Abbildungen der Seite
PDF
EPUB

(1). Trethiad uniongyrchol o fewn y Dalaeth er codi trysorfa i gyfarfod anghenion y Dalaeth.

(2). I fenthyca arian ar goel unigol y Dalaeth.

(3). Yn sefydliad swyddau a swyddogion Talaethol, ac yn apwyntiad a thalu y cyfryw Swyddogion Talaethol.

(4). Yn sefydliad, cynaliaeth, a llywodraethiad carcharau, a sefydliadau cosbawl yn ac am y Dalaeth.

(5). Yn llywodraethiad a gwerthiad holl diroedd y Goron o fewn y Dalaeth. (6). Yn mhob achos sydd yn dwyn perthynas â thrwyddedau o fewn y Dalaeth, er codi trysorfa i amcanion Talaethol.

(7). Pob gwaith lleol o fewn y Dalaeth, yr hwn na bydd yn cyraedd o'r tu allan i derfynau y Dalaeth.

(8). Yn nghorfforiad Cwmniau gydag amcanion Talaethol.

(9). Yn ngweinyddiad cyfiawnder o fewn y Dalaeth, i gynwys cyfansoddiad, cynaliaeth, a chyd-drefniad llysoedd Talaethol, yn wladol a throseddol, yn nghyda mewn achosion gwladol yn y llysoedd hyny.

(10). Gosodiad cosb trwy ddirwy, difreiniad, neu garchariad am beidio cario allan unrhyw gyfraith o osodiad y Dalaeth a wnaed mewn perthynas i unrhyw fater a ddaw o fewn terfynau un o'r dosbarthiadau a nodir yn yr adran hon.

(11). Yn mhob achos yn dwyn perthynas â Chrefydd, Addysg, Amaethyddiaeth, Masnach, a Llafur o fewn y Dalaeth.

(12). Yn gyffredinol yn mhob achos a ddwg berthynas leol neu bersonol o fewn y Dalaeth.

DOSBARTHIADOL neu SIROL.

1. Fod holl awdurdod presenol Boards of Guardians, Highway Boards, Local Boards, Boards of Commissioners, Sanitary Authorities, School Boards, Burial Boards, School Attendance Committees, Municipal Corporations, a phob awdurdod lleol arall sydd a gallu gweinyddol ganddynt, i gael eu trosglwyddo i'r Cynghorau Sirol.

2. Fod yn perthyn i bob dosbarth neu Sir Recorder cyflogedig sydd i wrando pob mater cosbawl sydd yn awr yn dod o flaen Ustusiaid mewn Quarter Sessions, a Petty Sessions; a bod hawl i apelio oddiwrth eu dyfarniad at y Barnwr yn yr Assizes.

Nid oes dim yn cael ei golli i unrhyw achos cyhoeddas teilwng wrth ei wyntyllio. Nid ydym yn honi nas gellir gwella llawer ar yr awgrymiadau blaenorol. Mae darllenwyr y TRAETHODYDD yn ddigon doeth i weled nad yw yr oll a ysgrifenasom ond awgrymiadau gwasgarog gan berson unigol, yr hwn a ystyria fod ganddo cystal hawl i'w gosod o flaen y cyhoedd er cael eu barn arnynt, ag sydd gan eraill i'w beirniadu. Nid oes dim yn well i wlad sydd yn dyheu am ddiwygiadau, ac yn dynesu atynt, na thrafodaeth gyhoeddus a rhydd yn eu cylch, ac ymchwiliad manwl i'w rhagoriaethau a'u diffygion. Cyn yr esgora hyny ar ddim da, rhaid ei wneyd yn rhydd, brawdol, caredig, gonest, a manwl. Yr ydym ni wedi ceisio cadw at y cyfryw ysbryd, a disgwyliwn amlygiad o'r un teimlad wrth feirniadu ein cynygion. Ac fe'i ceir yn mhob gwir Gymro. Bydded llwyddiant dyfodol Cymru yn uchaf oll yn ein calon! Bethesda.

