Abbildungen der Seite
PDF
EPUB

14. Nid oes dim yn y Deddfau Ysgolion Gwaddoledig sydd yn anghyson âg un o ddarpariaethau y Ddeddf hon, i'w gymhwyso yn achos unrhyw gynllun dan y Ddeddf hon; ond, yn ddarostyngedig i'r cyfryw ddeddfiad, bydd y galluoedd a ddiogelir trwy y Ddeddf hon yn ychwanegol at, ac nid yn fychaniad ar y galluoedd o dan y Ddeddf ddywededig.

Dengys hyn ddymuniad ar i'r Ddeddf Gymreig gael bob chwareu teg, gan y darperir i'r cynlluniau fod yn rhydd oddiwrth weithrediad yr adranau hyny yn neddfau 1869 a 1873 ag a fyddai yn milwrio yn erbyn eu defnyddioldeb; ar yr un pryd, attodiad at y deddfau hyny ydyw y Ddeddf Gymreig i gael ei hystyried.

15. Bydd i Ddirprwywyr Elusenau bob blwyddyn beri i Adroddiad gael ei osod o flaen dau Dŷ y Senedd o'r gweithrediadau o dan y Ddeddf hon yn ystod y flwyddyn flaenorol.

16. (1) Yn y Ddeddf hon y mae yr ymadrodd "Sir" yn golygu Sir weinyddiadol fel y deffinir hi yn Neddf Llywodraethiad Leol 1888, ac yn cymeryd i mewn fwrdeisdrefi sirol o fewn ystyr y Ddeddf hono; ac y mae yr ymadrodd Cynghor Sirol" yn cynnwys Cynghor Bwrdeisdref Sirol.

[ocr errors]

(2) Bydd i bob symiau taladwy gan Gynghor Bwrdeisdref Sirol, yn unol â'r Ddeddf hon, gael eu talu allan o'r cyllid bwrdeisdrefol, neu y dreth.

Yn y Ddeddf hon, os nad oes dim yn y cyd-destun yn anghyson & hyny, golyga yr ymadrodd "Addysg Ganolraddol" gwrs o addysg nad yw yn gynnwysedig yn benaf o hyfforddiant elfenol mewn darllen, ysgrifenu, a rhifyddiaeth; ond yr hyn sydd yn cynnwys hyfforddiant mewn Lladin, Groeg, iaith a llenyddiaeth Gymreig a Seisonig, ieithoedd diweddar, rhif a mesur, gwyddon. iaeth naturiol a chymhwysiadol, neu mewn rhai o'r cyfryw efrydiau, ac yn gyffredinol yn nghangenau uchaf gwybodaeth; ond ni bydd dim yn y Ddeddf hon i luddias sefydliad ysgoloriaethau mewn ysgolion elfenol uwch, neu eraill.

Erbyn hyn y mae ychydig o ysgolion elfenol uwchraddol i feibion a merched wedi eu sefydlu yn Nghymru. Y maent wedi bod oll yn dra llwyddiannus, ac wedi llenwi bwlch pwysig i aros caffaeliad y Ddeddf hon. Yn y rhan fwyaf o engreifftiau, tebyg y trosglwyddir yr ysgolion hyny i fod dan y Ddeddf hon; ond os tybir yn well eu parhau ar wahan, nid oes dim yn narpariaethau y Ddeddf hon i filwrio yn erbyn hyny; ond ymddengys y byddai sefydlu ysgol ganolraddol mewn ardal yn gwneyd y llall yn ddiangenrhaid, tra nas gall ysgol elfenol uwchraddol gymeryd i mewn yr holl efrydiau a ddarperir gan y Ddeddf hon.

