Sydd ar ymddangos ar y ddaear hon, Fe hoffai'm calon wybod, fel y cawn Ymddarpar megys ag y gweddai im, A thalu pob gwarogaeth iddo Ef." Adroddai'r doethion didwyll yn ei glyw Yr oll a wyddent ac a gredent hwy Am ddwyfol natur y Goleuad mawr; Esbonient iddo genadwri'r nef.
Ymddengys Herod fel yn llawenhau,
Mae gwên foddlongar ar ei wedd tra'n dweud :— "Ewch ymaith, brysiwch, mynnwch gael o hyd I'r Baban rhyfedd, digyffelyb hwn;
Pan gaffoch Ef, dewch eilwaith yn eich ol I ddweud yr hanes, fel y gallwyf gael
Pob sicrwydd a gwybodaeth yn ei gylch,
A dod fy hunan i'w addoli Ef."
I ffwrdd cyflymma'r doethion, heb feddwl fod na brad, Na dwfn gynddaredd creulon yng nghalon teyrn y wlad; Y blaidd fel oen diniwed ymddengys iddynt hwy,
Ac fel am dalu teyrnged o barch i Un oedd fwy.
I Fethlehem cyrhaeddant, ac yno gyda Mair Eu llygaid bellach syllant ar wen y Dwyfol Air: Creawdwr mawr yr heuliau sydd yno'n Faban bach, Offrymmant eu trysorau i Hwn a chalon iach. Ymunant mewn addoliad a'r lluoedd yno sydd O fröydd pell gogoniant yn ngoleu haul y dydd. Mae'r doethion a'r bugeiliaid ac engyl nef yn un Yn arllwys mawl eu henaid "i'r Duwdod yn y dyn." Cyn edrych tuag adref o'r gwyr addolgar hyn, Mae un o feibion tangnef, rhyw angel seraph gwyn, Yn sibrwd cenadwri-rhyw nef frys-neges rad, I'r doethion, ac yn nodi ffordd newydd tua'u gwlad.
"Yn Ephrath, Dinas Dafydd, Bethlehem." Ar hyn mae dig, mae brad a dial erch, Yn cronni ac yn llifo'n donnau dros Ymylon tân ei galon anfad ddu; Rhaid lladd babanod bychain Ephrath oll, Er gwneud yn sicr o ladd yr Un-y Crist. Tra'i fryd ar ladd, mae'n ymson wrtho i hun: "Breuddwydia'r bobl fod rhyw arwrol gawr Ar wneud ei ymddanghosiad, honnant mai O fewn tiriogaeth fy llywodraeth i
Y cwyd ei ben: dychmygant hefyd fod
Y gwron eisoes wedi dod i'r byd,
A bod y ser mewn rhwysg yn dathlu'r dydd
Y gwnaeth y teyrn tybiedig roi ei droed I sangu ar derfynau Herod fawr ;
Ynfydrwydd ffol! Ni esyd un o'r ser Y fath anfarwol fri ar faban tlawd. Ond beth yw'r anesmwythder dan fy mron? Yr ydwyf fel yn teimlo dirgel ofn Fod graddau o wirionedd yn y dyb. Rhyfeddol ddisgwyl sydd er's llawer oes Am ryw ddychmygol nerthol Frenin Mawr, I roi'r llywodraeth ar ei ysgwydd fyth. Rhag digwydd fod dychymyg felly'n wir, A rhag bod unrhyw fymryn fyth o sail I'r dybiaeth am ei enedigaeth ef O fewn terfynau fy llywodraeth i,— Mi fynnaf weled terfyn gyda brys Yn cael ei roddi ar y syniad ffol. Mi wn y lle a'r amser nodir gan Freuddwydiol ymenyddiau iddo ddod. A pham gwnaf fi ymrwystro mynyd awr, Myfi'r hwn ydwyf awdurdodol deyrn? Nid oedaf ddim! Ni chaiff fy nheyrnas fod I'r un dychmygol arwr fyth yn gryd, Adwaenir yma neb ond HEROD FAWR. Holl fechgyn Ephrath a'i chyffiniau ynghyd Dan ddwyflwydd oed, tynghedaf hwy i dranc." Ar hyn mae'n anfon mintai arfog gref, Fel mintai o fytheuaid draw i hèl Babanod bychain Bethlem, ac i ladd Pob bachgen faban geir o fewn yr oed.