W. J. PARRY.

Y DIWEDDAR BARCH, T. J. JONES-LEWIS, B.A,

"EFE a noswyliodd ganol dydd:" er maint ei awydd am fyw ac am weithio, galwodd Duw ef i'r " breswylfa lonydd" yn ddeg-ar-hugain oed. Yr unig gymhwysder ynof fi, os cymhwysder hefyd, i ysgrifenu dim am dano yw, mai efe oedd y cyfaill goreu a feddwn ar y ddaear, a fy mod wedi cael mantais i wylio ei gymeriad a'i alluoedd yn ymddadblygu. Yr wyf yn cofio yn dda y diwrnod y daeth i mewn gyntaf i'm hystafell yn y Bala, gyda'r Proffeswr Hugh Williams. Nid oedd y pryd hwnw ond bachgen pymtheg oed, ac felly gryn lawer yn iau na'r rhan fwyaf o'r efrydwyr. Nid oeddwn wedi cael un rhybudd o'i ddyfodiad, ac nis gwyddwn yn iawn pa fath dderbyniad i'w roddi iddo. Deallais oddiwrth esboniad y Proffeswr Williams mai "lleygwr" ydoedd, a'i fod yn debyg o aros yn y Bala am rai blynyddoedd. Wrth feddwl y byddem yn byw gyda'n gilydd am gryn ysbaid, ac ystyried ein bod yn ddieithriaid hollol, lled ddyrys oedd y cwestiwn pa fodd yr ymdarawem gyda'n gilydd yn y bywyd newydd. Wedi cael awr neu ddwy yn ei gyfeillach, teimlwn y gallem fyw yn weddol gysurus; ac erbyn treulio wythnos yn yr hen ystafell, yr oeddym yn gyfeillion calon; a pharhaodd y cyfeillgarwch yn ddifwlch hyd nes i angeu ei dori dros enyd, i'w adnewyddu eto, mi obeithiaf, mewn gwlad y gellir dywedyd am dani,

Saethau'r bedd ni allant gyraedd

Ei hagosaf dalaeth hi;

Ac ni faidd y marwol elyn
Sangu ar y rhandir fry:
Cartref bywyd,

Cartref anfarwoldeb yw.

Bu ein cyfeillach yn ystod y flwyddyn gyntaf yn y Bala yn hynod fendithiol i mi. Yr oedd fy nghyfaill y pryd hwnw, fel trwy ei holl fywyd, yn fyfyriwr trwyadl. Byddai bob amser yn myned at ei waith yn rheolaidd ar yr awr benodedig. Nid arosai am "hwyl gweithio,” ond gweithiai hyd nes y deuai yr hwyl; ac nid yn aml y byddai yn methu ei chael. Ond hwyl neu beidio, rhaid oedd gorphen y dasg. Myfyriwr lled annhrefnus ac ansefydlog oeddwn inau, a'm tuedd yn barhaus i fyned at rywbeth heblaw y wers: bu ei ddyfalbarhad a’i gydwybodolrwydd gyda'i waith yn symbyliad dirfawr i mi. Gweithiai efe, hefyd, er mwyn enill gwybodaeth, ac nid dan ofn arholiad. Ychydig mewn cymhariaeth o wahaniaeth a wnai agosâd yr arholiad iddo ef; ac yn ystod dyddiau blin yr "exam.," byddai ef yn gorwedd yn hamddenol ar y sofa, yn darllen Syr Walter Scott neu Dickens. Byddai ei glywed yn tori allan i chwerthin uwchben digrifwch y diweddaf yn beth lled adgas i deimladau un fel myfi oedd ar y pryd mewn chwys a lludded yn ceisio "crammio" erbyn tranoeth. Ond yr oedd hamdden dyddiau yr arholiad ynddo ef yn ganlyniad naturiol y gwaith trwyadl a chyson a wnai ar hyd y flwyddyn: a dengys yr arholiadau yn y Bala na fu ef un amser ymhell o fod ar ben y rhestr. Yr oedd ynddo gyfuniad o ddau allu na welir mohonynt ynghyd ond yn anaml: yr oedd ei allu i dderbyn addysg ymhell tuhwnt i'r cyffredin, a chredaf ei fod wedi ei eni yn athraw. Yr oedd tystiolaeth y bechgyn fu dan ei ofal yn Mhorthaethwy yn gryf bob amser i'w gymhwysderau neillduol mewn gweinyddu addysg. Yr oedd ei ystôr o wybodaeth yn hynod drefnus, ac at ei alwad bob amser. Cafodd fanteision addysg foreuol da, er, fel y clywais ef yn dweyd, nid yn agos fel y dymunai; ond gwnaeth y goreu o'r breintiau a gafodd. Nid oedd pawb ohonom yn y Bala wedi cael hyn; a'r unig beth a fydd yn peri fod yn ddrwg genyf mai yn Gymro mewn ardal wledig y'm ganwyd, ydyw y diffyg manteision i gael addysg foreuol yr oedd yn rhaid i mi mewn canlyniad eu dioddef. Llawer gwaith y buom yn chwerthin yn galonog, pan yr adroddwn iddo fy helynt yn ceisio dysgu "siarad Saesoneg." Ond, yn ffodus, erbyn heddyw y mae oes yr

