Abbildungen der Seite
PDF
EPUB

a ddywed Dawson yn wirionedd perffaith am ddiffygion damcaniaeth ymddadblygiad yn bresennol. Ac yn ngwyneb ei sylwadau, nid oes llawer o rym yn honiadau yr ymddadblygwyr fod digon eisoes wedi ei brofi i wneuthur yn gyfreithlon ei chredu yn ei chyfanrwydd, gan ddisgwyl yn amyneddgar am ychwaneg o oleuni. Engraifft arall ydyw hyn o ddynion yn arfer ffydd eu hunain, er ymosod yn greulawn arni pan arferir hi gan dduwinyddion. Yr ydym yn defnyddio y gair "ffydd" rhag rhoddi achos tramgwydd; buasai y gair "hygoeledd " yn llawn mor briodol; oblegid credant yr hyn sydd yn gwbl wrthwynebol i dystiolaeth pob arbiawfiadau gwyddonol. Proffes y gwyddonydd ydyw ei fod yn rhwym o fyned yn ol ei arbrawfiadau; ond y mae ei ymddygiad yn dra gwahanol. Tystiolaetha gwyddoniaeth, er engraifft, nad oes dim yn fwy sicr nag y bu amser pan nad oedd bywyd ar y ddaear o gwbl. Yr oedd y gwres yn rhy fawr; buasai yn ddinystr anocheladwy i bob bywyd. Nid oedd yn bod, gan hynny, y pryd hwnw, ond mater marw. Ond ryw adeg bell yn ol, daeth bywyd i mewn o rywle. Ar hyn nid oes amheuaeth yn bosibl. Ond o ba le? O'r mater marw, trwy hunan-gynyrchiad, medd yr ymddadblygwyr. Ni fynnant gydnabod unrhyw ddylanwad allanol. Ond fel y dywedwyd eisoes, nid oes o fewn gwybodaeth a phrofiad dyn un gronyn o sail i'r grediniaeth ym mhosibilrwydd y fath beth. Ac er y cwbl, credir mewn ymddadblygiad fel eglurhad boddlonol ar darddiad bywyd !

Yn ol y goleuni sydd gennym, ynte, cwbl resymol ydyw glynu wrth y syniad am greadigaeth fel yr unig eglurhad rhesymol ar darddiad y byd. Fel y dywed Dawson, gall fod i ymddadblygiad ei le o fewn rhyw derfynau; ond y mae yn gwbl rydd i.ni yn ol y profion a ddygir ymlaen gan yr ymddadblygwyr eu hunain, ddywedyd nad ydyw ymddadblygiad eto mewn un modd yn troi creadigaeth o'r neilldu. Ac y mae edrych ar sefyllfa y profion dros ymddadblygiad yn peri i ni dybio fod duwinyddion mewn gormod o frys i edrych pa beth fyddai effaith ymddadblygiad ar ein crefydd pe llwyddid rywbryd i brofi ei wirionedd. Dyna yw amcan llyfr Dr. George Matheson-" Can the Old Faith live with the New?"-dangos pa mor bell y gallwn ddal gafael yn ein hen ffydd pe gwelid fod ymddadblygiad yn eglurhad digonol ar fodolaeth pethau. Ac y mae y Proffeswr Drummond, ac ereill, eisoes wedi gwneud cais i osod allan yr hen wirioneddau yn iaith ymddadblygiad, er mwyn ceisio eu cymeradwyo i feddyliau ymddadblygwyr, a darpar hefyd ar gyfer eu diogelwch wedi y delo goruchafiaeth ymddadblygiad yn ffaith. Wrth edrych ar brysurdeb yr ymddadblygwyr ymhob cyfeiriad,―y modd y maent yn dwyn i fod gyfundrefnau newyddion ymhob tiriogaeth, nid ydyw y peth mor afresymol; ond pan edrychwn yn lle hynny ar y cynnydd y maent yn ei wneyd mewn profi gwirionedd eu damcaniaeth, y mae y brys ymron yn anesgusodol.