Y mae yr ymadrodd "Addysg Gelfol " yn cynnwys hyfforddiant mewn(1.) Unrhyw un o'r cangenau gwyddor a chelf mewn perthynas i ba rai y mae rhoddion ar y pryd yn cael eu gwneuthur gan Adran Gwyddor a Chelf; (ii.) Defnyddiad arfau, a cherflunio mewn clai, coed, neu rhyw ddefnydd arall;

(iii.) Rhifyddiaeth fasnachol, daearyddiaeth fasnachol, llyfr-gofnodaeth, llaw fèr;

(iv.) Unrhyw bwnc arall cymhwysiadwy at ddybenion amaethyddiaeth, gweithfaoedd, celfyddyd, neu fywyd masnachol, ac ymarferiad, yr hyn y gellid ei ddynodi mewn cynllun, neu gynnygion am gynllun, gan Bwyllgor Addysg Unedig, fel ffurf o addysg cyfaddas i anghenion y rhanbarth;

Ond ni bydd iddo gynnwys addysgiad yn yr ymarferiad o unrhyw gelfyddyd, gweithfa, neu orchwyl.

Yr ydym yn ddyledus yn benaf i'r aelod dros Sir Feirionydd am gael yr adran hon i mewn i'r Ddeddf, a diau y bydd yn gaffaeliad gwerthfawr ar gyfer rhanau amaethyddol, llaw-weithfaol, neu arfordirol

ein gwlad. Cyfaddasir yr addysg yn ol amgylchiadau y gwahanol ardaloedd.

Golyga yr ymadrodd “Deddfau Ysgolion Gwaddoledig,” Deddfau 1869, 1873, 1874; " Adran Addysg," Arglwyddi Pwyllgor Cyfringynghor ei Mawrhydi ar Addysg; "Dirprwywyr Elusenau," y cyfryw Ddirprwywyr dros Loegr a Chymru; "Ysgoloriaeth," class-fudd, neu rhyw fudd addysgol arall; "Rhiant," yn cynnwys gwarcheidwad, a phob un sydd yn gyfrifol i gynnal neu yn meddu cadwraeth weithredol plentyn; "Cynllun o dan y Ddeddf hon," unrhyw gynllun o dan y Ddeddf Ysgolion Gwaddoledig, fel wedi ei gwella gan y Ddeddf hon.

Bellach, wedi manylu mor helaeth ar adranau y Ddeddf, y mae yn bryd i droi i edrych pa welliantau y mae yn debygol a ddiogelir i Gymru; pa gyllid ellir sicrhau gan y wlad a'r gwahanol siroedd, ar wahan, tuag at ei gweithio allan; pa nifer o ysgolion a ellir eu sefydlu dani; beth fydd cyllid pob un; pa nifer o ysgoloriaethau fyddai yn ddymunol eu trefnu; a pha effeithiau daionus a gynnyrchir yn ein gwlad drwy ei darpariaethau.

Nid yw yn anhawdd i ni, oddiwrth y manylion sydd wedi eu cyhoeddi yn Adroddiad Commisiwn 1880, wneuthur amcan-gyfrif fydd yn taflu goleuni ar bob un o'r holiadau hyn. Cymerer, i gychwyn, Ar gyfer pa nifer o ysgolheigion y dylid amcanu gwneyd lle i dderbyn addysg ganolraddol? Poblogaeth Cymru a Sir Fynwy yn 1881 ydoedd 1,570,000, a chyfrifai y Dirprwywyr Cymreig y byddai deg o bob mil o'r trigolion yn nôd digon uchel, y rhawg, i geisio cyrhaedd ato yn Nghymru, i ddilyn ysgolion canolraddol. Felly, yn ol y cyfartaledd hwn, dylid darparu lle ar gyfer 15,700. Ond nid yn fuan, mae lle i ofni, y daw Cymru i fyny â'r rhif hwn. Yn 1881 nid ydoedd yr holl ysgolheigion, ymhob math o ysgol ganolraddol, ond 4036 o fechgyn, pa rai a ddosbarthwyd fel y canlyn:

[merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small]