anhawsderau yn tynu tua'i therfyn, a manteision addysg ein cenedl yn cynyddu yn gyflym. Fel y crybwyllais eisoes, "lleygwr" oedd ef pan y daeth gyntaf i'r Bala; a hyd yr wyf yn cofio, efe oedd yr unig leygwr yno yn ei flwyddyn gyntaf. Bu yno am gryn ysbaid heb feddwl am bregethu: ond yr oedd ysbryd pregethu yn awyr y Bala, a hyd y gallaf gofio, ni ddaeth un lleygwr i'r Coleg yn ystod y pedair blynedd y bum i yno, na throdd yn bregethwr cyn y diwedd. Llefara hyn yn uchel am yr ysbrydiaeth a lywodraethai yr efrydwyr. Mae dyfod i gyffyrddiad agos ag ambell ddosbarth o ddynion yn lladd pob parch tuag atynt, gan nad pa mor uchel eu honiadau: ond yn bregethwyr yr elai lleygwyr y Bala. Fe allai mai y perygl yn awr ydyw i'r rhai a ddylent, o ran dawn a thalent, fod yn bregethwyr, droi at ryw alwedigaeth arall. Gresyn fyddai gweled pulpud Cymru wedi ei lanw â dynion di-dalent,-hen le y cewri wedi ei feddianu gan eiddilod! Meddianer diwylliant Cymru gan frwdfrydedd ysbrydol y tadau! Credaf na fyddai i'r lleygwyr a'r pregethwyr dderbyn eu haddysg yn yr un coleg yn un rhwystr i hyn. Dylai y dynion a broffesant fyw dan "nerthoedd y byd a ddaw" lefeinio ysbryd y lleygwyr â'u nerth ysbrydol eu hunain; tra y sicrhâi presenoldeb y lleygwyr i'r pregethwyr well adnabyddiaeth o'r natur ddynol a mwy o eangder meddwl a chydymdeimlad. Arferai fy niweddar gyfaill ddweyd fod ei gyffyrddiad ef â lleygwyr galluog yn Aberystwyth a Chaergrawnt wedi bod o ddirfawr fendith iddo ef, wedi iddo ddechreu pregethu. Ynghyd a phethau eraill a berthynent i'w duedd feddyliol ef ei hun, bu hyny yn arbenig yn foddion i osod y wedd ymarferol a welid bob amser ar ei bregethau, ac i beri iddo osod mwy o bwys ar fuchedd nag ar gydymffurfiad manwl ag "uniongrededd." Er ei fod ef ei hunan o ddechreu ei efrydiaeth hyd ddydd ei ymddatodiad yn geidwadwr lled gryf mewn athrawiaeth, ac yn tystio o hyd, er dyfod i gyffyrddiad â phob math o gredo, mai “gwell yw yr hen," eto byddai y diweddaf o bawb i gondemnio y sawl fyddai yn gwahaniaethu oddi wrtho ar bwne o athrawiaeth; ac yr oedd ei oddefgarwch yn cyfodi oddi ar gyfeillach â rhai gwahanol iawn iddo ef ei hun. Y mae cryn lawer o eilunaddoliaeth ynglyn ag athrawiaethau hyd yn nod yn y dyddiau diweddaf a goleuedig hyn, a disgyblaeth iachus i bregethwr ydyw cael ei osod ymhlith dynion mor alluog ag yntau, y rhai nad ystyriant bob gosodiad duwinyddol yn rhy gysegredig i'w wyntyllio. Nid yn aml y byddai cwestiynau duwinyddol ger bron genym yn ystod ein hamser yn y Bala. Yr oedd efe yn teimlo mwy o ddyddordeb mewn llenyddiaeth gyffredinol. Byddem yn arfer darllen bob yn ail ar brydiau bwyd ac ar oriau hamddenol. Darllenasom felly lawer o weithiau Macaulay, Ruskin, Scott, a Dickens. Nid anghofiaf yr adeg y daethom i adnabyddiaeth gyntaf â'r anfarwol "Mr. Pickwick,” a'i was "Sam Weller." Byddai yr ochr ddigrifol i bob cymeriad ac amgylchiad yn ei daro ar unwaith, a byddai yn tori allan i chwerthin yn galonog uwchben arabedd dihafal ei hoff awdwr, Dickens. Yr oedd mewn gwir gydymdeimlad â'r pathetic hefyd, a llawer tro y crynai ei lais ac y rhedai ei ddagrau pan y deuai ar draws ryw amgylchiad neu hanesyn llawn o'r