Bwriadem gyfeirio at amryw bethau ereill, megys y syniad am fodolaeth ddiddechreu mater, yr hwn yr ymdrecha Dr. Matheson ddangos nad yw yn anghyson â'r syniad am Greawdwr a chreadigaeth. Nid ydym ein hunain yn gallu teimlo fod ei ymresymiad yn dwyn argyhoeddiad i'n meddwl. Ond rhaid i ni yn awr adael y mater hwn, yn gystal a'r haeriad fod ymddadblygiad wedi bwrw ymaith yr hen syniad am amcan a chynllun mewn natur, a phob ymresymiad ar y tir hwnnw o blaid bodolaeth Creawdwr. Hyderwn ein bod wedi llwyddo i ddangos, ar dir gwyddoniaeth ei hun, mai teg a rhesymol ydyw ymlynu wrth ddysgeidiaeth yr Hen Lyfr am darddiad pob peth. Y mae gwyddoniaeth heb lefaru eto un gair ag y gall y meddwl orphwys mor briodol ynddo ag y gall yn y geiriau cyntaf yn Llyfr Genesis: "Yn y dechreuad y creodd Duw y nefoedd a'r ddaear."

Bootle.

GRIFFITH ELLIS.

HEROD FAWR A'R BABAN IESU.

I.

O EPHRATH fechan serchog! Nid lleiaf ydwyt ti
Ymhlith dinasoedd caerog a threfi'n daear ni:
Mae geiriau'r dwyf brophwydi, ac ysbrydoliaeth gref
Er's oesoedd wedi'th nodi fel cryd Etifedd Nef.
O'th fewn, O ddinas Dafydd, mae Etholedig Ior,
Sy'n Fab ac Arglwydd Dafydd, Creawdwr tir a mor.
Yr Iesu'n faban bychan a Duwdod yn ei drem
A roddes fri anniflan ar enw Bethlehem.

Ty Bara yw dy enw, a Bara'r Bywyd hael,

Ar ddwyfol ddynol ddelw sydd ynot wedi ei gael;
Pwy bynnag a fwytão o'r Bara hwn drwy ffydd
Ni welir newyn arno am oes tragwyddol ddydd.

O fangre lawn o swynion! Prydferthwch drwyddi chwardd,
A gobaith meibion dynion o'i mhynwes anwyl dardd;

Ceir heddyw rhwng ei phalmwydd, fu'n fawr eu bri erioed,
Flaguryn enwog Dafydd yn tyfu rhwng y coed.

Os bu rhosynau dengar yn ngerddi Ephrath dre,
Mae Rhosyn Saron hawddgar yn awr o fewn y lle;
Mae'r blodeu heirdd a dillyn mewn newydd wisg i gyd,
A Duw ei hun yn Flodyn yn ngardd dynoliaeth byd.
Nef-heddwch fel yr afon deyrnasa drwy y fro,
Ac engyl Duw'n osgorddion ynt yma ar eu tro,
Yn canu per anthemau ar lawer cangen werdd,-
Nid rhyfedd fod calonau'n dychlamu'n swn y gerdd.
Bugeiliaid draw o'r meusydd a ddenir gan y sain,

Mae'r gân mor ddwyfol newydd nes llwyr wefreiddio'r rhain;
Mae'r diadelloedd llawnion fel yn clustfeinio ynghyd
Tra'r fath dreiddgarol swynion yn greddfol ddwyn eu bryd.
Mor berffaith y tangnefedd, mor gyflawn y mwynhad,
Mor wresog y gorfoledd sy'n torri dros y wlad:
Mae'r nefoedd yma'i hunan, a'r ddaear hon yn nef,
Yn ymyl cryd y Baban.-Duw cadarn ydyw Ef.
Ond er mor dangnefeddus yw poppeth drwy y tir,
Ac er fod engyl nwyfus yn gwau drwy'r awyr glir,
Y mae ystorm fygythiol yn darllaw oddi draw,
Ac ysbryd dig dinystriol yn deor brad gerllaw;
Mae'r cymyl yn ymgasglu a'r nen yn troi yn ddu,
A'r oll yn daroganu dydd gwae i Ephrath gu:
Nid ydyw'r dwfn ddistawrwydd ond arwydd eglur fod
Ystorm o gynddeiriogrwydd ar Fethlehem yn dod.