Yn ol gorchymyn creulawn Herod cwyd Yr arfog lu i ddechreu ar eu gwaith: Ac O erchyllaf, hacraf waith mewn bod! Ymorol i ddifetha anwyl blant-
Diniwed blant-na wnaethant ddrwg erioed! Mae'n rhyfedd nad agorai'r ddaear hen Ei safn i lyncu'r gwaedgwn oll yn fyw : Mae'n syn na chywilyddiai'r diafol pan Yn gwel'd ei weis yn troi i'r ymgyrch hon. Ond Ah, nid yw gywilydd ganddo ef; Ni wrida gwyneb un o'i weision 'chwaith! Yn Bethlehem disgynnant, ffroenant waed, Ac adrodd wnant orchymyn Herod Fawr:- "Holl fechgyn Ephrath a'i chyffiniau ynghyd Dan ddwyflwydd oed tynghedaf hwy i dranc." Tyr bloedd ddyrwygol drwy deg fangre hedd, Fe hollta calon llawer tyner fam!
Yn orphwyll hollol gwaedda ambell un :- "Os mynnwch, lleddwch, darniwch fi i'r llawr, Ond caffed hwn fy nhyner faban fyw!"
Ar ffo yn ceisio dianc i guddfeydd
Mae ereill, er mwyn arbed bywyd hoff Rhyw febyn bach nad yw ond deufis oed. Yn wallgof gwelaf dadau calon ddewr
Yn tynnu allan eu cleddyfau dur, Yn syrthio'n ebyrth i'r ysbeilydd erch Tra'n ymladd brwydr dros ddiniweidrwydd pur. Ni thycia dim, ac ni pharlysa braich
Y gelyn; yn ei awch fe fynn ei nod.
Pa le mae'r llu angylion fu yma'r dyddiau gynt, Yn plethu per alawon yn un a sain y gwynt? Paham na ddoent yn llengoedd, gyda'r awelon iach, O eithaf nef y nefoedd at gryd pob plentyn bach?
Paham na roid atalfa ar greulawn dywallt gwaed Paham na fynai'r Wynfa weld iawnder ar ei draed? Ond llais o'r nef a ddywed, " Mae dydd y farn gerllaw, Ac yno cyfiawn dynged i bob pechadur ddaw."
Newynnog, wancus eirth! Mi a'u gwelaf hwy, Uffernol haid, yn llarpio cnawd plant bach! Mi wela'r cleddyf dur yn gwanu un Tra'n huno'n ber ar fron ei dyner fam, A'r fam yn syrthio dano'n fud 'run awr, I beidio codi na dihuno mwy!
A lluoedd ereill dan yr aeth a'r cur, Yn troi'n wallgofiaid truain am eu hoes! Chwiorydd tyner-galon yn eu braw Lewygant wrth y degau pan yn gweld Y cleddyf noeth yn suddo hyd y carn Yn nhecaf gnawd eu brodyr ieuainc îr! Mae'r meibion hynaf gyda'r tadau dewr Yn ceisio atal llanw'r difrod gwael; Ond syrthio'n farw wnant ar faes y frwydr, A marw'n warthus yn y ffrydiau gwaed! O'r fath gynddaredd nwydwyllt! Nid yw'r cledd Yn blino nac arafu yn ei waith! Fel pladur ddur a fyddo'n torri lawr
Y gwair a'r blodeu tyner ar y ddol,
Heb wneud gwahaniaeth ac heb arbed un, Ond lladd, a lladd, nes lladd yr oll yn llwyr,- Efelly nid arbeda'r cleddyf 'chwaith
Un baban-fachgen geir drwy Ephrath oll!
Mae'r tywallt gwaed ar ben. Gorchymyn caeth
Y ci cynddeiriog Herod, cariwyd hwn
Yn fanwl i weithrediad, lladdwyd pawb— Nid oes un bachgen-faban yn y tir !
Ond O!'r gwallgofiaid truain yma sydd, Oherwydd y gyflafan waedlyd hon! Ymwibiant megys crwydriaid yma a thraw, Heb adwaen rhagor mwy rhwng dydd a nos. O'r galar! O'r griddfannau oerion sydd Yn esgyn o bob heol a phob ty!
Mae'r balm awelon heddyw wedi troi
Yn rhyw gerbydau galar bob yr un !
Mae'r gerddi fu mor deg, mor swynol gynt,
A'r gwinwydd ffrwythlawn grogant wrth y mur, Fel pe mewn galar dwfn yn wylo'n awr,
Mewn cydymdeimlad â'r preswylwyr trist!