Still sad music of humanity.

Meddai ar chwaeth bur, a chasâi bob dim isel â chas perffaith. Yr oedd yn un o'r rhai puraf ei feddwl, ei iaith, a'i ymddygiad a adnabûm i erioed. Aeth drwy demtasiynau bywyd heb ei lygru gan lawer o'r pechodau nad oes i'r mwyafrif o blant dynion ond edifarhau am danynt.

Yr wyf wedi dechreu fel hyn yn lled afreolaidd, oherwydd fod fy meddwl yn ehedeg ar unwaith at yr adeg y cyfarfyddais ag ef gyntaf. Dylaswn, hwyrach, ddweyd gair am ei febyd. Ganwyd Thomas John Jones-Lewis yn Methesda, Hydref 26, 1858. Brodor oedd ei dad o Lanfairpwllgwyngyll; a'i fam, yr hon sydd yn chwaer i Mr. Thomas Lewis, A.S., o Gemaes yn Mon. Yr oedd y

Pan

ddau yn hanu o deuluoedd crefyddol, a derbyniodd Thomas John-fel y byddai ei gyfeillion yn ei alw hyd yn nod wedi iddo gyrhaedd "oedran gwr,"-bob manteision crefyddol o'i ddyddiau cyntaf. Symudodd ei rieni i Langefni, pan ydoedd tua dwy flwydd oed; ac yno y derbyniodd ei addysg foreuol. ydoedd tua deuddeg oed, anfonwyd ef i'r ysgol a gedwid gan y Parch. Hugh Williams, M.A., yn Mhorthaethwy; a phan y penodwyd Mr. Williams i'w gadair yn y Bala, aeth Thomas John yno gydag ef, a daethom i adnabod ein gilydd yn y ffordd a nodwyd eisoes. Wedi iddo dreulio ychydig gyda blwyddyn yn y Bala, galwodd amgylchiadau arno i fyned adref i Langefni, a bu am beth amser yn masnachdy ei dad yno. Ond buan y daethpwyd i weled nad oedd ei galon ef mewn masnach, a chafodd ddychwelyd i'r Bala. Mawr werthfawrogai dynerwch ei rieni yn hyn; a hyd y diwedd nid oedd dim yn fwy byw o flaen ei feddwl na'i ddyledswydd iddynt hwy, ac nid oedd dim a'i gofidiai yn fwy, wrth weled ei iechyd yn cilio, na bod eu caredigrwydd a'u gofal hwy am dano yn ymddangos fel wedi myned yn ofer. Wedi dychwelyd i'r Bala, ymroddodd i weithio, a safai ar ben y rhestr bron yn mhob arholiad. Ar ddiwedd ei yrfa yno, enillodd "Ysgoloriaeth Wright," yr hon a'i rhwymai i ymuno â Choleg Aberystwyth. Bu yn Aberystwyth am flwyddyn a haner, ac aeth oddiyno i Gaergrawnt, lle bu am dair blynedd a haner. Ei arosiad yn Nghaergrawnt a ystyriai bob amser yn gyfnod mwyaf dedwydd ei fywyd. Eto cyfnod llafurus ydoedd, a chyfnod, y mae lle i ofni, a welodd ddechreuad yr adfeiliad yn ei iechyd. Penderfynodd efrydu ar gyfer honours mewn duwinyddiaeth, a bu raid iddo lafurio yn