II.

Ar orsedd Palestina Herod sydd

Yn frenin ac yn erchyll deyrn ei ddydd;
Ac er nad ydyw ef ond rhaglaw distadl
Dan Caisar, ac heb hawl i godi gwrthddadl
Yn erbyn Rhufain fawr a'i hymerawdwr,
Er hyn yn Nghanaan oll mae'n ben gormeswr.
Cigyddol flaidd yw ef, a bryd ei galon

Ar larpio cnawd a drachtio gwaed ŵyn gwirion.
Drwy drais a brad, drwy nerth y cledd a'r bwa,
Mae'n llywio gorsedd hen y Duw gorucha'.
Mae'r wlad yn crynu ac yn dychryn rhagddo,
A Seion wan ei hun ar lawr yn wylo.
Mal ar y maes y gwelir clomen ofnog,
Yn crynu ac yn dychryn rhag yr hebog,
A rydd ysgrech wrth hedeg ar ei aden

I geisio gwaedlyd ysbail yn ei elfen,

Efelly'r ofna ac y cryna miloedd

Rhag Herod greulawn gyda'i fleiddiawl rengoedd.
Drwg-dybia'i ddeiliaid, dyry i farwolaeth
Wirionaf wyr ar allor ei fympwyaeth:
Ar fywyd dyn, ar enaid prid anfarwol,
Ni esyd fwy o werth nag ar lwch heol;
Ond fel y rhwyga'r fellten dderw'r goedwig,
Efelly yntau mewn digofaint ffyrnig,
A dyr i lawr yn llu gyd-fodau dynol,

A chwardda'n iach yn swn eu llefau marwol.
Tra'r fath anfad-ddyn erch yn llywodraethu
Mae'r deyrnas oll hyd at ei seiliau'n crynu.
Fel gwelir weithiau gewri wrth naturiaeth
Yn ymhyfhau yn ymyl awr marwolaeth,
Fe welir dewraf lwythau brodir Canaan
Mewn ymdrech am eu hoedl yn tori allan
Gan hyf wrthsefyll trais gormesol Herod,
Ac yna'n marw dan ei greulawn ddyrnod.
Nid gwiw i neb feirniadu gwaith yr orsedd,-
Wrandewir ddim ar lais na gwlad na senedd.
Os beiddia neb lefaru gair ar dafod
Na bydd yn ol ewyllys ac awdurdod
Y teyrn gormesol, costia iddo'i fywyd,—
'Chydnebydd Herod ddim ond marwol benyd:
Rhaid marw'n gosb am y troseddau lleiaf,
Ac nid oes gwaeth am y pechodau mwyaf.
Os tybia ef fod unrhyw un yn euog

O fai, ac yntau'n rhydd, yn llwyr ddi-euog,
Rhaid hyrddio hwnnw yn anfad i farwolaeth,
Fel pe y bradwr gwaethaf mewn bodolaeth.
Fel gwancus lew yn gwneuthur erch alanas,
Disgyna beunydd ar ryw ran o'r deyrnas,
Gan roi i lifo waed diniwed ddynion
Drwy'r decaf wlad yn boeth afonydd cochion.
Ni erbyd ef na chyfaill na pherthynas,

Ond tyr i lawr mewn cynddeiriogrwydd adgas
Ei fam, ei briod, ïe, 'i blant ei hun:

O flaen ei finiog arf ni saif yr un.

Os ydyw Bethlehem Ephrata'r awrhon
O'i mhewn ei hun a'i heddwch fel yr afon,
Os ydyw hi mewn hwyl yn rhoi croesawiad
I engyl ddaethant yno ar ymweliad,
Gall hithau yn ei hadeg ddisgwyl dyrnod,-
Ei brenin ydyw'r creulawn adyn Herod.

III.