Prin, fel y gwelir, y gwna hyn dri ar gyfer pob mil o'r trigolion! Eglur yw, felly, nad ar unwaith y cyrhaeddir nôd y Dirprwywyr, er eu bod hwy wedi ei osod yn llawer is nag y gwnaeth y Dirprwywyr Seisonig yn eu hymchwiliad ar gyfer Deddf 1869, yr hyn ydoedd 16 ar gyfer pob mil. Gwir y bydd llawer o'r rhwystrau i boblogrwydd yr ysgolion hyn wedi eu symud o dan y Ddeddf hon. Dygir hwynt yn nês i'r boblogaeth; dysgwylir y byddant yn llawer rhatach; cyfaddasir yr addysg yn well at amgylchiadau yr oes; bydd pob anghyfleusdra crefyddol wedi ei symud; a llywodraethir hwynt gan ddynion yn y rhai y bydd gan y wlad, y mae lle i ddysgwyl, lawn ymddiried. O'r ochr arall, rhaid cydnabod mai araf y cynnydda yr argyhoeddiad yn y wlad fod addysg uwch na'r un elfenol yn angenrheidiol i gorff y boblogaeth. Prawf o hyny yw y nifer bychan a geir, ar hyn o bryd, yn aros yn yr ysgolion elfenol nes cyrhaedd y safonau uchaf; y mae tlodi rhieni, beth bynag am eu hawydd, yn rhwystr iddynt allu cadw plant yn yr ysgol, heb son am dalu fees rhesymol drostynt, wedi cyrhaedd oedran

penodol; a gwelir anmharodrwydd mawr yn fynych, hyd yn nod mewn plant cyflym eu deall, i aros yn yr ysgol, yn lle myned i ennill cyflog iddynt eu hunain, a bod yn annibynol, yn enwedig mewn ardaloedd lle y mae galw am eu gwasanaeth.

Beth am y cyllid eto? Tardd yr holl gyllid o bedair ffynnonell-y gwaddoliadau, y dreth sirol, y rhodd o'r Trysorlys cyfartal â'r dreth, a thaliadau yr ysgolheigion. Gyda golwg ar y gwaddoliadau, ceir mai y cyfanswm a dderbynid at ysgolion bechgyn yn Nghymru a Sir Fynwy yn 1880 ydoedd £12,778; sef £4352 yn Ngogledd Cymru, £4665 yn y Dehau, a £3771 yn Sir Fynwy. O dan adran 12 (2) yn y Ddeddf Gymreig, 1889, gellir meddiannu £4000 ychwanegol, yr hyn yn bresennol a ddefnyddir at addysg elfenol; ond nid ar unwaith y gellir eu cael. Y mae hefyd oddeutu £8000 o elusenau cyffredin, yr hyn o dan adran 30 o Ddeddf 1869, y gellid eu trosglwyddo at ddybenion addysg ganolraddol. Ond sicr yw y bydd llawer o amser yn ofynol i gael nemawr o'r swm hwn, ac o'r £4000. Felly, ar hyn o bryd, nis gellir cyfrif yn ddiogel ar fwy na'r £12,778. Teg yw ychwanegu fod gwerth y gwaddoliadau hyn yn cynnyddu yn barhaus; a chydnebydd y Ddirprwyaeth fod y swm yn fwy ar adeg eu hymweliad na'r hyn a geir ganddynt fel holl waddoliadau addysgol y siroedd yn nhu dalen 50 o'r Adroddiad. Am y dreth sirol, dywed Syr Hugh Owen, mai y gwerth trethadwy dros holl Gymru a Mynwy yn 1881 ydoedd £6,263,223, yr hyn, yn ol dimai yn y bunt, a rydd £13,048; a chan nad ydyw y cymhorth o'r Trysorlys byth i fod yn fwy na hyn, gwyddom yn lled gywir beth fydd y cyfanswm o'r tair ffynnonell hyn. Am y fees, dichon y bydd y rhai hyn yn amrywio mewn gwahanol siroedd, a gwahanol ardaloedd mewn siroedd ; ond ni ddylent fod agos mor uchel ag o'r blaen, canys amcan mawr y Ddeddf ᎩᎳ, nid yn unig dwyn yr ysgolion o fewn cyrhaedd y trigolion o ran lle, ond hefyd o ran cyfartaledd moddion arianol y rhieni i'w cyfarfod.