galed iawn; oherwydd yr oedd ei efrydiaeth flaenorol wedi bod yn rhy gyffredinol i'w wneyd yn ysgolaig da mewn “special subject,” yr hyn sydd mor angenrheidiol er cyraedd llwyddiant yn Nghaergrawnt. Gofidiai oherwydd hyn yn fawr; a mynych y cyfeiriai mewn geiriau lled finiog at y ffaith ei fod wedi treulio pedair blynedd mewn coleg "duwinyddol," ac eto nad oedd ganddo ddim, oddigerth gwybodaeth o'r iaith Roeg, yn gefn iddo gogyfer âg astudiaeth dduwinyddol y prif-ysgolion. Ac yn Aberystwyth, coleg lleygol, y dysgodd hyd yn nod yr ychydig Hebraeg oedd ganddo pan y daeth i Gaergrawnt. Graddiodd yn yr ail ddosbarth yn y “ Theological Tripos" yn 1883. Dywedodd yr arholwyr wrtho pe buasai ei scholarship-yr hyn sydd yn anhawdd i neb heb fanteision boreuol mawr ei gyrhaedd-cystal a'i esboniadaeth, y buasai nid yn unig yn y dosbarth blaenaf, ond hefyd ar ben y rhestr o'r holl ymgeiswyr. Yn fuan ar ol gadael Caergrawnt ymsefydlodd i gadw ysgol yn Mhorthaethwy, ac yn niwedd 1885 symudodd at ei rieni i Langefni, gan ail-gychwyn ei ysgol yno. Yn ystod y blynyddoedd hyn-y rhai oeddynt, rhwng pregethu ac addysgu, yn llawn gwaith-cafodd ddau waeledd trwm, y cyntaf yn Ionawr, 1884, pryd y cafodd waed-gyfog peryglus yn ngorsaf Bangor, a'r ail yn Llundain, yn Ionawr, 1886, pan y tarawyd ef gan enyniad yr ysgyfaint, yr hwn a adawodd ôl arno fel y cynghorwyd ef, gan Syr William Roberts, ymhlith eraill, i ymfudo i hinsawdd fwy tymherus. Penderfynodd fyned ar unwaith i Ddeheubarth California, lle a ystyriai y meddygon cystal ag unlle y gellid meddwl am dano. Nid oes ofod nac amser i'w ddilyn ar ei hynt yn America. Treuliodd yno, fel y clywais ef yn dweyd, rai o'i ddyddiau mwyaf dedwydd, a llawer o ddyddiau chwerwaf ei fywyd. Nis gallodd bregethu nemawr-ciliodd ei lais yn bur fuan. Defnyddiodd ei ysgrifbin yno i bwrpas sylweddol, a bu yn llwyddianus iawn gyda'i hoff waith o arlunio. Teithiodd drwy ranau helaeth o Galifornia, ac, yn nechreu 1888 aeth gyda theulu caredig a adwaenai i Portland, Oregon. Yr oedd yr hinsawdd yno, fodd bynag, heb fod mor sych ag yn California, a gwaethygodd ei iechyd yn fuan ar ol ei symudiad. Gan ei fod yn ofni fod agosrwydd California i'r môr yn niweidio ei wddf, penderfynodd beidio dychwelyd yno, ac aeth i fynyddoedd Colorado, lle y bu gyda dau gyfaill am