Mae bryniau a mynyddoedd ambell wlad
Yn ymddyrchafu'r naill wrth gefn y llall,
Ac fel yn syllu dros ysgwyddau preiff
Eu gilydd, ar ryw deg ardaloedd pell:
'Run fath y gwnaeth prophwydi llawer oes,-
Rhyw nef-ddysgedig weledyddion oe'nt,
A thros ysgwyddau'u gilydd gwelent hwy,
A llygad ffydd, tra ysbrydoliaeth Duw
'N goleuo'r ffordd, ymlaen i bellaf dir
Emmanuel.

Rhyw lin ar lin a roed,
Dadguddiad ar ddadguddiad ddwedai'n glir
Fod Dwyfol Frenin yn ei ddydd yn dod;
Mae "Had y Wraig," mae'r "Seren Fore" glaer,
Mae "Gwreiddyn Jesse," a'r "Blaguryn" ir,
Mae "Rhosyn Saron," "Pren afalau" hardd,

Mae'r "Prophwyd Mawr," "Tywysog hedd" ei hun,
Mae "Haul Cyfiawnder" gwyn, mae'r "Meddyg Da,"
"Messiah," gwir "Eneiniog Duw" i ddod;
Mae'r "Cadarn Ior" i wisgo dynol gnawd
Ryw ddydd, a phan y daw, eistedda Ef
Ar orsedd Dafydd ei frenhinol dad;
Ac ar lywodraeth Hwn ni welir tranc

Na methiant byth mewn unrhyw ran, tra byd,
Tra haul, tra dyn, tra nef, tra Duw yn bod.
Mae'r byd yn credu hyn, a'r awydd am
Gael gweled rhyw arwrol Frenin mawr,
Wna lwyr ddarostwng trais ac adfer hedd,
Yn troi'r grediniaeth yn ddisgwyliad cryf.
Y Person sy'n "Ddiddanwch Israel" Duw,
Sy'n brif "Ddisgwyliad y cenhedloedd" oll.
A gwelir eisoes rywrai wrth y gwaith
O chwilio amser ei ddyfodiad Ef,

A phob ymchwiliad didwyll ddywed fod
Yr amser addawedig wrth y drws.
'Roedd Daniel wedi nodi dydd ac awr
Ei fyth ryfeddol ymgnawdoliad Ef,
A gwelai llawer rabbi doeth a chraff,
Fod rhif y dyddiau gosodedig hyn
Yn llawn, a mawr y cyffro bellach sydd
Am weld yn esgor hen addewid Ior.

Mae'r bobl ar flaenau'u traed yn disgwyl am
Y newydd fod y Brenin yn y byd.

Mae llanw y disgwyliad hwn mor gryf,
Ac mor gynhyrfiol fel mae llawer un
Yn methu peidio gwylio ddydd a nos

Rhag colli'r olwg gyntaf arno Ef

Yn ei ddyfodiad. Gwelir rhai'n parhau
Fel Ana a Simeon, gyda ffydd

Yn nheml yr Ion, gan ddisgwyl gweld y wawr

Yn tori ar eu hachos hwy, a'r Haul

Yn ymlid y tywyllwch dudew ffwrdd,

Drwy lewyrchiadau dwyf "Oleuni'r byd."

Mor gryf y llanw fel y rhoddid coel

Ar wag ymhonwyr ddwedent mai hwynt-hwy
Yn ol yr addewidion oedd y Crist-
Gwir Anfonedig Duw-Gwaredwr dyn.
Ar flaen y llanw cododd llawer gwr

Gan honni bod yn fab addewid Ior;

Ac fel bydd plentyn bach wrth weld y lloer,
Yn tybied ei fod ef yn gweld yr haul,
Efelly tybiwyd am ymhonwyr gau
Fod Mab ac Arglwydd Dafydd wedi dod.
Ond fel y cilia'r nos o flaen y wawr
Diflanna'r twyllwyr oll yn ngoleu prawf;
A chyfyd y disgwyliad eto'n uwch
Am weled gwir ddyfodiad Crist ei Hun.
Yn bennaf oll mae Palestina deg
Am weld yn esgor addewidion Duw.
Ond Herod frenin, fel rhuadwy lew,
A wylia rhag i unrhyw allu mawr
Ymddangos gan ei ddiorseddu ef:
Mae'n ceisio anwybyddu'r llanw cryf.