O'r holl gyllid hwn, tybiai Syr H. Owen y byddai eisieu yn flynyddol £4655 i dalu i fyny gostau yr adeiladau, yr hyn a osodai ef yn £100,000 i'w talu i fyny mewn 50 blynedd, ynghyd a llog yn ol £4 y

Heblaw hyn darparai efe ar gyfer 150 o ysgoloriaethau o £20 yr un, am ddwy flynedd dros holl Gymru, yr hyn a wnai £6000 y flwyddyn. Yn hyn yr ydym yn dewis gwahaniaethu oddiwrth y marchog anrhydeddus. Dylai yr ysgoloriaethau fod yn llawer lliosocach i gyfarfod gwlad fel Cymru, dyweder 25 y cant o'r nifer ymhob ysgol; ac yn lle bod pob un yn werth £20, gwuai £10 gyfarfod dymuniad y rhan fwyaf o rieni a fyddai yn awyddus am addysg uwchraddol i'w plant. Yn hytrach na lliosogi ysgolion, gwell, i'n tyb ni, fyddai amlhau yr ysgoloriaethau, er mwyn cyfarfod â'r rhai fydd yn rhwym o fod yn dyfod iddynt o bellder; canys mewn gwlad deneu ei phoblogaeth fel Cymru, rhaid y byddent yn anghyfleus o ran pellder i lawer. Dylai y fees hefyd fod yn llai i'r rhai hyn, er mwyn cyfarfod â thraul teithio gyda'r train bob dydd i'r ysgol, neu draul llettya, os yn aros oddicartref dros yr wythnos. Ond cymerer ffigyrau Syr H. Owen fel safon, a cheir gweled pa swm ar gyfer cynnaliad pob ysgol a fydd yn aros, wedi tynu allan yr ysgoloriaethau a'r tâl blynyddol at yr adeilad.

Cyllid oddiwrth y Dreth Sirol, £6,263,223 yn ol dimai y bunt .. £13,048

[merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][ocr errors][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small][merged small]

Pa nifer o ysgolion ar gyfartaledd ellir ddysgwyl yn y wlad? Tybir y
bydd 100 o ysgolheigion yn gymaint ag a all, ar gyfartaledd, fod yn
perthyn i bob ysgol, a chan mai yr holl nifer o ysgolheigion yw
15,700, gwelir mai nifer yr ysgolion fydd oddeutu 150, yr hyn sydd
un am bob deng mil o'r trigolion. Felly y swm blynyddol ar gyfer
pob ysgol, heb gyfrif y fees, yw oddeutu £215.

Y mae yr un peth yn dyfod i'r golwg wrth gymeryd pob sir ar
wahan. Ond gan fod y gwaddoliadau wedi eu gwasgaru mor anghyf-
artal rhwng y gwahanol siroedd, y mae y swm ar gyfer pob ysgol yn
llawer uwch mewn rhai siroedd na'u gilydd. Yn y daflen ganlynol
gwneir amcan-gyfrif o drethiad sirol pob sir ar wahan. Anhawdd yw
cael safon unffurf, gan nad yw pob sir yn gwneuthur y prisiad ar yr un
adeg. Prisiad diweddaf Sir Feirionydd at ddybenion y dreth sirol
ydoedd £247,280, yr hyn yn ol dimai yn y bunt, a wna ychydig dros
£500. Y gwerth rhentol yn cyfateb i hyn ydoedd £369,500. A
chymeryd y safon hwn i farnu cynnyrch dimai yn y bunt yn yr holl
siroedd, yr ydym yn gallu cyflwyno y daflen ganlynol, gwerth penaf yr
hon yw dangos safle gymhariaethol y siroedd, yn hytrach na chywir-
deb hollol o ran cyfanswm eu cyllid :-

[blocks in formation]

* Am fanylion pellach ynghylch Ysgolion Gwaddoledig a Gwaddoliadau Cymru,
gwel The Sunday Schools of Wales, &c., pp. 75-84. London: Sunday School
Union.