[ocr errors]

rai misoedd, yn byw ar cattle-ranche ar lethrau Pike's Peak, un o'r manau mwyaf rhamantus yn y wlad. Tua'r Nadolig yn yr un flwyddyn, aeth ar wibdaith i Chicago i weled ei frawd, ond cafodd anwyd; a chan fod ei feddyg yn Chicago yn ameu a oedd Colorado yn gwneyd lles gwirioneddol iddo, aeth i lawr i'r Deheu, gan ymsefydlu yn Asheville, North Carolina. Ond erbyn hyn yr oedd y gelyn anweledig yn yr ysgyfaint a'r gwddf wedi cael y llaw uchaf arno, ac yr oedd yn gwaethygu o hyd. Dychwelodd at ei deulu i Fangor yn Mehefin diweddaf, wedi gweled fod y diwedd yn agosau. Bu farw boreu Gwener, Awst 30ain, y dydd ar ol y Gymdeithasfa, pan o fewn dau fis i'w unfed flwydd ar ddeg ar hugain. Yr oedd yn barod i'w ymddatodiad, ac wedi cyrhaedd i dir uchel o ran ei ysbryd a'i brofiad. Nis gall dim ddangos hyny yn well na rhan o lythyr a dderbyniais oddi wrtho y dydd ar ol iddo gyraedd gartref:

Wel, y mae yr ymdrech hirfaith am iechyd wedi darfod, ac yr wyf wedi fy nghuro all along the line, gan belled ag y mae fy rhagolygon bydol, a nerth fy nghorff yn myned; ond ar faes uwch credar-yn wir, gwn,-fy mod yn orchfygwr.

Wrth ymadael a New York, nis gallwn beidio cymharu dydd fy nyfodiad i'r America a dydd fy ymadawiad. Cyrhaeddais ar foren digwmwl à gogoneddus, llawn o obaith a llewyrch; yr oeddwn yn ymadael ar brydnawn trymaidd, cymylog, a digalon. Ond glaniais yn yr hen wlad mewn hedd a thawelwch, a'r heulwen unwaith eto yn ei gogoniant; tra y gadawswn ei glanau mewn ystorm. Y mae compensations yn yr hen fywyd yma, wedi'r cyfan. Yr ydwyf yn siriol a thawel fy meddwl, ac yn barod i ymfoddloni i'r Ewyllys Fawr, beth bynag sydd ganddi yn nghudd. Os oes ysbaid o fywyd i mi eto ar y ddaear, yr wyf yn gobeithio ei fwynhau: os bydd yr alwad i fyned i fyny yna, yr wyf yn barod, oblegid y mae y Brawa hynaf we li myned i barotoi lle i mi. A'r hen gyfeillion y caf eu gweled! Wedi'r cyfan, y mae yn syn gymaint o afael sydd gan ddyn yn mywyd yr hen ddaear yma!