IV.

Traddodiad ddwed y credai ein hynafiaid
Fod ser y nef yn gweini ar wroniaid,
Ac nad oedd arwr mawr yn cael ei eni
Na fyddai seren glaer o'i flaen yn codi.

Ni anwyd Alecsander heb i seren
Or-ddisglaer brydferth wenu o'r ffurfafen;
Ni chafodd Caisar wneyd ei ymddanghosiad
Heb ddyfod seren gyda rhag-hysbysiad.
Yn ol y dyb yr oedd y ser drwy'r oesau
Yn gweini ar wroniaid cenedlaethau.

Darfydded tybiaeth,-wele seren wyrthiol
Yn llachar wenu mewn gogoniant dwyfol-
Mae'r dwyrain oll yn fflam.

Ac wele'r doethion
Yn cydymholi'n aiddgar i'w chyfrinion.
Mae yno rai yn cofio iaith dadguddiad
Sy'n son am "Seren Jacob" a'i thywyniad,
Ac am yr Haul, sef Dwyfol "Haul Cyfiawnder, 1
A ddeuai yng nghyflawnder mawr yr amser:
Mae addysg teulu'r gaethglud heb ddiflannu,
Ac yno drwy y Seren mae'n serennu
Holl gynnwys addewidion Duw i ddynion!
A chan lawenydd llamma llawer calon.
Mae'r ser arferent wenu yn eu graddau
Yn awr yn gwylaidd guddio eu hwynebau:

Yn ngwydd tanbeidrwydd hon -Ysbrydol Seren,— Diflanna llewyrch heuliau o'r ffurfafen.

Mae'r doethion wedi dal ei chenadwri,

A thros eu gwefus mae y geiriau'n tori:
"I ffwrdd a ni, mae'r Brenin ar y ddaear
Morwynig Duw mewn cnawd yw'r Seren lachar;
Trysorau aur a thus a myrr a ddygwn,
Ac wrth ei draed ein cyfoeth pennaf daflwn,
Addolwn Ef-Creawdwr nef y nefoedd,-
Gogoniant Hwn a'i fri barhâ'n oes oesoedd.”
I ffwrdd cychwynant, ac arweinia'r seren
Yn anffaeledig fry ym mro y wybren;
I Ephrath deg cyfeiria ar ei hunion—
Cartrefle hedd a chyrchfan nef angylion:
Ac yno tyr yn fôr o wawl cysegrlan,
Goruwch y fan lle'r oedd y Dwyfol Faban.

V.

Pan ar eu taith o'r pell ddwyreiniol dir
Y daeth y doethion hyd yn Salem hen,
Ymholi wnaent yn daer: "Pa le y mae
Yr Hwn a anwyd ac sydd byth i fod
Yn Frenin
yr
Iuddewon? Er ys talm
Ei seren welsom, ac fe ddaethom ni
Ar frys hyd yma i'w addoli Ef."
Pan glybu Herod genadwri'r gwyr,
A deall amcan eu dyfodiad hwy,

Yn aruthr iawn fe ffrommodd; erchi wnaeth

Eu galw i ymddangos ger ei fron;

Yn ddirgel ac yn fanwl holodd hwynt:

"Pa le, pa bryd yn gyntaf gwelsoch chwi

Y seren ryfedd a dieithriol hon?

Pa beth debygwch rag-hysbysa hi?

Ai tybed ichwi nad dangoseg yw

Fod rhyw Un mawr na fu erioed ei fath
Ar wneud ei ymddanghosiad yn y byd? .
Arllwyswch eich calonau; yr wyf fi,
Fel chwithau'n wir awyddus am gael gweld
A deall y dirgelwch rhyfedd hwn.
Os Brenin Mawr-rhyw wir arwrol deyrn

« ZurückWeiter »