dorri i lawr yr oll o'r drain a'r mieri sydd yn cuddio Mahommed a'i grefydd oddiwrth ysgrifenwyr a darllenwyr y byd Cristionogol.

Yn awr gadewch i ni daflu cip-olwg byr ar Mahommed fel y mae plant Islam yn ei adnabod, ac ar ei ddysgeidiaeth fel y mae yn cael ei dysgu yn Athrofa El Azhar.

Yr oedd Mahommed yn fab i Abd-Alah ac Aminah, pobl barchus a thlawd, o deulu Hashim, o dylwyth anrhydeddus y Coreish. Ganwyd ef yn Mecca tua 570 o.c., a meithrinwyd ef am rai blynyddau yn yr anialwch. Bu ei dad farw cyn ei eni, a chollodd ei fam pan yn chwech oed. Gofalwyd am dano gan ei daid, ac wedi marwolaeth yr hen bennaeth gan ei ewythr, brawd ei dad. Bugeilio defaid a gyrru camelod y bu am yn agos i ugain mlynedd. Pan yn bedair ar hugain oed aeth i wasanaeth gweddw o'r enw Chadigah, gwraig barchus a chyfoethog yn perthyn i'r un tylwyth, ac yn byw yn Mecca. Y flwyddyn ddilynol priodwyd hwy, a buont byw yn hapus a charuaidd iawn am bedair blynedd ar hugain-hyd ei marw hi. Nid oes dim neillduol yn hanes y deugain mlynedd cyntaf o oes Mahommed. Yr oedd yn farsiandwr llwyddiannus, yn perchen amgyffredion tu hwnt i'r cyffredin, ac yn ddyn parchus iawn ymhlith ei bobl, yn nodedig am ei degwch a'i garedigrwydd. Tua 609 neu 610 o.c., y mae yn arddangos yr arwyddion cyntaf o anesmwythder ysbryd; y mae eilunaddoliaeth a chyflwr isel ei gyd-wladwyr yn mawr ofidio ei enaid; y mae ei wybodaeth amherffaith a niwlog am Iuddewiaeth a Christionogaeth yn codi amheuon yn ei feddwl ac yn ei yrru bron yn wallgof yn ei ymdrech i amgyffred dirgelwch dynoliaeth. Y mae yn ymneillduo i ogofeydd Mynydd Hira am fisoedd, ac mewn cyfyngder a mawr helbul yn syn-fyfyrio ar drueni dyn, ac aml brydiau mewn trallod mor ddygn fel y mae bron a lladd ei hun. Ar ol blynyddau o bryder dwys, o ymbalfalu yn y tywyllwch, o ddyheu am y gwirionedd, am esmwythder ysbryd ac am ddihangfa o grafangau ansicrwydd, anwybodaeth ac eilun-addoliaeth, y mae, fel Cornelius y canwriad gynt, yn gweled gweledigaeth eglur,-angel Duw yn dyfod ato ac yn galw arno i gyfodi a phregethu i bobl golledig am y Duw mawr anfeidrol. Am beth amser y mae yn ammeu yr alwad ac yn petruso, ond nid yn hir. Wedi hynny, y mae yn gwregysu ei lwynau fel cawr i redeg gyrfa, ac yn cyhoeddi yn eofn ei genadwri i feibion dynion, ac y mae yn dal i wneud hynny am flynyddau, er gwaethaf gwawd a dirmyg, ie a bygythion ac erledigaethau. "Ni throf fi ddim yn ol pan y mae Duw yn gorchymmyn," meddai wrth ei ewythr Abw Taleb, "na wnaf, pe byddinid yr haul a'r lleuad yn fy erbyn." Fe gadwodd ei air, ac fe ddaliodd yn dyn at ei bwrpas drwy anhawsderau nes y coronwyd ei ymdrechion â buddugoliaeth. Y mae ei ymddygiad fel dysgawdwr hyd y diwedd yn ddidwyll ac yn ddiragrith, ac nid yw "gau-brophwyd," "twyllwr," &c., ond llysenwau disail a disynwyr ar un ag yr oedd ei holl ymddygiadau a'i holl fywyd yn profi ei fod yn credu o waelod ei galon yr hyn yr oedd yn ei bregethu. Yr oedd Luther yn cydwybodol gredu iddo weled y diafol yn Nghastell Wartburg a thaflodd yr inc-lestr ato. A oes rhywun yn galw Luther yn "dwyllwr" am hyn? Ni fuasai y byd erioed wedi clywed son am Islam oni bae fod ei hawdwr wedi gweithredu oddiar argyhaeddiad dyfnaf ei enaid. Fe geisiodd amryw efelychu Mahommed pan ddechreuodd ei grefydd flodeuo, ond nid oes dim ond eu henwau ar gof a chadw, ac am y rheswm mawr eu bod yn gyffelyb i'r gwr ffol a adeiladodd ei dy ar y

« ZurückWeiter »