Gerllaw mae beddrod Rahel, enwog fam
Yn Israel gynt. Ond O! mae'r cynhwrf hwn Yn aflonyddu ar ei thawel hun,
Ac ymofidia'n athrist am ei phlant !
"Fy merched anwyl tyner,
Chwi fammau Ephrath gu,
Mi glywais yn y dyfnder, Eich galar-gwynfan du:
Mor ddwfn eich clwy' a'ch tristwch, Nes aflonyddu'm hedd, Ni chawswn i lonyddwch
I orphwys yn y bedd. Mi welais lawer aflwydd, Yn Israel cyn eich bod; Ond da y gŵyr fy Arglwydd, Na welais is y rhod
Erioed yr un erchyllwaith, Fel y gyflafan hon, Sy'n difa sail ein gobaith- Ein baban-fechgyn llon. Mae tywallt gwaed bob amser, Yn anfad greulawn waith; Ond lladd ein meibion tyner Oedd bur wrth ddwyfol raith, Sydd anfaddeuol bechod,
Yng ngolwg Duw y nef,- A chyfrif llawn sydd uchod O'r cyfan ganddo Ef. Fe ddygir pob llawruddiog I'r farn ryw ddydd a ddaw, I dderbyn cyfiawn gyflog Am bob peth wnaeth ei law. A chofiwch hyny hefyd,
Fod eich babanod bach Yn engyl claer mewn gwynfyd— Yn fyw yn fythol iach."
Ar hyn diflannodd ymaith, ac fe fu Ei hedd ymweliad hi, a'i gair, i bawb Yn gysur ac yn ddirfawr esmwythad, Tra'n ceisio llechu dan alluog law
Eu Duw, sy'n dwyn gweithredoedd pawb i farn; Ac yn y gobaith fod eu tyner blant, Fel engyl gwynion yn y drydedd nef, Yn fythol iach yn nghynulleidfa'r saint
Beth ddaeth o'r Baban Iesu?
Ei fywyd gyda'r lleill ar faes y gwaed?
Na, Na! Mae'r Iesu'n fyw! Daeth angel gwyn, Mewn pryd i ddweud yng nghlyw ei riaint mad, Am ffoi i'r Aipht o gyrraedd cleddyf dur
Y gwaedlyd Herod. Yno dygwyd Ef, Dan fantell gudd y nos, ac yno bu Nes aeth yr aflwydd heibio. Mynnai Duw Weld priddo'r teyrn gormesol cyn y cai'r Eneiniog roddi troed ar dir ei wlad. Er dued fu'r gyflafan, methodd nwyd Gynddeiriog Herod ladd yr unig Un Y mynnai osod terfyn ar ei hoedl-- Holl allu Duw i warchod hwnnw gaed. Fe drengodd Herod Fawr yn wael ei wedd, A barn condemniad yn ei fron ei hun; Ond rhaid i'r HAUL oleuo, nid oes fodd I atal llewyrch ei oleuni claer.
Am fod yr Iesu'n fyw, er gwaethaf holl Haerllugrwydd y gyflafan anfad hon, Fe rydd gyfiawnder yn y farn a ddaw, I leiddiaid anwar ei gyfoedion hoff. Am fod yr Iesu'n fyw, esboniad geir Ar genadwri Rahel, ddwedai fod Y plant diniwed laddwyd, oll yn iach- Yn engyl gwynion yn Mharadwys Duw. Ac am fod Iesu'n fyw, bydd plant y byd Yn anwyl gan ei galon ddwyfol hael,- Cofleidia hwy'n gariadus; byddant ar Eu hennill yn dragwyddol; dywed Ef- "Gadewch i'r cyfryw ddyfod ataf fi, Eu heiddo hwy yw teyrnas rad y nef."