Prin, fel y gwelir, yw y cyllid, hyd yn nod yn y siroedd uchaf, a phrin iawn yn y rhai isaf. Ni byddai £1000 ond swm rhesymol iawn, fel cyllid blynyddol i gynnal ysgol o 100 o ysgolheigion, yn enwedig os yw yr ysgoloriaethau a'r tâl blynyddol tuag at yr adeilad i'w cymeryd allan o hyny. I gyrhaedd £1000 yn y sir uchaf, Dinbych, byddai raid i'r fees fod yn £6 y pen, yr hyn sydd yn llawer rhy uchel i gyfarfod âg amgylchiadau mwyafrif y rhieni yn ein gwlad. Byddai o £3 i £4 yn llawn cymaint ag a ellid yn rhesymol ei ddysgwyl yn y rhan fwyaf o ardaloedd.

Dyna'r genethod hefyd i gael darparu ar eu cyfer, a goreu po gyntaf i gymeryd eu hachos hwythau mewn llaw. Nid oes ond gwaddol bychan iawn ar eu cyfer hwy dros yr holl wlad. Gwir fod cyllid blynyddol elusen Howell yn £6500, yr hyn a renir rhwng dwy ysgol, un yn Ninbych a'r llall yn Llandaf; a £300 yn perthyn i ysgol Dr. Williams yn Nolgellau. Heblaw hyn, symiau bychain iawn sydd mewn gwahanol siroedd wedi cael eu cymhwyso hyd yma at addysg genethod o unrhyw fath. Oddiwrth yr holl fanylion hyn, y mae yn eglur y cymer amser maith i gyflenwi yr holl wlad â moddion addysg ganolraddol o dan y Ddeddf hon. Yn bwyllog ac yn araf y gall aelodau y Pwyllgorau Addysgol Unedig weithredu. Y mae y Ddeddf, yn ddiau, yn beiriant gwerthfawr i wneuthur cychwyniad da yn yr iawn gyfeiriad. Fel y daw y gwaddoliadau addysgol yn fwy eu gwerth, ac y chwanegir atynt oddiwrth elusenau cyffredinol, ynghyd a chydweithrediad y gwahanol ardaloedd er sicrhau ysgoldai heb ddisgyn ar y dreth, a rhoddion a chymunroddion at y math hwn o addysg, gellir dysgwyl pethau mawr cyn hir yn y maes yma. Yr hyn sydd eisieu yn benaf, ar hyn o bryd, yw dynion deallus, gweithgar, ac ymroddedig ar y pwyllgorau; cydweithrediad parod gan y Dirprwywyr yn Llundain â'u cynlluniau; ewyllys da ymddiriedolwyr yr elusenau eraill i'w cyflwyno at ddybenion addysgol; ynghyd a pharodrwydd o du rhieni i ddefnyddio hyd eithaf eu gallu y cyfleusderau a roddir o fewn eu cyrhaedd. Fel y mae y Ddeddf yn ffrwyth cydweithrediad y gwahanol bleidiau yn y Senedd yn ei dygiad oddiamgylch, hyfryd yw gweled hyd yma, fod pob gwahaniaeth gwleidyddol yn cael ei anghofio hefyd mewn cydymgais i sicrhau y buddiannau a gynnygir drwyddi. Ynglŷn â'r holl gyfeiriadau, y mae y deffroad cenedlaethol yn gweithio drwyddynt ; nid y lleiaf ei ddylanwad yn nyrchafiad ein gwlad, y mae lle cryf i obeithio, fydd cymhwysiad effeithiol o ddarpariaethau y Ddeddf hon; a thrwyddi hi, yn gystal a chyfryngau eraill, gallwn ddysgwyl gweled y genedl Gymreig yn ennill safle deilwng ymysg cenedloedd y byd, ac na cheir hwy mwyach, megys ag y maent wedi bod yn rhy hir, yn gymynwyr coed a gwehynwyr dwfr i bobloedd eraill y deyrnas gyfunol.

DAVID EVANS.

1890.

B

« ZurückWeiter »