Yr oedd yn ysgrifenydd mawr,--ac yn gyfansoddwr rhwydd a rhigl bob amser yn Saesoneg. Cyhoeddwyd dwy ramant o'i eiddo, un, “Ednyfed Fychan," yn Gymraeg, a'r llall yn Saesoneg yn yr University College of Wales Magazine. Cyhoeddwyd llawer ysgrif o'i eiddo mewn cyfnodolion Seisonig yn Lloegr ac America. Yr oedd er yn foreu yn hoff o ysgrifenu dyddlyfrau; ac y maent bron oll ar gael, yn cynwys hanes ei ddyddiau hapus yn y Bala, yn Nghaergrawnt, a'i deithiau yn yr America. Estyna y coflyfr a ysgrifenodd yn Nghaergrawnt i dair cyfrol drwchus, a chynwysa lawer o bethau hynod ddyddorol ac o deilyngdod llenyddol uchel, yn gymysgedig a “byrebion" o hanes personol. Gwyr amryw am y coflyfr a ysgrifenodd yn America, a'r hwn ag y mae pawb sydd wedi ei weled a'i ddarllen yn ei ganmol yn uchel a diamwys. Gobeithio y gwelir rhanau ohono drwy y wasg cyn bo hir. Dichon mai nid annyddorol fyddai rhoddi dyfyniad neu ddau o'r coflyfrau hyn, y rhai allant fod o gynorthwy i'r darllenydd i'w adnabod yn well.

A ganlyn sydd rydd-gyfieithiad o linellau a ysgrifenwyd ganddo ychydig cyn ei arholiad yn Nghaergrawnt:

Dydd Mawrth, Rhagfyr 5, 1882.-Cawsom ein heisteddiad diweddaf gyda Gwatkin [ei tutor heddyw. Teimlad lled ryfedd, rywfodd, ydoedd fod dwy flynedd o efrydiaeth wedi dirwyn i fyny. Yr ydym, oddeutu deg ohonom, wedi bod yn ymgyfarfod bron bob dydd yn y term yr holl amser yna. Heddyw daethom at ein gilydd am y tro diweddaf. Y mae geiriau Gwatkin ar ddiwedd ei ddarlith yn werth i'w cofnodi-geiriau a hir gotir genyf fi, beth bynag. Ac yn awr, foneddigion," meddai, "dyma fy ngwaith i ar eich rhan drosodd. Yr wyf, can belled ag yr oedd ynof, wedi ymdrechu dwyn goleuni gwyddoreg a hanes i ddangos i chwi rai o ryfeddodau allanol Teml Dduw. Fy ngweddi yw ar fod i allu uwch eich arwain i'r cysegr sydd o'r tu fewn i'r llen." Ydyw, y mae ei waith drosodd, ond nid drosodd chwaith, mi hyderaf. Nis gallasai neb fod o dan ddylanwad ac mewn cyfathrach a'r fath ddyn a Gwatkin mor hir, heb deimlo llawer oddi wrth hyny. Ni fydd i ddwy flynedd fel y rhai a aethant heibio fod heb adael eu nod arnom. Nid wyf yn siarad am arholiadau yn awr; nid er eu mwyn hwy yr ydym yn byw, a gall y wybodaeth sydd yn awr yn drysoredig yn ein cof a'n meddwl ddiflanu a myned yn anghof mewn byr amser. Ond, er hyny, erys nod dylanwad Gwatkin a'i waith o hyd arnom. Y mae wedi dysgu i mi nad ydyw uniongrededd yn anghydweddol a gwybodaeth. Nid yw ei uniongrededd ef yn rhywbeth ail-law (second-hand); y mae wedi ei gyrhaedd ar ol ymchwiliad manwl a difrifol. Y mae wedi fy nysgu Innau i fod yn llai rhagfarnllyd ac eangach fy nghydymdeimlad. Er yn uniongred ei hunan, gall weled yr hyn sydd dda yn y rhai sydd yn gwahaniaethu oddi wrtho. Y mae wedi dyrchafu fy meddwl am Eglwys Loegr; a'r hyn sydd yn fwy na'r cyfan, y mae wedi cynyrchu ynof barch gwirioneddol i Lyfry llyfrau-y parch sydd seiliedig,

« ZurückWeiter »