MEWN tref bwysig yn Neheudir Cymru a fynych ymffrostia yn ei hawl i gael ei chydnabod yn Brif Dref y Dywysogaeth, daeth i'n rhan yn ddiweddar i wrandaw ar foneddwr o Sais dysgedig a medrus, yn traddodi darlith ar y gwron Cymreig, Owain Glyndwr. Wedi rhoddi yr oll a wyddys am Owain fel cymeriad hanesyddol, aeth y boneddwr ymlaen i roddi i ni ei elfeniad o gymeriad y Gwron, ynghyd a'r lle a ddylai gael yn hanesiaeth a pharchedigaeth ei wlad. Yr oedd yr elfeniad hwn ymhell o fod yn ffafriol i Glyndwr. Dygai nodweddiad amlwg darlun wedi ei dynnu oddi ar safle Seisnig ac estronol. Cyfeiriai y darlithydd drachefn a thrachefn at Owain fel gwrthryfelwr. Ond yr oedd yn bresennol yn y cyfarfod foneddwr o Gymro sydd mor nodedig am ei sel Gymreig ag ydyw am ei wybodaeth lenyddol a gwyddonol. Pan y galwyd arno ef i gynnyg diolch i'r darlithydd, dadganodd yn barchus, ond yn ddifloesgni, ei anghymeradwyaeth o'r elfeniad sarhaus a wnelsai o gymeriad y Cadfridog Cymreig. Dywedodd ymhellach fod dynion yn fynych yn rhy barod i dybied fod pob un a ddigwydda fod yn aflwyddiannus ar faes y gwaed-bydded yr amcanion a'i harweiniodd yno mor uchel a chysegredig ag y mae yn bossibl iddynt fod,—yn wrthryfelwr annheilwng o edmygedd a pharch; tra o'r ochr arall, fod yr hwn ddigwydda fod yn llwyddiannus-bydded ei amcanion mor anghyfiawn ac annheilwng ag y dichon iddynt fod, yn wron haeddiannol o bob parch ac edmygedd. A dywedai ymhellach, tra y mae Washington yn cael ei edmygu a'i folawdu gan wreng a bonheddig, ond Owain Glyndwr yn cael ei wawdio a'i warthruddo fel gwrthryfelwr, fod y ddau yn un yn amcanion mawrion eu bywydau-rhyddid ac annibyniaeth eu gwlad. Ond bu un yn llwyddiannus, a'r llall yn aflwyddiannus; ac am hyny rhaid i'r byd gael edrych ar un fel gwron, a'r llall fel gwrthryfelwr ffol a drygionus. Yr oedd y gymeradwyaeth gref a ddilynodd draddodiad y sylwadau hyn yn brawf fod y Cymro wedi taro yr hoel ar ei phen, ac fod eto yn rhedeg drwy wythenau Cymry yr oes hon lawer o'r hylif cenedlgarol hwnnw a gynheuai mor danbaid yn mynwesau y tadau Cymreig a fu wyr enwog gynt. Cawsom yn y ddarlith brawf o gyfeiriad nad oeddym yn ei ddisgwyl, fod cenedlgarwch gwlad, pan ddelo i wrthdarawiad â thrais a gormes gwlad estronol, yn wastad yn agored i gael ei gam-ddeall gan y wlad honno, a'i gymeryd fel gwrthryfel afresymmol ac anesgusodol.
Nid oes neb a wâd nad yw cenedlgarwch ynddo ei hun yn rhinwedd i'w feithrin a'i ddadblygu. Y mae yn rhinwedd cynhennid ymhob cenedl ar y ddaear. Yr oedd felly yn arbenig yn y genedl Iuddewig, ac yr oedd crefydd y genedl honno yn ei rymuso a'i angerddoli. Ond tra y mae yn gynhennid i bob cenedl, y mae yn fwy ei nerth a'i wres mewn rhai cenhedloedd nag ereill. Dywed rhai ei fod yn fwy felly yn y cyff Celtaidd nag mewn unrhyw gyff arall o'r hil ddynol. Beth bynnag am hyny, y mae y canghennau Prydeinig o'r cyff hwnw yn sicr o fod yn nodedig yn y gras hwn. Cymerer, er engraifft, yr Albanwyr; y mae cenedlgarwch yr Ysgotiaid yn ddihareb. Er colli o honynt i raddau helaeth eu hiaith, ac er eu meddiannu gan ysbryd ymfudol yn fwy na llawer, eto ym mhobman glynant wrth eu gilydd, a daliant yn eu serch at eu gwlad. Felly hefyd am ein cefndryd aflonydd yn yr Ynys Werdd. Nid ydynt hwythau ond i raddau amherffaith iawn wedi gallu cadw eu hiaith a'u llenyddiaeth frodorol; y maent yn wasgaredig dros wyneb yr holl ddaear; er hynny nid ydynt byth yn darfod a bod yn wir blant yr Iwerddon. Trwy gydymgais a chyd-ddealldwriaeth a'u gilydd, deuant ym mhob tref drwy y Deyrnas Gyfunol a'r America a gwledydd ereill, yn allu cenedlaethol cryf ag y mae yn rhaid ei gydnabod, a thalu gwarogaeth iddo. Cyfrannant yn hael o'u henillion prinion yn
« ZurückWeiter » |